Trosolwg a negeseuon allweddol
Mae sawl ffordd y gellir diffinio’r term ‘anabledd dysgu’, ond at ddibenion yr asesiad hwn, diffinnir anabledd dysgu fel:
- Gallu sylweddol lai i ddeall gwybodaeth newydd neu gymhleth ac i ddysgu sgiliau newydd (nam ar ddeallusrwydd)
- Gallu llai i ymdopi’n annibynnol (nam ar weithredu cymdeithasol); neu
- Mae’r rhain yn bresennol yn ystod plentyndod ac yn cael effaith barhaus ar ddatblygiad.
Mae’r ffordd mae anghenion pobl ag Anabledd Dysgu’n cael eu diwallu wedi newid dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae pobl a fyddai wedi cael eu rhoi mewn sefydliad yn y gorffennol yn cael eu cynorthwyo fwyfwy i fyw yn eu cymunedau. Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â’r trydydd sector yn cydweithredu i sicrhau’r annibyniaeth a photensial mwyaf posibl i’r rheiny sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
Er nad yw awtistiaeth yn anabledd dysgu mae wedi cael ei chynnwys yn yr adran hon gan fod gwasanaethau i bobl sydd ar y sbectrwm yn cael eu darparu fel arfer gan dimau anabledd dysgu neu dimau iechyd meddwl cymunedol ac mae canllawiau NICE (2008, 2012) yn darparu safonau ar gyfer darpariaeth gwasanaethau.