Adnoddau

Adnoddau

I sicrhau ein bod yn cyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn y Cynllun, bydd angen i’r partner asiantaethau newid y ffordd maen nhw’n gwneud pethau yn sylfaenol a symud adnoddau er mwyn cynnal y modelau gwasanaeth newydd. Er enghraifft, byddwn yn disgwyl gweld y gwariant ar ofal tymor hir yn gostwng wrth inni fuddsoddi ymhellach mewn gwasanaethau ataliol.

Mae gennym hefyd arian pwrpasol drwy Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ddarparu i helpu i gyflawni cyfrifoldebau Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol mewn perthynas â thrawsnewid ac integreiddio. Yng Ngorllewin Cymru rydym yn cael tua £7.5 miliwn y flwyddyn ac rydym yn disgwyl i hyn barhau tan o leiaf 2021. Byddwn yn parhau i ddefnyddio cyfran fach o’r Gronfa Gofal Integredig i ariannu capasiti rheoli rhaglenni rhanbarthol i hyrwyddo’n blaenoriaethau, tra bydd y gweddill yn help i roi modelau gwasanaeth newydd ar waith ar lefel ranbarthol a lleol. Byddwn hefyd yn ceisio defnyddio’r arian Cyfalaf ychwanegol sydd i ddod o’r Gronfa Gofal Integredig i gefnogi buddsoddiad hirdymor, ar raddfa fawr, ar gyflenwi gwasanaethau arbenigol yn rhanbarthol.

Mae arian sylweddol ar gael hefyd drwy Gronfa Gofal Sylfaenol Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi cynlluniau iechyd Sylfaenol, Cymunedol ac Ataliol yn ogystal â’r 7 Ardal i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio er mwyn cadw pobl gartref, eu helpu i barhau i fod yn annibynnol ac i ddatblygu mwy o gryfder o fewn y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol integredig. Yng Ngorllewin Cymru mae hyn yn £3.41 miliwn o Arian Gofal Sylfaenol ynghyd ag £1.3 miliwn pellach o arian clwstwr uniongyrchol. Bydd defnyddio’r arian hwn yn greadigol, a sicrhau bod y rhaglenni clwstwr yn gydnaws â chynlluniau sy’n cael eu hariannu drwy’r Gronfa Gofal Integredig, a blaenoriaethau eraill yn ein Cynllun Ardal, yn help i wneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael ac i ymdrin â gofal a chymorth mewn ffordd gydlynus, ddi-dor.

Ochr yn ochr â’r adnoddau o’r Gronfa Gofal Integredig a chyllidebau lleol, byddwn hefyd yn defnyddio dyraniad o’r £1 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i alluogi Byrddau Iechyd Lleol i weithio gydag amryw o bartneriaid i wella bywydau gofalwyr. Bydd y ffocws o ran yr arian hwn ar:

  • Helpu gofalwyr i gael seibiant rhesymol o ofalu, er mwyn byw bywydau cyflawn
  • Adnabod a chydnabod gofalwyr
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr, lle a phan y mae eu hangen arnynt

Yn unol â gofynion Rhan 9 o’r Ddeddf byddwn yn edrych ar gyfleoedd i gyfuno cyllidebau ar draws awdurdodau iechyd a lleol er mwyn helpu i gyflawni’r dulliau integredig a amlinellir yn y Cynllun hwn, ac i sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.

Nesaf