Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol
Mae adolygiad sylfaenol o wasanaethau gofal iechyd yng Ngorllewin Cymru yn cael ei gynnal ar hyn o bryd drwy Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’r rhaglen wedi’i seilio ar bedwar amcan allweddol:
- Gwella ansawdd gofal
- Diwallu anghenion newidiol cleifion
- Cyflawni mwy â’n hadnoddaur
- Cydgysylltu gwasanaethau
Ar ôl ymgysylltu’n eang â staff, partneriaid, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a’r cyhoedd yn ystod Gwanwyn a Haf 2017, mae nifer o opsiynau ar gyfer trefnu a chyflenwi gofal iechyd yn y dyfodol wedi cael eu datblygu ac ymgynghorir ymhellach ynglŷn â’r rhain yng Ngwanwyn 2018, cyn i’r model a ffefrir gael ei fabwysiadu’n ffurfiol yn yr Hydref. Mae’r modelau hyn i gyd wedi’u seilio ar egwyddorion craidd gwella iechyd y boblogaeth, atal a hunanofal ac maent yn cynnwys sefydlu ‘canolfannau cymunedol’ sy’n darparu ystod o wasanaethau iechyd a gofal integredig gyda’r nod o helpu pobl i gadw’n iach yn eu cymunedau.
Mae’r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol yn gyfle unigryw i iechyd, gofal cymdeithasol, a phartneriaid yn y sector annibynnol a’r trydydd sector – yn gweithio gyda defnyddwyr a gofalwyr – i ddatblygu’r system gofal di-dor a ragwelwyd yn yr Adolygiad Seneddol, ac mae hynny’n gweddu i anghenion pobl Gorllewin Cymru. Mae’r Amcanion yn y Cynllun hwn yn adleisio nodau’r rhaglen ac yn dangos bwriad strategol a rennir i wireddu newid trawsnewidiol.
Caiff cynlluniau gweithredu manwl eu datblygu ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol cyn gynted ag y penderfynir ar y ffordd ymlaen.
Nesaf