Cydgynhyrchu

Cydgynhyrchu

Wrth ddatblygu ein Hasesiad Poblogaeth, roeddem wedi cynnal ymarfer ymgysylltu cynhwysfawr lle buom yn gweithio gyda’r tri Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a oedd yn ymgynghori ynghylch eu hasesiadau llesiant ar yr un pryd. Nododd ein Hasesiad nifer o negeseuon allweddol a ddeilliai o’r ymgysylltu hwn, a oedd yn cynnwys arolwg a ddosbarthwyd i aelwydydd yn y rhanbarth a chyfres o ddigwyddiadau ymgynghori dilynol. Roedd y negeseuon hyn yn cynnwys:

  • Nifer sylweddol o bobl yn nodi bod ganddynt broblemau o ran gofal
  • Tua traean o’r ymatebwyr yn nodi bod ganddynt broblemau iechyd oedd yn effeithio ar eu llesiant
  • Llawer o bobl yn cael gofal a chymorth yn uniongyrchol gan eu teuluoedd
  • Adroddiadau am broblemau o ran gofal a chymorth yn cynnwys ymweliadau gofal ar adegau anaddas ac yn anrheolaidd, rhestrau aros hir am ofal awdurdod lleol, newidiadau mewn budd-daliadau yn effeithio ar allu pobl i dalu am ofal preifat a diffyg diwallu’r angen am gymorth emosiynol ac ymarferol yn dilyn llithro neu gwympo
  • Yr angen am sicrhau bod gwybodaeth a chyngor mewn perthynas â gofal a chymorth ar gael yn hwylus ac yn gywir
  • Gwerth cefnogi pobl a chymunedau i helpu eu hunain
  • Pwysigrwydd cael mynediad i wasanaethau ataliol
  • Yr angen am sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn newis iaith pobl
  • Yr angen am roi pobl wrth wraidd gofal a chymorth a gwella mynediad i wasanaethau

Mae’r sylwadau a’r pryderon hyn wedi cael eu hadlewyrchu yn themâu ac amcanion ein Cynllun. Wrth gynhyrchu’r Cynllun bu inni achub ar gyfleoedd pellach i ymgysylltu ag amryw o bobl i sicrhau bod ein blaenoriaethau yn adlewyrchu’u barn nhw cyn belled ag sy’n bosibl. Er enghraifft, rydym wedi trafod y cynnwys gyda defnyddwyr, gofalwyr, a chynrychiolwyr y trydydd sector a’r sector annibynnol ar Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol ac wedi ymgysylltu â nifer o weithgorau, yn cynnwys amryw o randdeiliaid, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r bwriadau a rennir ac yn rhoi pwys ar arferion effeithiol presennol.

Fodd bynnag, mae’n ofynnol cael dull mwy beiddgar i gyflawni cydgynhyrchu gwirioneddol, ac ni ddylai gychwyn a gorffen wrth y cam cynllunio. Fel partneriaeth, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda defnyddwyr, gofalwyr, teuluoedd, eiriolwyr a dinasyddion yn gyffredinol i wneud yn siŵr fod pobl yn cael y gofal iawn a chymorth sy’n diwallu’u hanghenion a’u dyheadau. Caiff dulliau priodol o sicrhau hyn eu nodi ym mhob un o’n ffrydiau gwaith a bydd Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol hefyd yn craffu ar raglenni perthnasol eraill ar draws Gorllewin Cymru i weld i ba raddau y maen nhw’n cael eu cydgynhyrchu.

Yn ogystal â chynrychiolaeth o blith defnyddwyr a gofalwyr ar Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol, byddwn yn sefydlu trefniadau rhanbarthol newydd ar gyfer ymgysylltu â thrawstoriad o’r cyhoedd wrth gynllunio, cyflenwi ac adolygu gwasanaethau gofal a chymorth. Bydd y rhain yn ategu mecanweithiau sydd ar waith eisoes ar lefelau rhanbarthol a lleol. Bydd Fforwm Arloesedd strategol newydd hefyd yn cael ei sefydlu i’n helpu i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon â darparwyr gwasanaethau ar draws y sectorau – statudol, annibynnol a’r trydydd sector – wrth ddatblygu ffyrdd newydd o ymdrin â gofal a chymorth a chyflawni gwerth cymdeithasol.

Bydd dulliau o’r fath yn ategu newidiadau i ymarfer a fydd, yn gynyddol, yn golygu y bydd unigolion yn cymryd rhan ystyrlon yn creu eu cynlluniau gofal a chymorth eu hunain. Bydd gofyn inni weithio’n arloesol gyda defnyddwyr, gofalwyr a darparwyr i wireddu hyn. Byddwn yn parhau i hyrwyddo Taliadau Uniongyrchol fel modd o gynyddu llais a rheolaeth y defnyddiwr.

Nesaf