Blaenoriaethau rhanbarthol
Mae ein Cynllun yn adlewyrchu wyth blaenoriaeth ranbarthol sydd wedi’u mabwysiadu gan Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol. Mae’r rhain wedi cael eu llunio gan gyd-destun y polisi cenedlaethol, gofynion statudol o dan y Ddeddf a chanfyddiadau ein Hasesiad Poblogaeth.
Mae ein blaenoriaethau rhanbarthol yn ffitio i dri chategori, fel y nodir isod:
GALLUOGWYR NEWID – gwella prosesau craidd a chreu capasiti i weddnewid |
- Strategaeth Ranbarthol o ran y Gweithlu
- Comisiynu integredig
- Gweithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)
|
TRAWSNEWID GWASANAETHAU ALLWEDDOL – integreiddio modelau gofal i wahanol grwpiau |
- Trawsnewid y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu
|
THEMÂU TRAWSBYNCIOL – meysydd newid sy’n rhychwantu gwahanol grwpiau poblogaeth |
- Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
- Gofalwyr
- Integreiddio gwasanaethau a chronfeydd cyfun
- Y Gymraeg
|
Mae rhaglenni gwaith cynhwysfawr ar waith i gefnogi pob amcan ac mae’r camau cyflawni allweddol sy’n codi o’r rhain yn cael eu hadlewyrchu yn yr amcanion a bennir yn ein Cynllun Cyflawni yn Adran 3.
Nesaf