Themâu Trawsbyncio

Overview

Er bod pob un o’r adroddiadau thematig yn nodi problemau a heriau sy’n berthnasol i’r grŵp defnyddwyr hwnnw, mae rhai o’r rhain yn gyffredin ar draws pob rhan o’r boblogaeth ac yn galw am ymateb cyffredinol gan Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol a’r partneriaid sy’n rhan ohono. Nodir y problemau a heriau cyffredin hyn isod.
 

Darparu gwasanaethau yn y Gymraeg

Mae gallu cael gwasanaethau Cymraeg yn ddymuniad gan rai pobl ac yn angenrheidrwydd i eraill er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol o ran llesiant. Yn arbennig ar adeg pan fônt yn fregus ac o bosibl fod angen gwasanaethau gofal a chymorth arnynt, bydd rhai pobl yn ei chael yn fwy naturiol mynegi a chyfleu anghenion yn Gymraeg nag y byddent yn Saesneg, yn arbennig os mai’r Gymraeg yw eu hiaith gyntaf a’r iaith y maent yn meddwl ynddi ac yn byw eu bywydau drwyddi. Felly, mae angen i sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn Gymraeg i’r graddau mwyaf posibl fod yn flaenoriaeth gan awdurdodau lleol, BILlau a phartneriaid eraill ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol a’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach. Gall methu â gwneud hynny olygu na ellir diwallu anghenion sylfaenol rhai pobl.

O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru ac o’r herwydd ni ddylai gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Mesur yn sefydlu fframwaith cyfreithiol sy’n gosod dyletswydd ar sefydliadau sy’n darparu gwasanaethu i’r cyhoedd yng Nghymru fodloni safonau penodedig mewn perthynas â:

  • Chyflenwi gwasanaeth
  • Llunio polisi
  • Gweithredu mewnol
  • Hybu’r Gymraeg; a
  • Chadw cofnodion
 

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i bob ALl yng Nghymru yn nodi’r Safonau a gyflwynwyd gan y Mesur y disgwylir iddynt eu bodloni. Mae’n ofynnol i gynghorau gyflwyno adroddiadau cynnydd blynyddol ar y ffordd mae’r safonau hyn yn cael eu bodloni. Mae rheoliadau sy’n creu Safonau i GIG Cymru yn debygol o gael eu pasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru tua diwedd 2016/dechrau 2017. O’r adeg honno ymlaen, bydd hefyd hawl gan Gomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno hysbysiadau cydymffurfio i asiantaethau’r GIG.

 

Grwpiau lleiafrifol ac wedi’u hymyleiddio

Mae’r Grŵp Llywio Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, sy’n cynnwys Cynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Powys a Sir Penfro, yn canolbwyntio ar brif-ffrydio saith canlyniad Cynllun Cyflawni Cenedlaethol Cydlyniant Cymunedol 2016-17 (Llywodraeth Cymru, 2016b) i bolisïau, strategaethau, partneriaethau a’r gwaith o ddarparu gwasanaethau..

 

Atal

Mae atal yn ganolog i’r trefniadau newydd ar gyfer gofal a chymorth a ragwelir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Yn benodol, mae Adran 15 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ataliol i atal, gohirio neu leihau angen am ofal a chymorth.

 

Diogelu

Mae diogelu’n thema ganolog yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Yn y Ddeddf, un o elfennau llesiant a nodir yw amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. I blant a phobl ifanc mae hyn yn cynnwys eu datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol a’u llesiant (sicrhau y cânt eu cadw’n ddiogel rhan niwed).

 

Hybu mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar rôl mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth. Bydd hyn yn hanfodol wrth gyflawni polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer mwy o amrywiaeth yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac wrth rymuso pobl a chymunedau trwy ymagwedd gydgynhyrchiol.