Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o themâu trawsbynciol sy'n berthnasol ar draws grwpiau poblogaeth. Mae hyn hefyd yn adeiladu ar y themâu a nodwyd yn Asesiad Poblogaeth 2017.

Mae amrywiaeth o grwpiau rhanddeiliaid poblogaeth yng Ngorllewin Cymru sy'n cefnogi ein dull o ymgysylltu, ymgynghori a chynllunio parhaus. Mae'r grwpiau hyn yn ein helpu i adlewyrchu profiad byw pobl yn ein Hasesiad Poblogaeth.

Er bod pob un o'r adroddiadau thematig yn nodi materion a heriau sy'n berthnasol i'r grŵp defnyddwyr penodol hwnnw, mae rhai yn berthnasol i bawb, sy'n gofyn am ymateb generig gan y BPR a'i bartneriaid. Mae'r themâu trawsbynciol hyn wedi'u nodi nid mewn unrhyw drefn flaenoriaeth.

Nododd Asesiad Poblogaeth 2017 yr her y mae llawer o grwpiau difreintiedig yn ei hwynebu o ran cael mynediad at wasanaethau i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth. Mae amrywiaeth o gamau wedi'u cymryd a byddant yn flaenoriaeth barhaus i'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Datblygu polisïau i sicrhau ei bod mor hawdd â phosibl i bobl gael mynediad at gymorth yn eu cymunedau.
  • Dylai gwasanaethau ystyried dewis iaith, anghenion economaidd a diwylliannol ac anghenion ychwanegol megis anableddau corfforol, synhwyraidd a dysgu, niwroamrywiaeth, nam gwybyddol ac iechyd meddwl gwael.
  • Datblygu un pwynt cyswllt ym mhob ardal, a hynny ar draws y system iechyd a gofal i'w gwneud yn haws cael mynediad at gyngor, gwybodaeth a chymorth perthnasol.
  • Yr angen i barhau i ddatblygu atebion technolegol megis yr ap Assist My Life, teleiechyd a chanolfannau dydd rhithwir sy'n helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau.

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar amseroedd aros yng Nghymru ar gyfer asesu, rhoi diagnosis a thriniaeth, yn ogystal â'r hyn sydd ar gael o ran cymorth. Yng Ngorllewin Cymru, mae angen parhau i wneud y canlynol:

  • Gwella'r wybodaeth sydd ar gael ynghylch cael mynediad at wasanaethau yn y gymuned ar gyfer diagnosis
  • Rhoi gwybodaeth i bobl am amseroedd aros
  • Cynyddu'r ystod o gymorth a gynigir yn dilyn diagnosis

Mae angen gwneud y canlynol:

  • Gwella cysondeb o ran y wybodaeth, y cyngor a'r cymorth a roddir ar draws y rhanbarth
  • Sicrhau bod gwybodaeth, gan gynnwys cynlluniau gofal, ar gael mewn amrywiaeth o fformatau megis rhai sy'n hawdd eu darllen, rhai mewn iaith arwyddion a braille ynghyd â rhai yn newis iaith y defnyddiwr
  • Parhau i wella cyfathrebu rhwng sefydliadau a gweithwyr proffesiynol mewn perthynas â chynllunio gofal er mwyn osgoi gorfodi unigolion i ailadrodd eu stori.
  • Cynyddu'r defnydd o systemau gwybodaeth integredig lle mae'r holl wybodaeth am berson mewn un man a gall y bobl iawn ar draws y gwahanol systemau gael gafael arni pan fo'i hangen.

Yn ystod pandemig COVID-19 defnyddiwyd atebion digidol gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad â phobl, ac i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth. Amlygodd hyn y potensial o ddefnyddio technolegau digidol a chyflymwyd y defnydd ohonynt.

Fodd bynnag, nid yw pawb yn gallu cael mynediad at wasanaethau fel hyn yng Ngorllewin Cymru. Mae hyn yn rhannol oherwydd argaeledd band eang cyflym neu wasanaeth 4G mewn rhai ardaloedd, mynediad at ddyfeisiau addas, yn ogystal â'r hyder neu'r sgiliau i gael cymorth fel hyn. Rhaid inni roi sylw i'r diffyg hwn.

Dylem hefyd adeiladu ar y profiad yn ystod y pandemig er mwyn:

  • Sicrhau bod ystod eang o bobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau rhithwir pryd a ble sy'n briodol
  • Gwneud gwell defnydd o sianeli cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â chymunedau, darparu gwybodaeth iddynt a'u cefnogi
  • Manteisio i'r eithaf ar botensial cymorth digidol a rhithwir ynghyd â theleiechyd i helpu pobl i reoli cyflyrau penodol, i fynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol ac i gyrraedd y rhai sy'n byw mewn cymunedau ynysig.
  • Cynyddu'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol i wella ein gwasanaethau gofal uniongyrchol megis gofal cartref a byw â chymorth.

Mae mwy i'w wneud i sicrhau bod cydgynhyrchu'n rhan annatod o'n gwaith drwy:

  • Sicrhau bod cydgynhyrchu'n egwyddor allweddol wrth ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy yn y gymuned sy'n cael eu harwain gan ddefnyddwyr
  • Sicrhau bod comisiynwyr a darparwyr yn cydgynhyrchu gwasanaethau â'r rhai sy'n eu defnyddio
  • Sicrhau bod pobl sydd angen gofal a chymorth, eu teuluoedd a gofalwyr di-dâl, yn cael eu cynnwys yn y penderfyniadau a wneir am eu gofal

Yng Ngorllewin Cymru mae amrywiaeth o wasanaethau 'ataliol' eisoes ar gael. Mae'r pandemig wedi arwain at fwy o arwahanrwydd ac amharu ar fywyd arferol. Gallai hyn gael effeithiau tymor byr ar iechyd meddwl a chyflyrau eraill, gan y gallai pobl fod wedi methu â chael y cymorth y byddai ganddynt fel arfer, neu efallai eu bod wedi bod yn rhy bryderus i gael mynediad ato. Mae'n flaenoriaeth i ni:

  • Adennill momentwm mentrau cymunedol ar draws y rhanbarth a gafodd eu gohirio yn ystod y pandemig
  • Ailsefydlu gweithgareddau a digwyddiadau ymgysylltu a oedd yn helpu pobl i gyfarfod ac i rannu gwybodaeth yn ogystal â helpu i ddatblygu gwasanaethau a chyfrannu atynt.
  • Sicrhau bod gwasanaethau ataliol yn gallu newid i wasanaethau statudol pan fydd anghenion pobl yn cynyddu a bod angen mwy o gymorth arnynt
  • Datblygu gwasanaethau yn y gymuned ymhellach sy'n atal arwahanrwydd ac yn cefnogi pobl i ddod yn fwy gwydn ac i reoli eu cyflyrau eu hunain
  • Cryfhau'r cysylltiadau ag ysgolion i nodi grwpiau o blant, pobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr di-dâl, y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt
  • Gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn gynnar i blant ac i oedolion, gan atal uwchgyfeirio a'r angen i atgyfeirio at wasanaethau statudol.

An ambulance arrives at a hospital with a patient


Mae cefnogi a datblygu ein gweithlu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Mae angen rhoi sylw i'r meysydd canlynol:

  • Gwella ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o gyflyrau cudd gan gynnwys nam ar y synhwyrau a nam gwybyddol, anghenion iaith a chyfathrebu, niwroamrywiaeth ac awtistiaeth, Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
  • Sicrhau bod staff yn ymwybodol o'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael yn eu cymuned.
  • Sicrhau bod gan bob aelod o staff ymwybyddiaeth o ddiogelu oedolion a phlant.

Gall yr amser pontio rhwng bod yn blentyn a bod yn oedolyn fod yn heriol. Mae'n gallu golygu newidiadau i drefniadau ar gyfer addysg, iechyd, gofal a chymorth ac agweddau eraill ar fywyd person ifanc. Er mwyn cefnogi pontio llyfn, dylem:

  • Datblygu polisi pontio rhanbarthol sy'n darparu cymorth di-dor ac integredig i deuluoedd yn hytrach na phroses sy'n dechrau ac yn stopio.
  • Gwella'r broses bontio wrth gael mynediad at nifer o wasanaethau, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth.

Mae rhoi'r unigolion a'u hanghenion wrth wraidd eu gofal yn egwyddor arweiniol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae'r canlynol yn dal i fod yn flaenoriaeth i ni:

  • Sicrhau bod prosesau asesu a chynllunio gofal yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl
  • Sicrhau bod gan bobl ddewis o ran sut y gellir diwallu eu hanghenion cymorth
  • Gwella ystod a dewis y llety sydd ar gael fel y gall pobl barhau i fyw'n annibynnol yn eu cymunedau
  • Cynyddu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, profiad gwaith, cyfleoedd cyflogaeth a rhwydweithio i bobl sydd ag amrywiaeth o anableddau a chyflyrau

O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 mae gan yr iaith statws swyddogol yng Nghymru ac felly ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae un o egwyddorion allweddol y Fframwaith gwreiddiol – sef y 'cynnig rhagweithiol', sy'n rhoi'r baich ar gomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano – yn flaenoriaeth barhaus i'r rhai sydd angen gofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru lle, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2011, roedd 37% o'r boblogaeth dros 3 oed yn siaradwyr Cymraeg.