Mae ein hiechyd meddwl yn effeithio ar y ffordd yr ydym ni'n meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu. Gall agwedd iach leihau dwyster a hyd afiechydon, tra gall iechyd meddwl gwael gael yr effaith i'r gwrthwyneb. Dangoswyd bod iselder a'i symptomau yn ffactorau risg mawr yn natblygiad clefyd coronaidd y galon a marwolaeth ar ôl cnawdnychiad myocardiaidd. Mae stigma ynghylch salwch meddwl yn gyffredin a gall gyfrannu at fod pobl o bosibl yn cuddio materion sy'n ymwneud â'u hiechyd meddwl yn hytrach na cheisio cymorth. Gellir lliniaru hyn drwy gynyddu gwybodaeth, addysg ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Yn ôl Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru

  • Mae 1 o bob 4 oedolyn yn cael problemau neu salwch iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau.
  • Mae 1 o bob 6 oedolyn yn profi symptomau ar unrhyw un adeg.
  • Mae gan 1 o bob 10 plentyn rhwng 5 ac 16 oed broblem iechyd meddwl, ac mae gan lawer mwy broblemau ymddygiad.
  • Bydd tua 50% o'r bobl sy'n mynd ymlaen i gael problemau iechyd meddwl difrifol yn cael symptomau erbyn eu bod yn 14 oed, ac yn iau o lawer yn achos llawer ohonynt.

Mae cofrestr Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau Iechyd Meddwl Hywel Dda yn cofnodi tua 4,100 o gleifion yn 2019.

  • Dengys data cyfredol fod 6,192 o fenywod, a 3,616 o ddynion, yng Ngheredigion ar hyn o bryd sydd ag anhwylderau meddwl cyffredin. Erbyn 2043, dengys amcanestyniadau y bydd lleihad bach, gyda 5,868 o fenywod, a 3,243 o ddynion, yn byw gydag anhwylderau meddwl cyffredin. Yn Sir Benfro, dengys data fod 10,425 o fenywod, a 6,276 o ddynion ag anhwylderau meddwl cyffredin. Dengys amcanestyniadau presennol am 2043 fân godiad, gyda 10,492 o fenywod, a 6,384 o ddynion ag anhwylderau meddwl cyffredin. Yn Sir Gâr, ar hyn o bryd mae 15,845 o fenywod, a 9,498 o ddynion, ag anhwylderau meddwl cyffredin. Dengys amcanestyniadau presennol fân godiad erbyn 2043, a disgwylir y bydd 16,378 o fenywod, a 9,544 o ddynion ag anhwylderau meddwl cyffredin.
  • Dengys data fod 375 o fenywod a 1,058 o ddynion ag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol yng Ngheredigion. Dengys amcanestyniadau leihad yn y niferoedd hyn erbyn 2043, gyda 342 o fenywod a 933 o ddynion ag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol. Yn Sir Benfro, dengys data fod 571 o fenywod a 1,676 o ddynion ag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol, gydag amcanestyniadau’n dangos y bydd hyn yn lleihau erbyn 2043 i 533 o fenywod a 1,606 o ddynion. Yn Sir Gâr, mae 907 o fenywod a 2,551 o ddynion ag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol, dengys amcanestyniadau y bydd hyn yn lleihau erbyn 2043 i 887 o fenywod a 2,487 o ddynion.
  • Dengys data fod 496 o fenywod a 558 o ddynion 16 oed a throsodd sydd ag anhwylder deubegynol yng Ngheredigion. Erbyn 2043 dengys data y bydd hyn yn lleihau i 451 o fenywod, a 490 o ddynion. Yn Sir Benfro, mae 779 o fenywod, ac 898 o ddynion ag anhwylder deubegynol. Erbyn 2043, dengys data y gallai’r niferoedd hyn leihau ychydig, i 731 o fenywod, ac 871 o ddynion. Yn Sir Gâr, mae 1,224 o fenywod, a 1,372 o ddynion ag anhwylder deubegynol. Dengys amcanestyniadau niferoedd tebyg erbyn 2043, gyda 1,202 o fenywod, a 1,347 o ddynion ag anhwylder deubegynol. Ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru, mae anhwylder deubegynol yn effeithio’n fwy ar ddynion na menywod, ac eithrio yn y categorïau oedran 16-24 a 65-74.
  • Dengys data fod 643 o fenywod a 448 o ddynion yng Ngheredigion ar hyn o bryd ag anhwylder personoliaeth ffiniol. Dengys amcanestyniadau hyd 2043 fod mân leihad yn cael ei ddisgwyl, i 602 o fenywod, a 414 o ddynion. Yn Sir Benfro, dengys data fod 898 o fenywod a 602 o ddynion ag anhwylder personoliaeth ffiniol ar hyn o bryd. Dengys amcanestyniadau 2043 fân leihad yn y ffigurau hyn, i 839 o fenywod a 600 o ddynion. Yn Sir Gâr, ar hyn o bryd mae 1,422 o fenywod, a 963 o ddynion, ag anhwylder personoliaeth ffiniol. Dengys amcanestyniadau presennol fân newid, i 1,402 o fenywod a 944 o ddynion erbyn 2043. Ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru, dengys y data fod yr anhwylder yn fwyaf cyffredin ymlith pobl 16-34 oed.
  • Dengys data fod 169 o fenywod, a 113 o ddynion ag anhwylderau seicotig yng Ngheredigion ar hyn o bryd. Erbyn 2043, dengys amcanestyniadau presennol leihad bach yn y niferoedd hyn, i 154 o fenywod, a 94 o ddynion. Yn Sir Benfro, mae 297 o fenywod, a 205 o ddynion, ag anhwylderau seicotig. Dengys amcanestyniadau ychydig iawn o newid erbyn 2043, gyda 291 o fenywod, a 200 o ddynion, ag anhwylderau seicotig. Yn Sir Gâr ar hyn o bryd, mae 458 o fenywod a 304 o ddynion ag anhwylderau seicotig. Dengys amcanestyniadau ychydig iawn o newid, a disgwylir y bydd 461 o fenywod, a 306 o ddynion, ag anhwylderau seicotig yn 2043.
  • Mae 3,785 o bobl ar gofrestr iechyd meddwl y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau yn rhanbarth Gorllewin Cymru.

I ddarparu asesiad o lefel ac ystod y gwasanaethau iechyd meddwl presennol, pennu digonolrwydd y gwasanaethau hyn, a nodi anghenion gofal a chymorth yn y dyfodol a meysydd i'w gwella, cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu rhithwir gyda darparwyr gwasanaeth a defnyddwyr gwasanaeth o Gweithredu Gorllewin Cymru dros Iechyd Meddwl (WWAMH) a Mind.


A woman sits looking pensively out of a window.


Er 2010 ac ers i Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) gael ei gyflwyno, mae'r rhan fwyaf o achosion iechyd meddwl yn cael eu trin ar lefel gofal sylfaenol. Y bwriad yw hyrwyddo ymyrraeth gynnar a lleihau'r tebygolrwydd y bydd eu cyflwr yn gwaethygu a bod angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd pellach.

Gwasanaethau cymorth presennol

Mae anghenion gofal, gwasanaethau a chymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Ngorllewin Cymru yn cael eu cydgysylltu gan Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC).

Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC).

Bwriad cyflwyno Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) oedd cynyddu faint o wasanaethau iechyd meddwl ar lefel gofal sylfaenol sydd ar gael a'r defnydd ohonynt, yn ogystal â gwella integreiddio gwasanaethau, a gweithio gyda meddygon teulu a staff practis i ddarparu cymorth a hyfforddiant.

Partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yw Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) sy'n darparu man cyfeirio ar gyfer y sawl sydd angen mynediad at wasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae gan Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol ddyletswydd i asesu unrhyw un sy'n dioddef problemau iechyd meddwl sy'n effeithio ar eu gallu i fyw eu bywydau.

Y Trydydd Sector

Mae'r bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol yn parhau i gomisiynu amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector i gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl megis gwasanaethau eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor, gweithgareddau, ffyrdd iach o fyw ac amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thenantiaeth a llety â chymorth.

Elusen iechyd meddwl yng Ngorllewin Cymru yw Mind. Mae Mind yn rhoi cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n cael problem o ran eu hiechyd meddwl. Mae'r elusen hefyd yn ymgyrchu dros wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth. Gwasanaethau Mind sy'n gweithredu yng Ngorllewin Cymru yw Mind Sir Benfro, Mind Sir Gaerfyrddin a Mind Aberystwyth.

Mae sefydliadau trydydd sector eraill sy’n gweithredu yng Ngorllewin Cymru yn cynnwys Hafal, sy’n gweithio gydag unigolion sy’n gwella o broblemau iechyd meddwl, ac sy'n rhoi pwyslais arbennig ar y rhai ag afiechyd meddwl difrifol. Un arall yw FRAME, sy’n rhoi cyfle i tua 80 o bobl yr wythnos ymarfer a hyfforddi sgiliau newydd.

Mae Gweithredu Gorllewin Cymru dros Iechyd Meddwl (WWAMH) yn sefydliad datblygu iechyd meddwl yng Ngorllewin Cymru. Mae’r sefydliad yn darparu ystod o wasanaethau i grwpiau gwirfoddol, gofalwyr ac unigolion sydd angen cymorth ynghylch iechyd meddwl yn rhanbarth Gorllewin Cymru ac mae’n ceisio gwella’r gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Noddfa Min Nos

Mae Noddfa Mis Nos yn rhan o'r gwasanaeth y mae Mind yn ei ddarparu. Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i ffurfio i gynnig cymorth i'r rheiny y mae eu hiechyd meddwl mewn perygl o ddirywio y tu allan i oriau swyddfa arferol. Ar hyn o bryd yng Ngorllewin Cymru, mae gwasanaethau Noddfa Min Nos yn Llanelli a Hwlffordd ac mae cynlluniau i gyflwyno'r drydedd Noddfa Min Nos yng Ngheredigion cyn hir. Bydd hyn yn golygu y bydd Noddfa Min Nos ym mhob un o'r tri awdurdod lleol erbyn mis Rhagfyr

Dyma rai o'r materion allweddol a nodwyd yn ystod y broses ymgynghori:

  • Mae angen gwella'r gwasanaethau dilynol i addysgu a chefnogi pobl sydd â chyflyrau gydol oes ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o wasanaeth; gallai hyn helpu pobl i hunanreoli eu cyflwr yn well fel nad oes angen iddynt ddychwelyd yn y dyfodol
  • Mae angen mwy o gydnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth o ddiagnosis deuol a niwroamrywiaeth, gyda nifer cynyddol o bobl yn cael diagnosis ar y sbectrwm awtistiaeth
  • Er bod cynnydd wedi'i wneud ers 2017 wrth ddarparu gwasanaeth 24/7, mae dal angen gwaith pellach i gyflawni hyn. Mae noddfa min nos wedi'i sefydlu ym mhob un o'r tair sir er mwyn rhoi cymorth i bobl y tu allan i oriau, ond nid yw'r rhain yn cynnig cymorth bob awr o'r dydd ac nid ydynt bob amser yn hygyrch i bobl mewn ardaloedd gwledig
  • Mae angen adolygu'r gwasanaethau hyn er mwyn sicrhau bod gwasanaeth 24 awr yn darparu cymorth mewn ymateb i'r angen, yn y ffordd fwyaf priodol, clyfar a chost-effeithiol. Er enghraifft, blaenoriaethu'r gwasanaeth fel hafan ddiogel y tu allan i oriau, gyda chymorth therapiwtig ar gael yno yn ystod y dydd
  • Mae llety dros nos sy'n gysylltiedig â'r noddfeydd yn cael ei danddefnyddio ar hyn o bryd, a allai awgrymu bod y trothwy ar gyfer derbyn wedi'i osod yn rhy uchel
  • Er bod rhai gwelliannau wedi'u gwneud gyda golwg ar reoli argyfwng ac ymyrraeth, mae angen rhoi ystyriaeth bellach i ddewisiadau amgen effeithiol yn hytrach na mynd i'r ysbyty mewn ymateb i argyfwng, yn lle bod yr uned damweiniau ac achosion brys yn opsiwn diofyn mewn sefyllfaoedd lle ystyrir bod pobl yn "rhy anodd i ddelio â nhw”
  • Mae angen gwella mynediad ac atgyfeiriadau at Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol
  • Mae angen gwella'r prosesau asesu i osgoi sefyllfaoedd lle caiff pobl eu rhyddhau'n rhy gynnar heb y cymorth priodol ar ôl eu rhyddhau, dim ond iddynt wedyn gael eu derbyn yn ôl

Mae'r pandemig wedi arwain at fwy o arwahanrwydd ac amharu ar fywyd arferol ac mae wedi cael effaith ddramatig ar fynediad pobl at wasanaethau. Gan fod mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn gyfyngedig iawn neu'n mynd yn rhithwir, mae llawer o bobl wedi methu cael mynediad at y cymorth y byddent yn ei ddisgwyl neu wedi bod yn rhy bryderus i wneud hynny. Mae pobl oedd yn gwneud yn dda cyn COVID yn aml wedi methu cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt oherwydd hynny. [10]. Er y gallai rhywfaint o'r effaith fod yn fyrdymor ac yn rhywbeth y gellid ei ddatrys trwy gynyddu gwelededd a hygyrchedd gwasanaethau, nid yw'n glir beth allai'r effaith hirdymor fod ar iechyd meddwl a llesiant.

Yn y cyfnod yn union cyn y pandemig, adroddwyd bod 11.7% o Gymry wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol. Yn ôl y sôn aeth hyn i fyny i 28.1% ym mis Ebrill 2020. Roedd y dirywiad hwn mewn iechyd meddwl yn cyfateb i rywun sydd â swydd yn mynd yn ddi-waith. Yn ôl y sôn pobl ifanc a ddioddefodd y dirywiad mwyaf oherwydd COVID-19, gyda'r sgôr GHQ gyfartalog ymhlith y rheiny rhwng 16 a 24 oed yn codi o 3 phwynt, neu 24% o gymharu â'r cyfnod cyn y pandemig. Profodd menywod hefyd lefelau gwaeth o iechyd meddwl na dynion ar ôl dechrau'r pandemig, gyda'r bwlch mewn iechyd meddwl rhwng dynion a menywod yn ôl y sôn wedi cynyddu o 9.9% i 14.1%. Dywedir ei fod wedi cael effaith waeth ar y rheiny o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) - ym mis Mehefin 2020 adroddodd unigolion BAME yng Nghymru eu bod ar gyfartaledd wedi cael 4.1 o broblemau sy'n gysylltiedig â thrallod meddyliol, tra roedd hyn yn 2.7 ar gyfer unigolion gwyn Prydeinig (gwahaniaeth o 55% mewn termau cymharol). Mae iechyd meddwl rhwng yr incwm isaf a'r incwm uchaf hefyd wedi lledu'n sylweddol yn ystod y pandemig. Bu cynnydd o 39% yn sgôr gyfartalog GHQ-12 ym mis Tachwedd 2020 ar gyfer y cwintel incwm isaf o gymharu â'r lefel cyn COVID. Fodd bynnag, profodd y cwintel uchaf o enillwyr ond gynnydd o 6.5% dros yr un cyfnod. Mae ymateb cyffredin o'r digwyddiadau ymgysylltu yn awgrymu bod "COVID wedi tynnu sylw at graciau oedd yno'n barod a'u gwneud yn waeth”.