Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym
- Mae un o bob wyth person yng Ngorllewin Cymru, llawer ohonynt yn bobl ifanc, yn darparu gofal di-dâl gyda chyfran sylweddol yn darparu rhwng 20 a 50+ awr o ofal di-dâl yr wythnos
- Mae darparu gofal di-dâl yn dod yn fwy a mwy cyffredin wrth i’r boblogaeth heneiddio, a’r disgwyl yw y bydd gofal a ddarperir gan briod a phlant sy’n oedolion yn mwy na dyblu dros y deg mlynedd ar hugain nesaf
- Ar sail amcangyfrif cenedlaethol a wnaed gan Carers UK a Phrifysgol Sheffield yn 2015, byddai cost darpariaeth yn lle gofal di-dâl yng Ngorllewin Cymru yn £924 miliwn. Mae hyn yn fwy na chyllideb flynyddol y Gwasanaeth Iechyd yn y rhanbarth
Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd
|
Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi |
Codi proffil gofalwyr a dealltwriaeth y cyhoedd ohonynt a gwreiddio arferion da yn ymwneud ag adnabod, gwybodaeth, ymgynghori a chyngor ynglŷn â budd-daliadau |
1.10 |
Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth, yn cynnwys gwasanaethau gwybodaeth a hyfforddiant i ofalwyr, sy’n cefnogi pob un o’r cyfnodau allweddol ar y siwrnai ofalu |
1.12 |
Sicrhau bod gofalwyr a’u teuluoedd yn gallu cyrchu at wasanaethau drwy eu dewis iaith a bod y cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael |
1.12 |
Gwella’r prosesau asesu a chynllunio gofal i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am y sawl sy’n cael gofal, yn cynnwys cynllunio rhyddhau |
2.9; E7 |
Datblygu prosesau comisiynu a chaffael cyson, integredig, wedi’u seilio ar egwyddorion cydgynhyrchu, sy’n cynnwys grwpiau a fforymau yn y gymuned, o dan arweiniad defnyddwyr, yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau |
1.11 |
Cynyddu’r defnydd o daliadau uniongyrchol drwy ddatblygu cadwyni cyflenwi seiliedig yn y gymuned sy’n cydgynhyrchu modelau newydd i gyflenwi gwasanaethau, megis cwmnïau cydweithredol gofalwyr |
1.11 |
Datblygu Cynlluniau Cludiant Cymunedol integredig a chonsesiynau eraill ar ôl-troed rhanbarthol er mwyn darparu gwasanaeth mwy cyson sy’n cydweddu â Thaliadau Uniongyrchol, cynlluniau Talebau a chynlluniau cymunedol eraill |
I’w drafod ymhellach gan BGCau |
Mynd i’r afael â materion llety i’r rhai sy’n gofalu am bobl hŷn neu bobl ag anableddau dysgu y mae angen iddynt symud cartref o le amhriodol, neu y mae angen cymorth arnynt gydag addasiadau, cyfarpar, gwaith atgyweirio a gwelliannau, polisïau gosod, larymau a thechnolegau teleofal |
1.10, 1.12 |
Integreiddio asesiad effaith ar ofalwyr i’r prosesau cynllunio ar gyfer rhaglenni seilwaith megis cludiant, tai a datblygiadau technoleg a rhaglenni cymunedol perthnasol eraill |
Cynllun cyfan |
Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen
Mae Grŵp Datblygu Gofalwyr rhanbarthol wedi’i sefydlu gyda chynrychiolwyr o’r holl bartner asiantaethau. Bydd y Grŵp hwn, sy’n adrodd i Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol, yn goruchwylio gweithrediad yr amcanion perthnasol yn y Cynllun Cyflawni.
Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym
- Mae plant a phobl ifanc i gyfrif am oddeutu 22.2% o boblogaeth rhanbarth Gorllewin Cymru. Disgwylir i nifer y bobl ifanc aros yn weddol sefydlog dros y 15 mlynedd nesaf
- Mae gan y rhanbarth nifer is o Blant sy’n Derbyn Gofal na’r cyfartaledd cenedlaethol
- Mae’r anghenion gofal a chymorth yn rhychwantu amrediad eang, o ddarpariaeth i bawb, drwy ymyrraeth gynnar, anghenion lluosog ac ymyrraeth adferol
- Mae partner asiantaethau wedi mabwysiadu continwwm gofal a chymorth cyson at ei gilydd ar gyfer plant a theuluoedd, gyda ffocws ar atal
- Ymysg y meysydd i’w gwella mae datblygu gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar ymhellach, adeiladu ar raglenni sydd wedi ennill eu plwyf megis Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, Teuluoedd yn Gyntaf a’r Tîm o Amgylch y Teulu; rhoi ffocws newydd i ofal a chymorth a reolir er mwyn hyrwyddo annibyniaeth a lles; gwella gwaith amlasiantaeth a gwella’r cydweithio ar draws y rhanbarth i ddod â gwasanaethau i lefel a safon gyson
- Dylid hefyd ystyried cydweithio er mwyn mynd i’r afael â sialensiau strategol megis cyllidebau sy’n crebachu, datblygu’r gweithlu a sefydlu gwasanaethau ataliol o dan arweiniad defnyddwyr
Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd
|
Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi |
Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth sy’n cyfeirio teuluoedd sydd â phlant a phobl ifanc at ofal a chymorth perthnasol o fewn cymunedau |
1.3; 1.4; 1.14 |
Gwella’r brosesau asesu a chynllunio gofal i sicrhau bod gan ddinasyddion lais gwirioneddol wrth gytuno ar ganlyniadau a’r cymorth sy’n ofynnol i’w gwireddu |
1.15; 2.1; E7 |
Sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn gallu cyrchu at wasanaethau drwy eu dewis iaith a bod y ‘cynnig gweithredol’ drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael |
I’w ystyried gan fforwm rhanbarthol yr iaith Gymraeg |
Datblygu gwasanaethau wedi’u seilio yn y gymuned, dan arweiniad defnyddwyr, wedi’u cydgynhyrchu, sy’n cefnogi teuluoedd sydd â phlant a phobl ifanc i ddod yn gryfach ac i ddatblygu amryw o sgiliau, yn cynnwys sgiliau byw |
1.14; 1.15; 1.17 |
Ad-drefnu’r prosesau comisiynu pecynnau gofal a chymorth uchel eu cost, bach o ran nifer, ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, er mwyn cyflenwi gwasanaethau cost-effeithiol cyson sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaethau |
3.5 |
Gwella’r cymorth a gynigir o ran cydberthnasau teuluol, yn arbennig i rieni newydd neu rieni sydd dan straen oherwydd ffactorau eraill fel carchar neu anabledd |
1.14 |
Gwella llety a diwallu anghenion cymorth llety pobl ifanc sy’n gadael gofal, neu ar ôl dedfryd o garchar |
I’w drafod ymhellach gan BGCau |
Gwella’r rhyngweithio rhwng gwasanaethau plant, iechyd meddwl ac anabledd dysgu a mynediad cynnar at wasanaethau iechyd meddwl |
1.18 |
Lleihau nifer y symudiadau o ran lleoliad i blant sy’n derbyn gofal, a lleihau’r ddibyniaeth ar ofal preswyl |
1.14 |
Gwella’r cyd-gynllunio rhwng CAMHS a gwasanaethau anabledd dysgu, i sicrhau darpariaeth gwasanaethau deg i blant sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol drwy’r rhaglen ‘Gyda’n Gilydd dros Blant’ |
1.18 |
Datblygu cysylltiadau rhwng Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) a gwasanaethau cyngor eraill megis gofal oedolion a thai yn ogystal â gwasanaethau wedi’u seilio yn y gymuned, i helpu teuluoedd yn ôl i annibyniaeth a’u galluogi i weithredu’n effeithiol yn eu cymunedau |
2.9 |
Gwella mynediad at wasanaethau iechyd rhyw i blant |
1.2; 1.4; 1.15 |
Mabwysiadu methodoleg gyson megis Arwyddion Diogelwch fel sail i ofal a chymorth ar draws y rhanbarth |
1.16 |
Datblygu fframwaith perfformiad cyson, wedi’i seilio ar ganlyniadau, ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc ar draws y rhanbarth |
Eir i’r afael ag ef drwy’r fframwaith canlyniadau rhanbarthol |
Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen
Mae Grŵp Gwasanaethau Plant rhanbarthol yn cael ei sefydlu gyda chynrychiolwyr o’r holl bartner asiantaethau. Bydd y Grŵp hwn, sy’n adrodd i Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol, yn goruchwylio gweithrediad yr amcanion perthnasol yn y Cynllun Cyflawni, gan weithio lle mae’n briodol gyda fforymau eraill megis y Pwyllgor Mabwysiadu Rhanbarthol a’r Grŵp Swyddogion Arweiniol IFSS.
Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym
- Er bod disgwyliad oes yng Ngorllewin Cymru fymryn yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, mae lefelau uwch o bobl sy’n ordew neu’n ordrwm
- Mae ardaloedd sylweddol o amddifadedd yn y Rhanbarth, yn benodol mewn rhannau o Lanelli, Aberteifi a Doc Penfro
- Er bod y ffyrdd o fyw yma yn iachach nag yng Nghymru yn gyffredinol, mae yma sialensiau i fynd i’r afael â nhw, yn cynnwys lefelau yfed alcohol uwch yng Ngheredigion
- Ni fydd cyfran sylweddol o bobl yn y grŵp oedran 18-64 yn cyrchu’n uniongyrchol at ofal a chymorth i ymdrin ag anghenion penodol. Fodd bynnag, byddant yn elwa o wybodaeth gyffredinol am iechyd y cyhoedd a rhaglenni sy’n anelu at annog ffyrdd iach o fyw a lleihau’r risg i iechyd a achosir gan ffactorau fel ysmygu a gordewdra.
- Mae amryw o ‘ffactorau cyflymu’ wedi’u nodi yn amgylcheddau pobl a allai ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn datblygu cyflwr iechyd parhaus, neu’n dwysáu effeithiau cyflyrau presennol, y dylid cymryd camau lliniaru yn eu herbyn. Mae’r rhain yn cynnwys diweithdra, cyflogau isel a thai gwael
- Cyflyrau niwrolegol yw’r achos mwyaf cyffredin o anabledd difrifol a chânt effaith fawr, er nad yw wedi’i chydnabod yn aml, ar fywydau pobl a’r gwasanaethau gofal a chymorth
- Rhaid ychwanegu amryw o ddulliau cydweithredol at gyfraniad gwasanaethau gofal a chymorth er mwyn gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl
- Mae gan Iechyd y Cyhoedd rôl bwysig i’w chwarae yn darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol i’r boblogaeth ar ddewisiadau byw yn iach a chymorth mewn meysydd fel diet a rhoi’r gorau i ysmygu. Mae angen i hyn gychwyn yn y blynyddoedd cynnar ond dylid ei gynnal lle mae’n bosibl ar draws yr holl grwpiau oedran.
Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd
|
Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi |
Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth yn cynnwys Dewis Cymru ac Infoengine, a gwasanaethau eiriolaeth perthnasol i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ar bob cyfnod o fywyd |
1.3; 1.4 |
Datblygu gwasanaethau rhanbarthol cyson, integredig, sy’n hygyrch ac yn ymateb i anghenion y boblogaeth |
Cynllun cyfan |
Gwneud yn well o ran adnabod, trin a rheoli cyflyrau y mae modd eu hatal a chyflyrau cronig yn cynnwys diabetes, clefyd y galon ac anhwylderau anadlol, i wella lles tymor hir a lleihau cymhlethdodau |
1.1 |
Sicrhau bod ymyriadau a llwybrau effeithiol er mwyn atal, trin a rheoli gordewdra a gordewdra mewn plentyndod ar gael fel mater o drefn, a’u bod yn cael eu gweithredu’n systematig |
1.1 |
Gwneud yn well o ran adnabod a thrin ffactorau risg yn gysylltiedig ag anghydraddoldeb iechyd |
1.1 |
Cryfhau’r trefniadau pontio rhwng y gwasanaethau plant a phobl ifanc a’r gwasanaethau oedolion |
Cynllun cyfan |
Datblygu gwasanaethau seiliedig yn y gymuned, dan arweiniad defnyddwyr, wedi’u cydgynhyrchu, sy’n hyrwyddo annibyniaeth ac yn helpu pobl i fod yn gryfach ac i reoli’u cyflyrau eu hunain |
1.2; 1.4; 2.3; 3.1; E5 |
Cynyddu’r defnydd o dechnoleg gynorthwyol, megis teleofal, i drawsnewid gofal cartref a gwasanaethau byw â chymorth |
1.5 |
Gwella’r hyblygrwydd i gyflenwi darpariaeth ‘camu i fyny’ a ‘chamu i lawr’ mewn ymateb i newidiadau mewn anghenion |
2.2; 2.3 |
Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i wella’r canlyniadau iechyd i’r rhai sy’n byw yng Ngorllewin Cymru, yn gweithio yno neu’n ymweld â’r ardal. Mae dull o edrych ar iechyd y boblogaeth gyfan, sy’n ceisio gwreiddio gwaith atal ac ymyrraeth gynnar, yn sylfaen i’r rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol. Yn y tymor canolig i hir, caiff Strategaeth Iechyd Cyhoeddus a Llesiant ei datblygu, dan nawdd Pwyllgor Strategaeth Iechyd y Bwrdd Iechyd, gan ddatblygu cynlluniau a phrosesau trawsbynciol i sicrhau bod nodau strategol yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol yn y maes hwn.
Bydd angen i’r Strategaeth sicrhau bod y ddarpariaeth yn ‘ffitio’ ar draws y system ehangach, a bydd gwaith effeithiol drwy bartneriaeth ar draws y sectorau a’r asiantaethau sy’n darparu gofal a chymorth yn dyngedfennol er mwyn cael yr effaith fwyaf a gwella iechyd poblogaeth Gorllewin Cymru i’r eithaf.
Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym
- Amcangyfrifir bod 1,483 o bobl dros 18 ag anabledd dysgu canolig neu ddifrifol yng Ngorllewin Cymru (ffigurau 2015), sy’n cynrychioli ychydig llai na 0.5% o’r boblogaeth oedolion drwyddi draw ac mae hyn yn debyg i’r sefyllfa mewn rhannau eraill o Gymru
- Disgwylir i’r nifer hwn godi dros y ddau ddegawd nesaf, ond ar yr un raddfa â’r twf yn y boblogaeth yn gyffredinol
- Rhagwelir cynnydd mwy sylweddol o 33%yn y bobl dros 75 sydd ag anabledd dysgu canolig neu ddifrifol dros yr un cyfnod
- Nid oes data am nifer yr achosion o awtistiaeth yn cael ei gasglu fel mater o drefn; fodd bynnag, rhwng mis Ionawr 2013 a mis Tachwedd 2015 atgyfeiriwyd 265 o unigolion at y gwasanaethau diagnostig a rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2016 roedd y nifer yn 99. Yng Ngheredigion a Sir Benfro (lle caiff data ei gasglu) roedd 40 a 113 o achosion agored, y naill a’r llall, ar adeg yr Asesiad Poblogaeth
- Mae’r ffordd y caiff anghenion pobl ag Anabledd Dysgu eu diwallu wedi newid dros yr ugain mlynedd diwethaf. Yn gynyddol, mae pobl a fyddai’n hanesyddol wedi cael eu lleoli mewn gofal sefydliadol yn cael cymorth i fyw yn eu cymunedau. Mae’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â’r trydydd sector yn cydweithio i wireddu potensial y rhai sy’n defnyddio’n gwasanaethau a sicrhau eu bod mor annibynnol â phosibl.
Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd
|
Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi |
Gwneud yn well o ran adnabod, diagnosio, a thrin a rheoli pobl ag anhwylderau niwroddatblygiadol yn cynnwys ASD ac ADHS |
1.9; 2.8 |
Grymuso pobl ag anabledd dysgu i benderfynu pwy sy’n rhoi cymorth iddynt ac ar ba ffurf y bydd y cymorth hwnnw |
1.19; 1.20; 2.12 |
Cryfhau’r llwybrau’n ôl i gymunedau lleol drwy ddatblygu addysg leol, gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith mewn cymunedau, a gwneud yr addasiadau angenrheidiol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu |
1.19; 2.12 |
Cynyddu argaeledd a mynediad at dai a llety lleol addas, priodol, i alluogi pobl ag anabledd dysgu i fyw mor annibynnol â phobl mewn lle o’u dewis nhw |
2.12 |
Datblygu prosesau comisiynu a chaffael cyson, integredig, wedi’u seilio ar egwyddorion cydgynhyrchu, sy’n cynnwys grwpiau a fforymau yn y gymuned, o dan arweiniad defnyddwyr, yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau |
1.19; 2.12; 3.8; E2; E3; E5 |
Sicrhau bod hyd a lled pecynnau gofal presennol yn iawn i ddiwallu’r anghenion cyfredol, hwyluso datblygiad personol, cynyddu annibyniaeth a chyflenwi gwasanaethau cost-effeithiol sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaethau |
2.12 |
Datblygu fframwaith perfformiad cyson, seiliedig ar ganlyniadau, ar gyfer cyflenwi gwasanaethau ar draws y rhanbarth, gan ddefnyddio data yn sail i gynllunio a chomisiynu yn y dyfodol |
3.8 |
Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen
Mae Grŵp Rhaglen Anabledd Dysgu rhanbarthol wedi’i sefydlu gyda chynrychiolwyr o’r holl bartner asiantaethau. Bydd y Grŵp hwn, sy’n adrodd i Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol, yn goruchwylio gweithrediad yr amcanion perthnasol yn y Cynllun Cyflawni. Ceir Grŵp Strategaeth rhanbarthol i oruchwylio gweithredu’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yng Ngorllewin Cymru.
Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym
- Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl, mewn unrhyw flwyddyn bydd un o bob pedwar ohonom yn wynebu problem iechyd meddwl, ond nid yw tri chwarter y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael unrhyw driniaeth
- Yng Ngorllewin Cymru, mae 25% o’r rhai dros 16 ag anhwylder iechyd meddwl cyffredin (ffigurau 2013-14). Disgwylir i nifer yr achosion o anhwylderau iechyd meddwl gynyddu yn y cyfnod hyd at 2030. Mae tua 75% o’r rhai sydd â phroblem iechyd meddwl yn dioddef o anhwylderau cyffredin megis iselder ysbryd, anhwylder gorbryder, anhwylder panig, anhwylder gorfodaeth obsesiynol ac anhwylder pryder ôl-drawmatig
- Mae nifer yr achosion o ddementia cynnar (cyn 65 oed) ychydig yn uwch yng Ngorllewin Cymru na thrwy’r wlad i gyd, er bod disgwyl i’r ffigur ostwng dros yr 20 mlynedd nesaf
- Bydd angen cymorth yn gysylltiedig â’n hiechyd meddwl gydol ein hoes ar nifer sylweddol o bobl, boed hynny’n gymorth dwysedd isel ar gyfer anawsterau fel gorbryder lefel isel /iselder ysbryd neu gymorth tymor hwy
- Gall salwch meddwl ddatblygu o nifer o ffactorau yn cynnwys trawma cymdeithasol, defnyddio cyffuriau anghyfreithlon a rhagdueddiad genetig. Nid yw iechyd meddwl yn gwahaniaethu a gall effeithio ar unrhyw un, gan arwain yn aml at gyflyrau nychus.
- Mae ymyrraeth gynnar yn hollbwysig a gall hyn fod ar ffurf darparu gwybodaeth neu gyfeirio at wasanaethau yn y gymuned neu wasanaethau gan y trydydd sector. Mewn sefyllfaoedd eithafol gellir derbyn pobl i wasanaethau cleifion preswyl, lle nad oes modd trin yr unigolyn yn y gymuned a’i fod yn peri risg iddo’i hun a/neu i eraill
- Amcangyfrifwyd bod costau economaidd a chymdeithasol problemau iechyd meddwl yng Nghymru yn £7biliwn y flwyddyn
Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd
|
Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi |
Gwella’r gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar, darpariaeth amgen yn lle derbyn i’r ysbyty a mynediad at wasanaethau, yn enwedig i’r rhai sydd mewn argyfwng |
1.21; 1.22; 2.14 |
Datblygu dull o ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a ‘risg-galluogi’ fel bod modd bod yn hyblyg |
1.21; 1.22; 2.14 |
Gwella mynediad at gyngor a chymorth i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, yn cynnwys hawliau lles ac ymwneud â gofal a thriniaeth |
1.21 |
Datblygu mynediad uniongyrchol 24 awr at ddarpariaeth amgen i’r rhai mewn argyfwng, os nad eu derbyn i’r ysbyty yw’r opsiwn gorau |
1.22; 2.15 |
Gwella profiad defnyddwyr gwasanaethau a’r trefniadau cludo yng nghyswllt Ad136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, i’r rhai sy’n cael eu cadw yn nalfa’r heddlu |
I’w symud ymlaen drwy’r Cynllun Gweithredu ar Drawsnewid Iechyd Meddwl |
Datblygu gwasanaethau a rhwydweithiau cymunedol wedi’u cydgynhyrchu i helpu pobl i fagu hyder a sgiliau rwy ddefnyddio cymorth gan gymheiriaid a/neu fentora |
1.21 |
Datblygu gweithlu hyblyg ac ymatebol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn darparu modelau newydd o wasanaeth iechyd meddwl |
1.7; 2.4; 3.2; E1 |
Mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig, sy’n ychwanegu at anhawster cyflenwi gwasanaethau hygyrch ac yn her o ran recriwtio |
I’w drafod ymhellach gan BGCau |
Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen
Mae Bwrdd Rhaglen Iechyd Meddwl rhanbarthol wedi’i sefydlu sy’n gyfrifol am symud y Rhaglen Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ymlaen ac mae cyswllt cryf rhyngddo â’r rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol. Mae cysylltiadau’n cael eu sefydlu rhwng y Bwrdd hwn a Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol.
Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym
- Mae’r gyfran o bobl hŷn (dros 65 oed) yn uwch yng Ngorllewin Cymru nag yng Nghymru drwyddi draw (21.3% o’i gymharu â 18.6%)
- Rhagwelir cynnydd o oddeutu 60% yn nifer y bobl dros 65 yng Ngorllewin Cymru erbyn 2035
- Rhagwelir cyfradd uwch fyth o gynnydd yn nifer y bobl dros 85 yng Ngorllewin Cymru – 122% - dros yr un cyfnodd
- Mae disgwyliad oes heb anabledd yn cynyddu’n arafach na disgwyliad oes, sy’n awgrymu cynnydd yn yr angen am ofal a chymorth dros amser
- Mae niferoedd sylweddol uwch o bobl hŷn yn cael eu derbyn i’r ysbyty ar frys yng Ngorllewin Cymru nag ar draws y boblogaeth drwyddi draw gydag anghysondeb tebyg yn nifer y bobl sy’n cael gofal fel cleifion preswyl am gyflyrau cronig
- Mae’r cyfraddau dementia mewn pobl hŷn hefyd yn debygol o godi, gydag amcanestyniadau neilltuol o uchel yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro
- Mae natur wledig yn gallu bod yn ffactor sy’n dwysáu anghenion pobl hŷn, oherwydd ynysu cymdeithasol, lefelau uwch o amddifadedd a mynediad gwael at wasanaethau
Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd
|
Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi |
Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth yn cynnwys Dewis a gwasanaethau eiriolaeth perthnasol i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ar bob cyfnod o fywyd |
1.3; 1.4 |
Gwella gofal rhagflaenol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a sectorau eraill fel nad yw anghenion yn dwysáu |
1.1; 2.2 |
Lleihau’r ddibyniaeth ar ofal preswyl a gofal nyrsio o blaid gwasanaethau ataliol a lles ar lefel is |
1.1; 1.2; 1.4; 1.5; 1.23; 2.2; 2.5; 2.6; 2.16; 3.12; E5 |
Datblygu gwasanaethau seiliedig yn y gymuned, dan arweiniad defnyddwyr, wedi’u cydgynhyrchu, sy’n atal ynysu; hyrwyddo cysylltiadau o fewn y gymuned, lles a chryfder a helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol yn hirach yn eu cymunedau eu hunain |
1.2; E5 |
Gwella’r prosesau asesu a chynllunio gofal i sicrhau bod pobl hŷn a’u gofalwyr yn cael eu cynnwys yn y penderfyniadau a wneir amdanynt, yn cynnwys cynllunio rhyddhau |
2.1; E8 |
Sicrhau bod pobl hŷn a’u teuluoedd yn gallu cyrchu at wasanaethau drwy’u dewis iaith a bod y cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael |
I’w ystyried gan fforwm rhanbarthol yr iaith Gymraeg |
Sicrhau modd cyson, integredig o ymdrin ag eiddilwch ar draws y rhanbarth sy’n cydweddu â’r strategaethau a’r llwybr rhanbarthol ar eiddilwch a dementia |
1.1; 1.2; 1.3; 1.4; 1.5; 1.8; 1.23; 2.1; 2.2; 2.3; 2.5; 2.7; 3.1; 3.12; E1; E2; E3; E5; E7 |
Datblygu prosesau comisiynu a chaffael cyson, integredig, wedi’u seilio ar egwyddorion cydgynhyrchu, sy’n cynnwys grwpiau a fforymau pobl hŷn yn y gymuned, o dan arweiniad defnyddwyr, yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau |
E2; E3; E5 |
Gwella a safoni’r lefelau teleiechyd a theleofal ar draws y rhanbarth |
1.5 |
Mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig iawn, sy’n ychwanegu at anhawster cyflenwi gwasanaethau hygyrch ac yn her o ran recriwtio |
I’w drafod ymhellach gan BGCau |
Datblygu dull integredig o sicrhau ansawdd a monitro contractau cartrefi gofal er mwyn canfod a mynd i’r afael â phryderon sy’n dod i’r amlwg ac atal lleoliadau rhag chwalu |
3.11 |
Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen
Bydd grŵp rhanbarthol yn cael ei sefydlu i oruchwylio’r ystod o amcanion a gynhwysir yn y Cynllun, yn cynnwys y rheiny sy’n ymwneud â dementia ac eiddilwch.
Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym
- Mae nam ar y synhwyrau yn gallu bod yn gyflwr arwyddocaol sy’n cyfyngu ar fywyd ac mae nifer yr achosion yn cynyddu gydag oedran
- Yng Ngorllewin Cymru mae nifer y rhai dros 75 sydd â nam canolig neu ddifrifol ar y golwg a chyflyrau cofrestradwy ar y llygaid yn debygol o gynyddu’n sylweddol dros y ddau ddegawd nesaf
- Mae nifer y bobl â nam canolig neu ddifrifol ar y clyw yn debygol o gynyddu 32% a 42%, y naill a’r llall, dros yr un cyfnod
- Mae adnabod cynnar, atal a gwella mynediad at wasanaethau prif ffrwd yn hanfodol er cynnal lles y rhai sydd â nam ar y synhwyrau
Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd
|
Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi |
Codi proffil nam ar y synhwyrau a Gwasanaeth Golwg Gwan y Gwasanaeth Iechyd, a dealltwriaeth y cyhoedd o hynny, a gwreiddio arferion da yn ymwneud ag adnabod, gwybodaeth, ymgynghori ac integreiddio â gwasanaethau eraill cysylltiol |
1.24 |
Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth sy’n ymdrin â’r anghenion a’r rhwystrau rhag cyrchu at wasanaethau, sy’n gallu atal y rhai sydd â nam ar y synhwyrau rhag manteisio ar ofal iechyd hanfodol |
1.3; 1.4; 1.24 |
Datblygu cymorth a gwasanaethau penodol, cyson, megis dehongli, cyfieithu, darllen gwefusau, therapïau siarad, adsefydlu a chlinigau offthalmoleg a glawcoma i sicrhau eu bod ar gael ac yn hygyrch ar draws y rhanbarth |
2.17; 1.24 |
Cynyddu’r defnydd o daliadau uniongyrchol i sicrhau bod gan bobl ddewis gwirioneddol a rheolaeth dros y gofal a’r cymorth maen nhw’ n ei gael |
3.1 |
Datblygu gwasanaethau seiliedig yn y gymuned, dan arweiniad defnyddwyr, wedi’u cydgynhyrchu, sy’n atal ynysu; yn hyrwyddo cysylltiadau o fewn y gymuned, lles a chryfder a chymorth i bobl i barhau i fod yn annibynnol yn hirach yn eu cymunedau eu hunain |
1.2; 1.24; E5 |
Mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig iawn, sy’n ychwanegu at anhawster cyflenwi gwasanaethau hygyrch |
I’w drafod ymhellach gan BGCau |
Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen
Sefydlir grŵp rhanbarthol gorchwyl a gorffen i ystyried y bylchau a'r meysydd i'w gwella o fewn yr Asesiad Poblogaeth ac i gytuno ar gynllun gweithredu rhanbarthol ar gyfer y camau a nodwyd.
Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym
- Mae canran yr oedolion sy’n yfed mwy na’r canllawiau a argymhellir ac sy’n goryfed mewn pyliau yn disgyn ac mae’n is na chyfartaledd Cymru. Fodd bynnag mae dros 22% o’r boblogaeth yn yfed ar lefel sy’n niweidiol
- Mae amrywiaeth rhanbarthol o ran derbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol gyda gostyngiadau yng Ngheredigion a Sir Benfro rhwng 2014-15 a 2015-16 ond cynnydd yn Sir Gaerfyrddin dros yr un cyfnod
- Mae cyfran y bobl sy’n cwblhau triniaeth cyffuriau yn llwyddiannus yng Ngorllewin Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru, ar 79%
- Mae’r achosion o Blant mewn Angen oherwydd camddefnyddio sylweddau yn y teulu yn is na chyfartaledd Cymru, a Cheredigion a Sir Benfro sydd â’r cyfrannau isaf yng Nghymru
Dengys data mwy diweddar sydd wedi dod ar gael ers cwblhau’r Asesiad Poblogaeth dueddiadau sy’n peri pryder ac y mae angen cymryd camau unioni priodol yn eu cylch:
- Yn ystod 2016-17, ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda welodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru o ran cyfraddau derbyniadau ysbyty mewn perthynas ag alcohol ar gyfer cyflwr alcohol benodol. Roedd gan Sir Gaerfyrddin gyfradd dderbyn o 375 o unigolion fesul 100,000 o’r boblogaeth, sef cynnydd o 25% ers 2015/16 a chynnydd o 46% ers 12-13. Mae Ceredigion wedi gweld cynnydd o 13% ers 2015/16 a Sir Benfro wedi gweld cynnydd o 3%
- Mae derbyniadau ysbyty o achos alcohol yn Sir Gaerfyrddin yn 2016-17, wedi cynyddu 12% o gymharu â 2015-16, a 27% dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae Ceredigion wedi cynyddu 8% yn y flwyddyn ddiwethaf ac 19% o gymharu â chyfraddau derbyn bum mlynedd yn ôl. Nid oes newid wedi bod yng nghyfraddau Sir Benfro ers 2015-16 ond mae cynnydd o 9% wedi bod ers 2012-13
- Yn 2016/17, roedd 1,197 o atgyfeiriadau ar gyfer triniaeth alcohol (o gymharu â 1,137 yn 2015-16) a 978 o atgyfeiriadau ar gyfer triniaeth cyffuriau
Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd
|
Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi |
Sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu cyrchu ar wasanaethau drwy eu dewis iaith a bod y cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael |
1.25 Gweler Cynllun Atal y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu. |
Sefydlu dull mwy cydgysylltiedig a chydlynus o ymdrin ag addysg ar gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol a chodi ymwybyddiaeth pobl ifanc ar draws ysgolion a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) |
Gweler Cynllun Atal y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu. |
Sefydlu opsiynau triniaeth clir a chydlynus i bobl ifanc a’u teuluoedd sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol er mwyn ymdrin yn fwy cyfannol ag atal ac ymyrraeth gynnar, gan sicrhau bod cysylltiad clir â’r agenda Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) |
Gweler Cynllun Atal y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu. |
Datblygu llwybrau clir rhwng gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl yr un pryd |
Gweler Cynllun Triniaeth a Lleihau Niwed y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu. |
Targedu atal, ymyrraeth gynnar ac ymyriadau triniaeth er mwyn lleihau niwed i bobl hŷn (50+ oed) sydd â phroblemau alcohol |
Gweler Cynllun Triniaeth a Lleihau Niwed y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu. |
Datblygu opsiynau tai ac ailintegreiddio cyfleoedd yn y gymuned i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n gwella |
Gweler Cynllun y Bwrdd Cynllunio Ardal ar gyfer Triniaeth a Lleihau Niwed a’i Gynllun Gweithredu ar gyfer Marwolaethau Cysylltiedig â Chyffuriau. Wrthi'n cael ei datblygu. |
Sefydlu, datblygu, gweithredu a rheoli proses drylwyr i adolygu gorddosau angheuol a’r rhai nad ydynt yn angheuol, yn cynnwys cyflwyno trefn i weinyddu Naloxone ar draws safleoedd ysbyty |
Gweler Cynllun y Bwrdd Cynllunio Ardal ar gyfer Triniaeth a Lleihau Niwed a’i Gynllun Gweithredu ar gyfer Marwolaethau Cysylltiedig â Chyffuriau. Wrthi'n cael ei datblygu. |
Datblygu prosesau comisiynu a chaffael cyson, integredig, wedi’u seilio ar egwyddorion cydgynhyrchu, sy’n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, gofalwyr ifanc, rhieni neu eraill o bwys, grwpiau a fforymau yn y gymuned, o dan arweiniad defnyddwyr, yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau |
E2 Gweler Cynllun Triniaeth a Lleihau Niwed y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu. |
Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen
Bydd Bwrdd Cynllunio Ardal Dyfed ar Gamddefnyddio Sylweddau yn symud y gwaith hwn ymlaen drwy strategaeth gomisiynu ranbarthol, ar sail y weledigaeth ganlynol:
- Bydd pobl yn iachach ac yn profi llai o risgiau o ganlyniad i ddefnyddio alcohol a chyffuriau
- Bydd llai o oedolion a phobl ifanc yn defnyddio cyffuriau neu’n yfed alcohol ar lefelau sy’n niweidiol i’w hunain neu i eraill
- Bydd unigolion yn gallu gwella ar ôl defnydd problemus o gyffuriau ac alcohol a gwella eu cyfleoedd iechyd, llesiant a bywyd
- Bydd gwasanaethau atal mewn perthynas ag alcohol a chyffuriau, triniaeth a chymorth ar gael yn hwylus, o safon uchel, yn amserol ac yn gwella’n barhaus
- Bydd teuluoedd a phlant pobl sy’n camddefnyddio alcohol a chyffuriau yn ddiogel, yn cael cefnogaeth dda, ac yn cael cyfleoedd bywyd gwell
Mae cysylltiadau’n cael eu creu rhwng y Bwrdd Cynllunio Ardal a Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol er mwyn helpu i hwyluso dull cydlynol yn y maes hwn.
Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym
- Mae 1.4 miliwn o fenywod a 700,000 o ddynion 16-59 oed yn dweud eu bod yn cael profiad o drais domestig yng Nghymru a Lloegr.
- Menywod ifanc 16-24 oed sydd â’r risg fwyaf a chaiff menyw ei lladd bob 2.4 diwrnod yn y Deyrnas Unedig gyda 148 o fenywod wedi’u lladd gan ddynion yn y Deyrnas Unedig yn 2014.
- O allosod y data hwn i Gymru gwelir bod 11% o fenywod a 5% o ddynion y flwyddyn yn cael profiad o ‘ryw gam-drin domestig’, tra oedd y cyfraddau ‘rhyw gam-drin rhywiol’ yn y flwyddyn ddiwethaf hefyd yn uwch i fenywod (3.2%) nag i ddynion (0.7%).
- Mae 124,000 yn fras o fenywod, dynion, bechgyn a merched dros 16 oed yng Nghymru wedi dioddef trosedd rywiol yn eu herbyn.
- Bu cynnydd o 26% yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn ymwneud â phlant o dan 16 yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r ffigurau wedi mwy na dyblu yn y degawd diwethaf (Bentley et al, 2016). Y llynedd, roedd cyfradd y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant o dan 16 yng Nghymru yn 3.3 fesul 1000 o blant.
- Yn 2011 yr amcangyfrif oedd bod 137,000 o ferched a menywod yn byw gyda chanlyniadau Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn y Deyrnas Unedig, ac yn 2011 amcangyfrifwyd bod 60,000 o ferched o dan 15 oed a oedd yn byw yn y Deyrnas Unedig wedi’u geni i famau o wledydd lle mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei arfer a gallai fod risg iddyn nhw felly. Amcangyfrifir bod 140 o ferched y flwyddyn yng Nghymru yn dioddef anffurfio’u organau cenhedlu.
- Menywod yw’r dioddefwyr mewn 80% o’r achosion y mae’r Uned Priodasau Dan Orfod yn delio â nhw; mae a wnelo 20% o’r achosion â dioddefwyr gwryw. Amcangyfrifir bod hyd at 100 o ddioddefwyr priodasau dan orfod y flwyddyn yng Nghymru.
- Mae Cam-drin Domestig yn unig yn costio £303.5m y flwyddyn i Gymru. Mae hyn yn cynnwys costau gwasanaethau o £202.6m a £100.9m o allbwn economaidd wedi’i golli. Os caiff y gost emosiynol a dynol ei chynnwys hefyd, mae’r costau ychwanegol yn £522.9m.
Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd
|
Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi |
Codi proffil trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a’r ddealltwriaeth ohonynt, yn cynnwys ymysg grwpiau agored i niwed megis Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anabl, y gymuned LGBT, pobl hŷn, ffoaduriaid a mudwyr |
Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018 |
Gwreiddio arferion da yn ymwneud ag adnabod, gwybodaeth, ymgynghori ac integreiddio gwasanaethau eraill cysylltiol |
2.18 |
Adnabod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gynharach |
Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018 |
Gwella addysg am gydberthnasau iach a chydraddoldeb rhyw, gan sicrhau gweithredu rhanbarthol cyson |
Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018 |
Sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu hyfforddi i ddarparu ymatebion cyson, effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr |
1.26 |
Darparu mynediad cydradd i ddioddefwyr at wasanaethau ag adnoddau priodol, sydd o safon gyson uchel, a arweinir gan anghenion, wedi’u seilio ar gryfder, ac sy’n ymateb i’r ddau ryw |
Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018 |
Datblygu cynlluniau ataliol, wedi’u seilio yn y gymuned, sy’n cynyddu ymwybyddiaeth, yn darparu gwybodaeth ac yn hwyluso mynediad at wasanaethau |
Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018 |
Cynyddu ymwneud goroeswyr yn y gwaith o gynllunio, cyflenwi a monitro gwasanaethau |
Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018 |
Datblygu a gweithredu llwybr integredig ar gyfer pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol |
Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018 |
Mwy o ffocws ar y tramgwyddwyr, gan eu dal i gyfrif am eu gweithredoedd a darparu cyfleoedd, drwy ymyrraeth a chymorth, iddynt newid eu hymddygiad |
Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018 |
Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen
Mae’n ofynnol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 fod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd gyson a chydlynus i wella’r canlyniadau i unigolion a’u teuluoedd sydd wedi dioddef Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig neu Drais Rhywiol.
Yn 2018 bydd Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi’u strategaeth gyntaf ar y cyd i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; gan amlinellu sut y bydd y rhanbarth yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr, yn mynd i’r afael â tramgwyddwyr, yn sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol yr arfau a’r wybodaeth i weithredu, yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r materion ac yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall anghydraddoldeb mewn cydberthnasau a bod ymddygiad camdriniol wastad yn anghywir.
Mae’r strategaeth yn ceisio darparu fframwaith a fydd yn gwella’r cynllunio, y cyd-drefnu a’r cydweithio o ran ymateb a bydd hefyd yn help i integreiddio a thrawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi. Bydd yn galluogi newid sylweddol yn y gweithredu er mwyn gwireddu gostyngiad cynaliadwy mewn trais a chamdriniaeth, gwella canlyniadau i bob unigolyn a theulu yr effeithir arnynt ac atal camdriniaeth o’r fath rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Gweithrediaeth Ddiogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol VAWDASV. Mae Grŵp Strategol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, sy’n atebol i’r Weithrediaeth Ddiogelu ranbarthol, wedi’i sefydlu i ddarparu strwythur llywodraethu i ddatblygu, cymeradwyo a monitro’r trefniadau rhanbarthol o ran Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Bydd Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol yn gweithio’n agos gyda Byrddau Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru i gytuno ar drefniadau adrodd ffurfiol ar gyfer VAWDASV. Bydd hyn yn ein galluogi i gryfhau gwaith partneriaeth effeithiol ac adnabod cyfleoedd i greu cynlluniau gwaith sy’n cydweddu â gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal.