1. Gwaith presennol a mentrau pwysig yn Rhanbarth Gorllewin Cymru
Mae modd bwrw golwg ar ddadansoddiad llawn o'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngorllewin Cymru o dan arweiniad Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru (WWCDG) mewn adroddiadau blynyddol a luniwyd gan y grŵp. Mae’r adroddiadau blynyddol hyn yn rhoi manylion llawn am yr holl gamau a’r rhaglenni a gyflawnwyd drwy’r rhaglen gofalwyr gan WWCDG:
2. Gwasanaethau cymorth presennol
Mae ystod o wasanaethau cymorth a gofal ar gael ar draws y rhanbarth i gefnogi gofalwyr. Mae rhai gwasanaethau yn cael eu comisiynu yn unigol gan gyrff statudol a chaiff eraill eu comisiynu ar y cyd ar sail sirol neu ranbarthol. Mae Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru yn darparu fforwm allweddol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth rhwng y cyrff comisiynu ac yn sicrhau cydweithio ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer defnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru, e.e. Cronfa Gofal Integredig a grantiau Gofalwyr.
Mae Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru (WWCDG) wedi gallu cydlynu sawl darn pwysig o waith, gan gynnwys:
- Darparu mynediad i ofalwyr ifanc at wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr a'u galluogi i hysbysu archfarchnadoedd, fferyllfeydd, athrawon ac eraill bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu
- Parhau i gyflwyno'r Cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, gan gynyddu ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol o anghenion gofalwyr ar draws sectorau gan gynnwys gofal iechyd sylfaenol, cymunedol ac acíwt, ysgolion, llyfrgelloedd, gofal cymdeithasol, y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau'r trydydd sector. Mae dros 120 o leoliadau yn cymryd rhan yn y cynllun ar hyn o bryd ac mae llawer mwy yn gweithio tuag at hynny. Mae'r cynllun hefyd yn galluogi pobl i gofrestru fel gofalwr gyda'u meddyg teulu, gan arwain at atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr lleol a all ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ychwanegol
- Defnyddio Swyddogion Gofalwyr (a gyflogir gan y trydydd sector) mewn ysbytai i gynorthwyo gweithwyr iechyd proffesiynol i nodi gofalwyr di-dâl, gwella'r rhan y maent yn ei chwarae yn y broses ryddhau a darparu gwybodaeth a chymorth
- Parhau i gyflwyno'r rhaglen Cyflwyniad i Ofalu Amdanaf i (I2LAM) ar gyfer gofalwyr ledled Gorllewin Cymru, gan helpu gofalwyr i ddysgu sgiliau newydd a gofalu am eu hiechyd eu hunain wrth ofalu am rywun arall
- Cyflwyno'r Rhaglen Cydnerthedd a Llesiant Gofalwyr, gan roi sgwrs 'beth sy'n bwysig' i ofalwyr a chymorth priodol gan gynnwys ymyriadau ataliol a seibiant
- Sefydlu'r Gronfa Arloesi Cymorth i Ofalwyr ranbarthol sy'n cynnig cyllid tymor byr i sefydliadau'r trydydd sector er mwyn iddynt ddarparu cymorth i ofalwyr. Mae'r mentrau a gefnogir yn cynnwys sesiynau ffitrwydd corfforol, digwyddiadau hel atgofion chwaraeon, sesiynau crefft a chymdeithasol ar-lein a chymorth wedi'i dargedu i ofalwyr hŷn
- Cyflwyno'r cynllun Cyflogwyr i Ofalwyr (EfC) yng Ngorllewin Cymru gan sicrhau bod partneriaid statudol a thrydydd sector yn cael mynediad i ystod o adnoddau. Mae hyn wedi galluogi sefydliadau i adolygu polisïau a gweithdrefnau trwy lygad gofalwyr a chynnig cymorth ymarferol i weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu drwy gyflwyno pasbortau gofalwyr a rhwydweithiau staff
- Amrywiol fentrau cynhwysiant digidol i gynorthwyo gofalwyr yn ystod y pandemig, gan gynnwys Partneriaethau Cysylltiadau Digidol Sir Benfro sy'n cynorthwyo pobl, gan gynnwys gofalwyr, i gael mynediad at gyfarpar digidol a thechnoleg.
3. Cymorth a Gwasanaethau Gofal
Yn ogystal â’r rhaglenni gwaith sy'n cael eu cynnal dan raglenni grant Llywodraeth Cymru a ariennir gan WWDCG, mae hefyd nifer o wasanaethau cymorth a gofal ar gael i ofalwyr sy’n cael eu comisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac awdurdodau lleol. Gellir rhannu’r rhain yn fras yn wasanaethau sy’n cefnogi:
- Adnabod a chydnabod
- Cyngor a gwybodaeth
- Asesiad o anghenion gofalwyr
- Cymorth ymarferol (er enghraifft gofal amgen, help o amgylch y cartref, siopa)
- Eiriolaeth
- Cefnogaeth sy'n benodol i gyflwr ar gyfer y gofalwr a'r person y mae'n gofalu amdano.
4. Awdurdod Lleol a Chymuned
Yn ogystal â'r cymorth a'r gwasanaethau iechyd arbenigol a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae awdurdodau lleol yn darparu sawl mecanwaith cymorth arall:
- Gwasanaethau cyffredinol - Er enghraifft, canolfannau hamdden, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, cyfleoedd addysg oedolion er y cydnabyddir nad yw'r gwasanaethau hyn eto'n darparu mynediad cyfartal cyson i bobl ag anableddau dysgu
- Gwasanaethau atal - mae cyllid grant y Cyngor yn cefnogi twf gwasanaethau cymunedol eraill sy'n cael eu cyd-gynhyrchu ag aelodau cymunedau gan alluogi pobl i adeiladu ar eu cryfderau a'u hadnoddau unigol eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau cymydog da, clybiau cinio, mentrau cymunedol, gwasanaethau cymunedol/gwirfoddol
- Cyfleoedd Dydd - Darparu cyswllt ac ysgogiad cymdeithasol, lleihau unigedd ac unigrwydd, cynnal a / neu adfer annibyniaeth, cynnig gweithgareddau sy'n darparu ysgogiad meddyliol a chorfforol, darparu gwasanaethau gofal, cynnig cymorth lefel isel i bobl sy'n wynebu risg
- Darpariaeth gofal seibiant - Mae seibiant byr/seibiannau yn ymrwymiad allweddol i gydnabod bod seibiannau wedi'u cynllunio yn rhan hanfodol o gefnogi teuluoedd
- Gwasanaethau a Gomisiynir - Trefniadau byw â chymorth a gomisiynir yn unigol sy'n galluogi pobl ag anableddau dysgu i fyw yn eu tenantiaethau eu hunain gyda chymorth ar lefelau amrywiol, a gwasanaethau preswyl sy'n cynnwys darparu llety a gofal ar y safle, lle mae gofal ar gael 24 awr y dydd. Caiff gwasanaethau eiriolaeth eu comisiynu ar draws y rhanbarth;
- Taliadau Uniongyrchol - Mae'r modd hwn o dalu yn darparu ffordd arall i unigolion gael mynediad at ystod o gyfleoedd trwy allu dewis pwy sy'n darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
5. Ymateb i'r Pandemig COVID-19
Yng Ngorllewin Cymru, mae'r awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector wedi ymateb yn dda iawn i'r Pandemig Covid-19 gan addasu eu gwasanaethau yn gyflym ac, mewn rhai achosion, symud eu gweithgareddau ar-lein.
Er enghraifft, gan nad oedd modd cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, llwyddodd grŵp Gofalwyr Trefdraeth yn Sir Benfro i gynnal cyfarfodydd ar-lein dros Zoom, gyda chymorth Cysylltydd Cymunedol. O ganlyniad, roedd yn haws i Ofalwyr ar draws y Sir fod yn rhan o’r grŵp Gofalwyr, gan ddenu Gofalwyr newydd a oedd yn chwilio am gymorth gan gyfoedion ar-lein.
Enghraifft arall yw Uned Gofalwyr Ceredigion a ddarparodd raglen lawn o weithdai, hyfforddiant a thrafodaethau am hawliau Gofalwyr dros chwe mis olaf 2020-21.
Mae pob gwasanaeth Gofalwyr Ifanc wedi parhau i weithredu ac addasu ei ffyrdd o weithio, gan ddefnyddio Zoom, WhatsApp a Microsoft Teams.
Mae cyswllt rheolaidd wedi'i gynnal gyda Gofalwyr ifanc a'u teuluoedd i fynd i'r afael â materion.
Mae pob gwasanaeth wedi gweld dirywiad yn iechyd meddwl pobl ifanc a rhieni dros y flwyddyn ac mae gwasanaethau wedi ymateb drwy gynnig cymorth priodol.