Gall nam ar y synhwyrau fod yn gyflwr sylweddol sy'n cyfyngu ar fywyd, ac mae'r heriau sy'n gysylltiedig â'r cyflwr yn debygol o dyfu dros y degawdau nesaf.

Mae pobl â nam ar y synhwyrau yn fwy tebygol o deimlo'n unig ac wedi'u hynysu. Canfu ymchwil gan yr RNID yn 2000 fod 66% o bobl fyddar a thrwm eu clyw yn teimlo'n ynysig oherwydd bod eu cyflwr yn eu heithrio o weithgareddau bob dydd.

Mae nam ar y synhwyrau yn rhywbeth sy'n torri ar draws gwasanaethau ledled y system gyfan; mae'n bwysig bod ymwybyddiaeth a gwasanaethau nam ar y synhwyrau yn rhan annatod o'r system ddarpariaeth gyfan.

Gall y cyfuniad o ddau nam ar y synhwyrau olygu y bydd person byddar yn cael anhawster, neu'n ei chael yn amhosibl, i ddefnyddio ac elwa'n llawn ar wasanaethau i bobl fyddar neu wasanaethau i bobl ddall. Felly, mae angen dull gweithredu gwahanol i ddiwallu anghenion pobl fyddar-ddall.

Ar wahân i'r anawsterau o ddydd i ddydd, mae gan bobl â nam ar y synhwyrau hefyd ganlyniadau iechyd gwaeth, cyfraddau tlodi uwch a chyflawniadau addysgol is na phobl sy'n rhydd o anabledd.

  • Rhagwelir y bydd nam ar y golwg a nam ar y clyw yn cynyddu yng Ngorllewin Cymru dros y blynyddoedd nesaf
  • Mae'r ffactorau sy'n cyflymu colli golwg yn cynnwys diabetes a gordewdra
  • Mae nam ar y synhwyrau yn gysylltiedig â risg uwch o gael codymau ac mae ofn cael codwm yn cael effaith fawr ar allu pobl i aros yn annibynnol.
  • Amcangyfrifir bod gan 15,671 o bobl yn rhanbarth Gorllewin Cymru nam ar eu golwg, y mwyafrif llethol ohonynt yn 60 oed a throsodd. Dengys amcanestyniadau y bydd hyn yn codi i 21,910 erbyn 2043.
  • Mae gan tua 85,864 o bobl yn rhanbarth Gorllewin Cymru nam ar eu clyw, gyda’r mwyafrif yn 70 oed a throsodd. Dengys amcanestyniadau y bydd hyn yn codi i 107,782 erbyn 2043.

Mae'r safon gwybodaeth hygyrch yn nodi y dylai cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a rhieni sydd ag anabledd, nam neu nam ar y synhwyrau allu wneud y canlynol:

  • Cysylltu â gwasanaethau, a bod modd i wasanaethau gysylltu â nhw mewn ffyrdd hygyrch, er enghraifft e-bost neu neges destun
  • Disgwyl llythyrau a gwybodaeth mewn fformatau y gallant eu darllen a'u deall, er enghraifft ar dâp sain, braille, e-bost neu fersiwn hawdd ei ddarllen
  • Cael eu cefnogi gan weithiwr proffesiynol cyfathrebu mewn apwyntiadau os oes angen hyn er mwyn cefnogi sgwrs, er enghraifft cyfieithydd Iaith Arwyddo Prydain
  • Disgwyl cymorth gan staff a sefydliadau iechyd a gofal i gyfathrebu, er enghraifft i ddarllen gwefusau

Mae pobl â nam ar y synhwyrau yn fwy tebygol o deimlo'n unig ac wedi'u hynysu. Canfu ymchwil gan yr RNID yn 2000 fod 66% o bobl fyddar a thrwm eu clyw yn teimlo'n ynysig oherwydd bod eu cyflwr yn eu heithrio o weithgareddau bob dydd. Mae angen digon o gefnogaeth yn y gymuned i fynd i'r afael â materion o ran yr arwahanrwydd a'r unigrwydd y mae'r rhai sydd â nam ar y synhwyrau yn eu hwynebu, ynghyd â gwelliannau o ran adnabyddiaeth a diagnosis, fel bod modd rhoi cymorth priodol ac amserol.

Canfuwyd bod 40-50% o oedolion hŷn sydd â chlefyd llygaid sy'n amharu ar y golwg yn cyfyngu ar eu gweithgareddau oherwydd ofn o gwympo [6]. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gellir priodoli tua 10% o godymau i golli golwg [7]. Mae anafiadau yn sgil codymau yn cael effeithiau niweidiol ar unigolion ac mae angen ymyriadau costus arnynt. Gallai cymorth ac addasiadau priodol i helpu i atal codymau a chynyddu hyder pobl â nam ar eu golwg wella ansawdd bywyd ac osgoi arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd pellach.

Mae'r gwasanaethau cymorth canlynol ar gael yng Ngorllewin Cymru:

  • Mae Swyddogion Cyswllt Clinig Llygaid (ECLOs) mewn ysbytai ac yn darparu cymorth i helpu i gysylltu cleifion sydd â nam ar eu golwg â'r gwasanaethau cywir a helpu â’r cymhlethdod sydd ynghlwm wrth driniaethau a gwasanaethau posibl.
  • Mae Swyddogion Adsefydlu Arbenigol yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac maen nhw'n helpu i gefnogi pobl sydd wedi colli eu golwg neu sy'n dechrau colli eu golwg. Gall swyddogion adsefydlu helpu cleifion sydd â nam ar eu golwg i gynnal annibyniaeth, adennill sgiliau a gollwyd neu fagu hyder. Gall y swyddogion hefyd gynorthwyo gyda hyfforddiant symudedd, a all helpu unigolyn i adennill ei hyder i fynd allan yn ddiogel ac yn annibynnol.
  • Gwasanaethau arbenigol megis offer symudedd a chyfathrebu a gwasanaethau gan gynnwys braille a gwasanaethau darllen gwefusau lle bo'n briodol

Mae’r sefydliadau trydydd sector canlynol hefyd yn cynnig cymorth:

  • Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) yn elusen sy'n gweithredu ledled y DU mewn ymgais i sicrhau bywyd cwbl gynhwysol i bobl fyddar a'r rhai sydd wedi colli eu clyw neu sydd â thinitws.
  • Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) yn elusen sy'n gweithredu ledled y DU ac yn gweithio ar ran mwy na 111,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi colli'u golwg.
  • Mae Cyngor Cymru i'r Deillion (WCB) yn asiantaeth ymbarél sy'n cynrychioli nam ar y golwg yng Nghymru, ac mae'n gweithio i ymgyrchu, lobïo a chefnogi'r broses o wella gwasanaethau i'r rheiny sydd wedi colli eu golwg.
  • Mae Cyngor Cymru i Bobl Fyddar (WCDP) yn gymdeithas ymbarél o sefydliadau gwirfoddol a statudol sy'n darparu cymorth i bobl sy'n fyddar, wedi'u byddaru, yn drwm eu clyw neu'n fyddar a dall yng Nghymru.
  • Ar hyn o bryd mae Deafblind UK yn cefnogi pobl sydd â nam ar ddau synnwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

I ddarparu asesiad o'r gwasanaethau nam ar y synhwyrau presennol, ac i bennu addasrwydd y gwasanaethau hyn a nodi meysydd y gellir eu gwella, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu.

Dyma rai o'r materion allweddol a nodwyd:

  • Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch nam ar y synhwyrau a'r anghenion cyfatebol ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol
  • Datblygu gwasanaethau i ateb y galw a ragwelir
  • Gwella adnabyddiaeth a diagnosis
  • Gwella cymorth cymunedol i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd
  • Gwella hygyrchedd, fel nad yw cleifion yn cael eu gwrthod yn amhriodol nac yn rhoi'r gorau iddi oherwydd anawsterau o ran llywio'r systemau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Gwella archwiliad o'r safon weithredu hygyrch i sicrhau bod anghenion person yn cael eu cydnabod yn llawn e.e. gallai rhywun sydd ag anghenion cymhleth hefyd fod â nam ar y synhwyrau, a allai gael ei golli.
  • Ystyried dewisiadau eraill i'r rhai sydd â nam ar y synhwyrau er mwyn osgoi gorfod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at wasanaethau, sy'n gallu bod yn arbennig o heriol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig

Oherwydd pandemig Covid-19, mae'r gwasanaethau wedi symud o ddarpariaeth wyneb yn wyneb i ddarpariaeth rithwir, megis ymgynghoriadau fideo. Mae'r pandemig wedi cyfrannu at anawsterau cyfathrebu ar gyfer y rhai sydd â nam ar y clyw a'r golwg, oherwydd efallai na fydd rhai technolegau yn briodol ar gyfer cyfathrebu â phobl ag anghenion synhwyraidd gwahanol.

Er bod ymgynghoriadau fideo o bell yn gyfleus, nid ydynt yn gweithio i bobl ddall neu bobl sydd â nam ar y golwg, mae sgyrsiau dros y ffôn yn fwy priodol. Mae'r pandemig hefyd wedi arwain at heriau cyfathrebu i bobl fyddar e.e. gorchuddion wyneb yn gwneud darllen gwefusau yn amhosibl ac mae cael gwybodaeth mewn braille wedi bod yn anoddach.

Cyfeiriadau:

  1. [6] Wang, M. Y., Rousseau, J., Boisjoly, H., Schmaltz, H., Kergoat, M. J., Moghadaszadeh, S., Djafari, F. and Freeman, E. E. (2012). Activity limitation due to a fear of falling in older adults with eye disease. Investigative Ophthalmology & Visual Science, 53 (13), pp. 7967 – 7972
  2. [7] Boyce, T. (2011). Falls - costs, numbers and links with visual impairment. London: RNIB