Atal

Mae atal yn thema greiddiol yn y Ddeddf ac mae’r egwyddor eisoes yn ategu sawl model gofal a chymorth sydd ar waith ar draws y rhanbarth. Yn ei hanfod mae atal yn golygu diwallu anghenion pobl yn y gymuned cyn bod eu sefyllfa’n troi’n argyfyngus, ac yn achos y sawl sy’n cael gofal a chymorth, atal eu hanghenion rhag cynyddu drwy ganolbwyntio ar eu galluoedd a’u helpu i fod mor annibynnol â phosibl am gyn hired â phosibl. Mae wedi’i brofi fod y dull hwn yn gwella canlyniadau i bobl ac yn helpu i sicrhau eu llesiant. Hefyd mae’n helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael, drwy leihau’r galw am ofal ffurfiol, gan wneud gwasanaethau’n fwy cynaliadwy.

I wneud hyn mae angen newid y ffordd y mae asiantaethau statudol yn darparu gofal a chymorth. Mae’r tri awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyfrannu at ailgyflunio gwasanaethau a phrofi dulliau newydd, mewn llawer achos drwy raglenni a gefnogir gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:

  • Cynyddu’r defnydd o gyfleusterau camu i fyny a chamu i lawr er mwyn atal yr angen am dderbyn i’r ysbyty a galluogi pobl i ddychwelyd adref yn gynt
  • Cynyddu’r ystod o wasanaethau ailalluogi sy’n darparu cymorth a dargedwyd i bobl yn dilyn arhosiad yn yr ysbyty neu gynnydd dros dro mewn anghenion gofal a chymorth, i’w helpu i fod yn gwbl annibynnol eto mor gyflym ag y bo modd
  • Darparu gwasanaethau cyflym (turnaround) mewn ysbytai cyffredinol i leihau nifer y derbyniadau a hwyluso rhyddhau cynharach

Mae gan bartneriaid eraill megis y trydydd sector ran allweddol hefyd o ran atal, er enghraifft drwy ddatblygu rhwydweithiau cymorth lefel isel mewn cymunedau, a all helpu pobl i aros wedi’u cysylltu ac i aros yn annibynnol am gyn hired ag y bo modd. Yng Ngorllewin Cymru mae gennym hanes balch o arferion arloesol yn y maes hwn, sy’n cynnwys:

  • Cynlluniau ‘gartref o’r ysbyty’ traws-sector sy’n dod ag asiantaethau statudol a’r trydydd sector ynghyd i ddarparu gofal cofleidiol a sicrhau bod amgylchiadau pobl gartref yn briodol i’w hanghenion yn dilyn rhyddhau o’r ysbyty
  • Sefydlu rolau ‘brocer trydydd sector’ neu ‘cysylltydd cymuned’ i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o’r gofal a’r cymorth sydd ar gael mewn cymunedau lleol a chefnogi datblygiad mentrau newydd ar lefel leol

Nid yw’n syndod mai atal yw un o’r blaenoriaethau strategol y mae Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol wedi eu mabwysiadu. I sicrhau bod ein hymagwedd at atal mor effeithiol â phosibl, rydym wedi ymroi i adolygu trefniadau ar draws y rhanbarth, gan nodi arferion profedig ledled Cymru a’r DU a datblygu fframwaith ataliadau rhanbarthol ar sail safonau ansawdd a rennir.

Byddwn yn cefnogi datblygu modelau cyflawni amgen, yn cynnwys mentrau cymdeithasol, cydweithrediadau, a gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr, gan adeiladu ar y gweithgarwch presennol yn y rhanbarth a chronni arbenigedd partneriaid lleol a chenedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth am ein hamcanion yn Adran 3 o’r Cynllun Cyflawni.

 

Nesaf