Mesur canlyniadau

Mesur canlyniadau

Un dyhead allweddol yn y Ddeddf yw bod gwasanaethau ar draws y sector statudol, y sector annibynnol a’r trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth i adeiladu ar gryfderau a gallu pobl ac yn eu galluogi i gynnal lefel briodol o annibyniaeth a gwireddu’u hamcanion personol. Yn gefn i hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt ac i ofalwyr y mae angen cymorth arnynt. Mae’r Fframwaith yn cynnwys cyfres o ganlyniadau llesiant cenedlaethol y dylai’r grwpiau hyn eu disgwyl er mwyn arwain bywydau cyflawn. Dangosir y rhain isod:

Beth yw ystyr llesiant Canlyniadau llesiant cenedlaethol
Sicrhau Hawliau
Hefyd yn achos oedolion: Rheolaeth dros fywyd o ddydd i ddydd
N1 Rwy'n gwybod ac yn deall pa ofal, cymorth a chyfleoedd sydd ar gael ac yn eu defnyddio er mwyn fy helpu i sicrhau fy lles.
N2 Gallaf gael gafael ar y wybodaeth gywir, pan fydd ei hangen arnaf, yn y ffordd rwyf am ei chael a defnyddio'r wybodaeth hon i reoli a gwella fy lles.
N3 Caf fy nhrin ag urddas a pharch ac rwy'n trin eraill yn yr un modd.
N4 Caiff fy llais ei glywed a gwrandewir arno.
N5 Caiff fy amgylchiadau unigol eu hystyried.
N6 Rwy'n siarad drosof fy hun ac yn cyfrannu at y penderfyniadau sy'n effeithio ar fy mywyd neu mae gennyf rywun a all wneud hynny drosof.
Iechyd corfforol a meddyliol a llesiant emosiynol
Hefyd yn achos plant: Datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol
N7 Rwy'n iach ac yn weithgar ac yn gwneud pethau i gadw fy hun yn iach.
N8 Rwy'n hapus ac yn gwneud pethau sy'n fy ngwneud yn hapus.
N9 Caf y gofal a'r cymorth cywir, cyn gynted â phosibl.
Diogelwch rhag camdriniaeth ac esgeulustod N10 Rwy'n ddiogel a chaf fy amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod.
N11 Caf gymorth i amddiffyn y bobl sy'n bwysig i mi rhag camdriniaeth ac esgeulustod.
N12 Caf wybodaeth am sut i leisio fy mhryderon.
Addysg, hyfforddiant a hamdden N13 Gallaf ddysgu a datblygu i'm llawn botensial.
N14 Rwy'n gwneud y pethau sy'n bwysig i mi.
Cydberthnasau domestig, teuluol a phersonol N15 Rwy'n perthyn.
N16 Rwy'n cyfrannu at gydberthnasau diogel ac iach ac yn eu mwynhau.
Cyfraniad a wneir i gymdeithas N17 Rwy'n ymgysylltu â'm cymuned ac yn cyfrannu ati.
N18 Teimlaf fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi mewn cymdeithas.
Llesiant cymdeithasol ac economaidd
Hefyd yn achos oedolion: Cymryd rhan mewn gwaith
N19 Rwy'n cyfrannu at fy mywyd cymdeithasol a gallaf fod gyda'r bobl a ddewisaf.
N20 Nid wyf yn byw mewn tlodi.
N21 Caf gymorth i weithio.
N22 Rwy'n cael yr help sydd ei angen arnaf i dyfu i fyny a bod yn annibynnol.
N23 Caf ofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg os byddaf am ei gael.
Addasrwydd llety N24 Rwy'n byw mewn cartref sy'n fy helpu yn y ffordd orau i sicrhau fy lles.

Mae canlyniadau’n cael eu datblygu hefyd ar lefel ranbarthol, gan adeiladu ar y fframwaith cenedlaethol, i fesur effaith gofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru. Ategir y fframwaith gan fesurau perfformiad penodol i’n helpu i fonitro cynnydd. Bydd yn cael ei lansio yn ystod 2018-19 ac yn gefn iddo bydd cronfa ddata gynhwysfawr a ddatblygwyd yn dilyn yr Asesiad Poblogaeth a thrwyddi byddwn yn ceisio safoni’r setiau data sy’n ymdrin â’r boblogaeth a gwasanaethau ar draws y Rhanbarth.

Yn y Cynllun Cyflawni (Adran 3) rydym yn cysylltu pob amcan â’r Canlyniadau Cenedlaethol perthnasol a byddwn yn diweddaru’r Cynllun i gynnwys y canlyniadau rhanbarthol wrth i’r rhain gael eu cwblhau.

Nesaf