Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn rhanbarth Gorllewin Cymru rhwng 18 a 64 oed yn cael gofal a chymorth ar gyfer angen penodol neu nodwedd warchodedig. Yn hytrach, cânt eu gwasanaethu gan wybodaeth iechyd y cyhoedd a rhaglenni cenedlaethol a lleol sydd wedi'u cynllunio i annog ffyrdd o fyw ac arferion iach. Nod y rhaglenni hyn yw lleihau ffactorau risg penodol i iechyd megis clefyd cardiofasgwlaidd, a gyflawnir yn aml gan strategaethau i leihau gordewdra ac ysmygu a gwella deiet.

Mae yna gyfran o bobl sydd ag amrywiaeth o anghenion penodol oherwydd anabledd corfforol neu gyflyrau iechyd cronig y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt i'w galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl.

  • Mae mwy na 22,000 o bobl sydd â hawl i dderbyn Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Mae mwy na 10,000 o bobl sydd â hawl i dderbyn Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Mae mwy na 13,500 o bobl sydd â hawl i dderbyn Lwfans Gweini (AA) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Ar hyn o bryd mae 217,689 o bobl rhwng 18 a 64 oed yn rhanbarth Gorllewin Cymru. Mae hyn yn hafal â thua 69% o’r boblogaeth oedolion ar draws y rhanbarth, gyda chyfran ychydig yn is yn Sir Benfro ar 68%, nag yn Sir Gâr a Cheredigion, ar 70% (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2019).
  • Nid oes gan 5.5% o bobl rhwng 16 a 64 oed yng Ngheredigion wres canolog, 3.5% yn Sir Benfro a 2% yn Sir Gâr (StatsWales).
  • Awgrymodd Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 36.9%, 27.6% a 25.3% o oedolion yn actif am lai na 30 munud yr wythnos yn Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion, yn y drefn honno.
  • Yn Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion amcangyfrifwyd bod 25.0%, 21.7% a 23.3% o bobl wedi bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod cyn yr arolwg, yn y drefn honno.
  • Roedd 5.8% o oedolion yn Sir Benfro yn ddefnyddwyr e-sigarennau, 6.7% yn Sir Gâr a 4.2% yng Ngheredigion.

Er y rhagwelir gostyngiad yn nifer y bobl o fewn y grŵp hwn yn y tymor canolig a bod nifer presennol y gweithwyr sydd ag anghenion gofal a chymorth penodol yn fach, mae'n hanfodol bod darpariaeth briodol ar waith i hybu llesiant ac annibyniaeth ac atal cynnydd mewn angen.


A man in a wheelchair using a vehicle lift


Bydd gan bobl sydd â chyflyrau iechyd a/neu anableddau corfforol ystod o anghenion gofal a chymorth, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol. Yn fras, bydd yr ystod hon yn cwmpasu:

  • Anghenion cyffredinol - er enghraifft, gwybodaeth a chyngor, cefnogaeth lefel isel, gwasanaethau ataliol, megis cymorth a chyngor dietegol.
  • Anghenion lluosog a chymhleth sy'n gofyn am gymorth aml-asiantaeth wedi'i gydlynu i fynd i'r afael â materion penodol a'u rheoli.

Roedd Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithredu ar Fyw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd yn 2013, yn nodi camau i hyrwyddo cymdeithas gynhwysol sy'n galluogi, i sicrhau bod pobl o bob oed ac o bob cymuned yn gallu parhau i fyw'n annibynnol, mwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pryd a sut maent ei angen.

Lle bynnag y bo'n bosibl, byddwn yn ceisio "cyd-gynhyrchu" gwasanaethau yng Ngorllewin Cymru. Hynny yw, byddwn ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys pobl anabl i ddylunio, cyflawni a gwerthuso mentrau newydd.

Isod, rhestrir rhai o'r themâu a'r materion sy'n codi dro ar ôl tro:

  • Gwella seilwaith a gwybodaeth, i sicrhau bod pobl ag anabledd neu gyflwr cyfyngol yn gallu cael mynediad i safleoedd sy'n darparu'r gwasanaethau gofal a chymorth y mae ganddynt hawl iddynt.
  • Cydnabod gofynion newidiol pobl ag anabledd neu gyflwr cyfyngol. Roedd llawer o adeiladau'n cydymffurfio â deddfwriaeth anabledd 1995 i fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn ond, mae bron pob person ag anableddau bellach yn defnyddio sgwteri
  • Cynyddu’r dewis o lety priodol a hygyrch sydd ar gael
  • Cynnwys pobl ag anableddau gwahanol yn y cam o gynllunio a dylunio adeiladau newydd a rhai sydd wedi'u hadnewyddu. Gall cydnabod eu safbwyntiau a'u profiad sicrhau bod unrhyw ddatblygiad newydd yn hawdd eu defnyddio ac yn hygyrch
  • Lleihau cyfyngiadau ynghylch gwella ac addasu cartrefi i helpu pobl i ymdopi yn eu cartrefi eu hunain am gyhyd â phosibl
  • Nodi atebion amgen i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig lle nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn ddigonol
  • Gwella asesiadau a chynlluniau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i unigolion ac yn gallu bod yn hyblyg wrth ymateb i anghenion sy'n newid

Mae'r pandemig wedi arwain at fwy o arwahanrwydd ac amharu ar fywyd arferol, gan gael effaith ddramatig ar fynediad at wasanaethau yn gyffredinol ac yn arbennig ar gyfer pobl ag anabledd neu gyflwr cyfyngol, yr oedd llawer ohonynt yn gwarchod yn ystod y pandemig. Gan fod mynediad at ofal sylfaenol a gwasanaethau cleifion allanol yn gyfyngedig iawn neu'n mynd yn rhithwir, mae llawer o bobl wedi methu cael mynediad at eu cymorth rheolaidd neu wedi bod yn rhy agored i niwed i wneud hynny.