Gofalwyr

Trosolwg a negeseuon allweddol

Bydd gofalu yn effeithio ar ein bywydau ni i gyd ar ryw adeg: bydd 3 o bob 5 ohonom ni’n ofalwyr a bydd angen gofal ar lawer ohonom hefyd yn ystod ein hoes (George, 2001). Gofalwyr yw’r mamau, tadau, meibion, merched, brodyr a chwiorydd, gwŷr a gwragedd, ffrindiau a chymdogion sy’n darparu gofal di-dâl, gan ofalu yn y cartref, codi presgripsiynau, newid gorchuddion, rhoi cymorth emosiynol y mae mawr ei angen a llawer mwy, ac yn aml yn esgeuluso eu hanghenion eu hunain o ran iechyd a lles. Mae gofalwyr yn hollbwysig i’r bobl maent yn gofalu amdanynt ac i sylfaen y system iechyd a gofal cymdeithasol.
 
  • Mae oddeutu 1 o bob 8 o bobl yng ngorllewin Cymru, llawer ohonynt yn bobl ifanc, yn darparu gofal di-dâl, ac mae cyfran sylweddol yn darparu rhwng 20 a 50+ o oriau o ofal di-dâl yr wythnos.
  • Mae darparu gofal di-dâl yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth i’r boblogaeth heneiddio, gyda disgwyliad y bydd y galw am ofal a ddarperir gan wŷr a gwragedd a phlant mewn oed yn fwy na dyblu dros y tri deg mlynedd nesaf (gweler, er enghraifft, Pickard, 2008).
  • Ar sail cyfrifiad cenedlaethol a wnaethpwyd gan Carers UK a Phrifysgol Sheffield yn 2015 (Buckner a Yeandle, 2015), gellir amcangyfrif mai £924 miliwn fyddai cost darparu gofal yn lle’r gofal di-dâl a roddir yng ngorllewin Cymru. Mae hyn yn fwy na chyllideb flynyddol y GIG i’r rhanbarth, sef bron £727 miliwn (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 2016a).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Demograffeg a thueddiadau

  • Mwy na 47,000 o ofalwyr di-dâl yng ngorllewin Cymru, sef 12.5% o’r preswylwyr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2011):
  • Y grŵp oedran oedd yn darparu’r gyfran fwyaf o ofal oedd menywod 50-64 oed – roedd mwy na chwarter yr holl fenywod yn y grŵp oedran hwn yn darparu rhywfaint o ofal di-dâl
  • 7.2% o’r boblogaeth yn darparu 1-19 awr o ofal di-dâl bob wythnos
  • 1.7% yn darparu 20-49 awr o ofal di-dâl bob wythnos
  • 3.5% yn darparu mwy na 50 awr o ofal di-dâl bob wythnos

Anghenion o ran cymorth yn y presennol a’r dyfodol

  • Y gall darparu mwy na 50 awr o ofal di-dâl wneud afiechyd a hunangofnodir yn fwy tebygol (data o’r Cyfrifiad)
  • Gall effaith tymor byr a thymor hir ymgwympiad gofalwyr fod yn drychinebus. Gall gofalwyr gael eu derbyn i’r ysbyty ochr yn ochr â’u hanwyliaid sy’n sâl neu’n anabl (Carers UK, 2014)
  • Gall gofalu am rywun sydd â dementia neu anghenion iechyd meddwl gael effaith fwy hyd yn oed, gan arwain at straen a rhwystredigaeth ac effaith niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol gofalwyr
  • Yn aml mae gofalwyr yn dweud nad yw eu rhan yn y gofal yn cael ei chydnabod yn ddigonol ac nad yw eu gwybodaeth arbenigol am y ‘person sy’n derbyn gofal’ yn cael ei chymryd i ystyriaeth. Gall model datgysylltiedig o gyfranogiad fel hyn arwain at allgau gofalwyr ar adegau pwysig (Worthington et al, 2013); a chyfrannodd y broblem hon at dderbyn y person oedd yn derbyn gofal i’r ysbyty eto mewn 62% o achosion (Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, 2016)
  • Gall fod yn anodd i ofalwyr o oedran gweithio gyfuno gwaith am dâl â dyletswyddau gofalu a gall gofalwyr ddewis rhoi’r gorau i waith am dâl neu leihau eu horiau gwaith (OECD, 2011)
  • Mae oddeutu 5% neu 1 o bob 20 o bobl o oedran gweithio’n cyfuno gwaith am dâl â’u rôl fel gofal wyr di-dâl (Carers UK, 2013b) ond eto i gyd ar draws y rhanbarth oddeutu 2.0% yw canran y bobl o oedran gweithio sy’n hawlio Lwfans Gofalwr. Er bod hyn yn gymaradwy â chanran Cymru (2.1%) yng Ngheredigion mae’r ganran yn is (1.4%) (Uned Ddata Cymru, 2015). Mae’r nifer o daliadau uniongyrchol i ofalwyr drwy eu hawl eu hunain hefyd yn fach, a allai fod yn gysylltiedig â’r nifer sy’n derbyn cynigion i gael asesiad. Mae mwy na thraean y gofalwyr yn peidio â hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth oherwydd na wyddent y gallent eu hawlio (Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, 2016)

 

 

 

“Dywedodd un gofalwr wrth y derbynnydd ym meddygfa ei meddyg teulu nad oedd yn ymdopi gartref oherwydd y straen o fod yn ofalwr i’w gŵr oedd wedi cael diagnosis o ddementia. Roedd ar ei phen ei hun, ac nid oedd neb yn deall sut y gallai ei gŵr fod yn llond llaw gan fod ei ffrindiau a’i deulu yn ei adnabod fel dyn caredig a gofalgar”

Ffynhonnell: Buddsoddwyr mewn Gofalwyr Rhanbarthol Hywel Dda 2016)

 

 

 

Y ddarpariaeth cymorth bresennol

Ar hyn o bryd mae anghenion gofalwyr yn cael eu diwallu yn y rhanbarth trwy amrywiaeth o wasanaethau sy’n cael eu darparu neu eu comisiynu gan yr awdurdodau lleol, iechyd, y trydydd sector a grwpiau cymunedol lleol eraill. Gellir rhannu’r rhain yn fras i wasanaethau sy’n cynorthwyo â’r canlynol:
  • Canfod a chydnabod
  • Cyngor a gwybodaeth
  • Asesu anghenion gofalwyr
  • Cymorth ymarferol (er enghraifft gofal amgen, cymorth yn y cartref, siopa)
  • Eiriolaeth
  • Cymorth cyflwr benodol i’r gofalwr a’r person mae’n gofalu amdano
Mae’r dystiolaeth o welliannau’n cynnwys:
  • Cynnydd yng nghanran y gofalwyr a ganfuwyd o 10.2% yn 2013 i 20.6% yn 2016
  • Cynnydd yn nifer y gofalwyr sydd wedi’u cofrestru gyda meddygfeydd meddygon teulu yn y rhanbarth o 5,871 yn 2015 i fwy na 6,138 ym Mehefin 2016. Hefyd gwnaeth meddygfeydd meddygon teulu 635 o atgyfeiriadau gofalwyr i gael mwy o gymorth a chefnogaeth (bron 40% yn fwy nag yn 2015)
  • Adborth cadarnhaol, er enghraifft

 

 

 

“Sylweddolais i mai gofalwr oeddwn i ac y gallwn gofrestru gyda fy meddyg teulu ar ôl gweld yr hysbysiadau ar y bwrdd yn y feddygfa”

Ffynhonnell: Buddsoddwyr mewn Gofalwyr Rhanbarthol Hywel Dda (2016)

 

 

Bylchau a meysydd i’w gwella

Mae yna heriau wrth wella profiad a chanlyniadau i ofalwyr gan gynnwys:
 
  • Codi proffil gofalwyr a dealltwriaeth y cyhoedd ohonynt a gwreiddio arferion da yn ymwneud ag adnabod, gwybodaeth, ymgynghori a chyngor ynglŷn â budd-daliadau
  • Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth, yn cynnwys gwasanaethau gwybodaeth a hyfforddiant i ofalwyr, sy’n cefnogi pob un o’r cyfnodau allweddol ar y siwrnai ofalu
  • Sicrhau bod gofalwyr a’u teuluoedd yn gallu cyrchu at wasanaethau drwy eu dewis iaith a bod y cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael
  • Gwella’r prosesau asesu a chynllunio gofal i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am y sawl sy’n cael gofal, yn cynnwys cynllunio rhyddhau
  • Datblygu prosesau comisiynu a chaffael cyson, integredig, wedi’u seilio ar egwyddorion cydgynhyrchu, sy’n cynnwys grwpiau a fforymau yn y gymuned, o dan arweiniad defnyddwyr, yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau
  • Cynyddu’r defnydd o daliadau uniongyrchol drwy ddatblygu cadwyni cyflenwi seiliedig yn y gymuned sy’n cydgynhyrchu modelau newydd i gyflenwi gwasanaethau, megis cwmnïau cydweithredol gofalwyr
  • Datblygu Cynlluniau Cludiant Cymunedol integredig a chonsesiynau eraill ar ôl-troed rhanbarthol er mwyn darparu gwasanaeth mwy cyson sy’n cydweddu â Thaliadau Uniongyrchol, cynlluniau Talebau a chynlluniau cymunedol eraill
  • Mynd i’r afael â materion llety i’r rhai sy’n gofalu am bobl hŷn neu bobl ag anableddau dysgu y mae angen iddynt symud cartref o le amhriodol, neu y mae angen cymorth arnynt gydag addasiadau, cyfarpar, gwaith atgyweirio a gwelliannau, polisïau gosod, larymau a thechnolegau teleofal
  • Integreiddio asesiad effaith ar ofalwyr i’r prosesau cynllunio ar gyfer rhaglenni seilwaith megis cludiant, tai a datblygiadau technoleg a rhaglenni cymunedol perthnasol eraill