Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrifir y bydd poblogaeth rhanbarth Gorllewin Cymru erbyn 2025 yn 389,719, sydd yn gynnydd o 1.34% ers cynnal asesiad poblogaeth 2017.

  • Mae 48.8% o boblogaeth y rhanbarth yn byw yn Sir Gaerfyrddin, 18.7% yng Ngheredigion a 32.5% yn Sir Benfro.
  • Mae 40% o oedolion yn Sir Gaerfyrddin; 49% o oedolion yng Ngheredigion a 22% o oedolion yn Sir Benfro yn siarad Cymraeg.
  • Mae amcangyfrifon 2021 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod pobl dros 65 oed yn ffurfio 24.1% o'r boblogaeth yn Sir Gaerfyrddin, 26.2% yng Ngheredigion a 26.7% yn Sir Benfro a chan fod rhannau helaeth o Orllewin Cymru yn wledig ac yn arfordirol, mae'r ardal yn denu lefelau uchel o bobl dros 65 oed sy'n mewnfudo yno.

Erbyn 2043 mae amcanestyniadau poblogaeth presennol Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd cyfanswm poblogaeth Gorllewin Cymru yn cynyddu i 396,000, gan ragweld cynnydd yn y rheiny sydd dros 65 i 124,587 neu 31.5% o'r boblogaeth gyfan.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Mae gan Orllewin Cymru gyfran uwch o bobl hŷn na'r cyfartaledd ledled Cymru, gyda mewnfudo yn ffactor mawr sy'n cyflymu twf y boblogaeth hŷn. Mae gan Sir Benfro boblogaeth hŷn na Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, gyda chynnydd rhanbarthol rhagamcanol o 28% yn y rheiny sy'n 85 oed a throsodd erbyn 2030, gydag amrywiadau fel a ganlyn: Sir Gaerfyrddin=25%; Ceredigion=26% a Sir Benfro=33%.

Mae pobl yn byw'n hirach gyda materion cynyddol gymhleth, ac maent am aros yn eu cartrefi eu hunain mor annibynnol â phosibl am gyhyd â phosibl. Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar lesiant corfforol a meddyliol pobl hŷn. Mae hyn o ganlyniad i gyfnodau hir o ynysu cymdeithasol, diffyg mynediad at wasanaethau iechyd a gofal yn ogystal ag effaith uniongyrchol dal COVID-19.

Dylai trefniadau gofal a chymorth gael eu cynllunio gyda phobl hŷn, dylent fod yn hyblyg a dylent gynnwys amrywiaeth o atebion cymunedol, digidol a thechnolegol.

Bylchau a meysydd i'w gwella

Dylid cynnwys y canlynol:

  • Cynnwys pobl hŷn a'u gofalwyr wrth asesu a chynllunio gofal, gan gynnwys cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty
  • Helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi am fwy o amser trwy barhau i ddatblygu cymorth digidol a theleiechyd, yn enwedig i'r rheiny mewn ardaloedd gwledig iawn a lle mae trafnidiaeth yn broblem
  • Darparu cymorth ychwanegol i ofalwyr sy'n rheoli cyflyrau lluosog a chymhleth
  • Parhau i ddatblygu gwasanaethau cysylltedd cymunedol, llesiant a chydnerthedd sy'n mynd i'r afael ag amrywiaeth o anghenion gan gynnwys unigrwydd ac arwahanrwydd
  • Cynyddu'r cyflenwad o opsiynau llety amgen megis cynlluniau gofal ychwanegol.
  • Sicrhau bod pobl hŷn a'u teuluoedd yn gallu cael gafael ar wasanaethau drwy eu dewis iaith a bod y cynnig rhagweithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael.

Effaith COVID-19:

Mae COVID-19 wedi arwain at ynysu cymdeithasol eang, gyda goblygiadau parhaol ar iechyd meddwl pobl hŷn. Mae pobl wedi oedi cyn ceisio help yn ystod y pandemig ac maent bellach yn dangos problemau iechyd llawer mwy cymhleth.

Oherwydd y cyfraddau marwolaethau a gafodd eu hadrodd mewn gofal preswyl, mae pobl hŷn bellach yn llawer mwy amharod i fynd i ofal preswyl gan greu mwy o alw am lety amgen.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Wrth i ddisgwyliad oes a mewnfudo gan bobl hŷn effeithio ar ganran y bobl hŷn yn y rhanbarth, disgwylir i nifer y bobl sy'n Byw gyda Dementia yng Ngorllewin Cymru gynyddu yn y degawdau nesaf.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia (DAP) 2018 – 2022 yn nodi gweledigaeth glir i "Gymru fod yn genedl sy'n ystyriol o ddementia ac sy'n cydnabod hawliau pobl â dementia i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau.”

Mae ein Strategaeth Dementia Ranbarthol ar gyfer Gorllewin Cymru yn cael ei chynhyrchu a bydd yn llywio'r gwaith o ddatblygu llwybrau dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, wedi'u cynhyrchu ar y cyd â defnyddwyr a gofalwyr.

Dyma'r negeseuon allweddol:

  • Nifer yr achosion o ddementia ar gofrestr clefydau'r Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella (QAIF) yn ardal Hywel Dda yn 2019-20 oedd 0.7%, yn unol â chyfartaledd cenedlaethol Cymru o 0.7%
  • Yn 2016-17 roedd y cyfraddau diagnosis o ddementia ymhlith yr isaf yng Nghymru sef 45.6%, a oedd yn dynodi bod y cyfraddau mynychder yn debygol o fod yn nes at 1.4%, er bod nifer y rheiny a gafodd ddiagnosis wedi cynyddu 3% y flwyddyn ar gyfartaledd i 2947 yn 2020.
  • Nodwyd dros 30 o ffactorau genetig, meddygol, ffordd o fyw, diwylliannol a chymdeithasol, sy'n cael effaith wahanol ar y risg o ddirywiad gwybyddol yn dibynnu ar rywedd. Mae rhai o'r ffactorau hyn yn cynyddu risg yn sylweddol fwy mewn menywod nag mewn dynion.

Bylchau a meysydd i'w gwella

Dylid cynnwys y canlynol:

  • Parhau i wella ymwybyddiaeth o ddementia, ei adnabod a'i ddiagnosio, gan gynnwys dementia sy'n dechrau ymhlith pobl iau
  • sicrhau diagnosis amserol a mynediad at ofal a chymorth priodol
  • Gwella'r modd y caiff gwasanaethau eu cyd-gynhyrchu drwy gynnwys pobl sy'n byw gyda dementia
  • Cynyddu cyfraddau diagnosis mewn lleoliadau cymunedol nad ydynt yn rhai arbenigol drwy:
    • Wella hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o fodelau arferion gorau dementia newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ym maes gofal sylfaenol, yn seiliedig ar y Fframwaith Gwaith Da
    • Cynorthwyo meddygon teulu, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a nyrsys i wneud asesiadau
    • Gwella ansawdd atgyfeiriadau i ofal arbenigol i'r rheiny sydd ei angen
  • Datblygu gofal a chymorth mwy cyson sy'n seiliedig ar hawliau ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Parhau i wella cymorth cymunedol, hyfforddiant a help i bobl sy'n byw gyda dementia i drafod eu diagnosis, llywio/cydlynu gwasanaethau, meithrin gwytnwch a chynnal cydbwysedd ar draws pob agwedd ar eu bywyd
  • Sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd corfforol a thriniaeth ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia
  • Sicrhau bod cynllunio gofal ymlaen llaw a gofal diwedd oes wedi'i ymgorffori'n llawn mewn cynllunio gofal a llesiant cynhwysol ehangach, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Gwella ymchwil i ddementia trwy gynnwys cartrefi gofal yn y rhanbarth yn y cyfleoedd ymchwil presennol
  • Parhau i ddatblygu dull "hwb" neu un pwynt cyswllt er mwyn i bobl sy'n byw gyda dementia gael gafael ar wybodaeth a chymorth.

Effaith COVID-19:

Mae COVID-19 wedi cael effaith negyddol anghymesur ar bobl sy'n byw gyda dementia, gyda dementia'n cael ei ddangos fel ffactor risg sy'n annibynnol ar oedran o ran difrifoldeb a marwolaeth mewn cleifion COVID-19.

Er nad yw'r union effaith ar ddiagnosis o ddementia a'r gyfradd achosion o ddementia yn glir, mae rhanddeiliaid wedi nodi bod COVID-19 wedi effeithio ar ddiagnosis amserol oherwydd bod pobl yn cyflwyno'n hwyr.

Nid oes gwybodaeth lawn am effaith COVID-19 ar y rheiny sydd â dementia a'u gofalwyr ar gael eto. Fodd bynnag, mae rhywfaint o bryder y gallai achosi niwed i'r ymennydd yn y tymor hwy.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Mae data Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2011 yn dangos bod yna fwy na 47,000 o ofalwyr di-dâl sy'n hysbys ledled Gorllewin Cymru, ac roedd 3,436 ohonynt yn Ofalwyr Ifanc (a ddiffinnir fel 5-17 oed), sy'n cynrychioli 12.5% o breswylwyr. Cydnabyddir hefyd fod yna nifer sylweddol o ofalwyr 'cudd' nad ydynt yn diffinio eu hunain felly.

Mae adnabod gofalwyr di-dâl yn gynnar a hunan-adnabod ymysg gofalwyr di-dâl yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r cymorth cywir ar yr adeg gywir, yn ogystal â chynnal eu hiechyd, eu llesiant a'u hannibyniaeth eu hunain.

Caiff cymorth i ofalwyr di-dâl yng Ngorllewin Cymru ei yrru drwy Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru (WWCDG), is-grŵp ffurfiol o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru a phartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y tri Awdurdod Lleol sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, sefydliadau'r Trydydd Sector a'r Sector Gwirfoddol a chynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a Gofalwyr yng Ngorllewin Cymru.

Cyhoeddodd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol ei Strategaeth Gofalwyr ym mis Tachwedd 2020. Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru WWCDG 2020-2025 Mae Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru (WWCDG) yn gyfrifol am sicrhau bod cynllun gweithredu blynyddol ar waith i ymateb i'r meysydd blaenoriaeth allweddol.

Bylchau a meysydd i'w gwella

Mae'r hyn a amlygwyd yn ystod y sesiwn ymgysylltu yn cynnwys:

  • Gwelliannau parhaus yng nghysondeb y dull gweithredu, y wybodaeth, y cyngor a'r cymorth a ddarperir ar draws y rhanbarth, o fewn system fwy integredig
  • Adolygu gwybodaeth a ddarperir i ofalwyr i sicrhau ei bod yn gyfredol, yn berthnasol, yn fwy hygyrch ac yn haws dod o hyd iddi
  • Ymestyn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg i nodi a darparu gwybodaeth i ofalwyr a chynnal cyswllt rheolaidd, yn enwedig i ofalwyr ifanc
  • Datblygu un pwynt cyswllt i helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd drwy'r system
  • Sicrhau bod gofal seibiant yn gweddu i anghenion y gofalwr a'r sawl sy'n derbyn gofal
  • Mynd i'r afael â'r heriau o gael gafael ar gymorth mewn ardaloedd gwledig
  • Mae gwella'r broses statudol o asesu gofalwyr, a all fod yn heriol, yn aml yn cymryd gormod o amser ac efallai na fydd bob amser yn ystyried anghenion gofalwyr yn briodol
  • Gwella'r modd y cyflwynir y "cynnig rhagweithiol" drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gofalwyr eisiau teimlo'n gyfforddus yn defnyddio eu dewis iaith, gan gynnwys ieithoedd ar wahân i'r Gymraeg a'r Saesneg.

Adroddiad gofalwyr ifanc:

  • Maent yn ei chael hi'n anodd cael seibiant, nid ydynt yn gweld eu ffrindiau ac nid oes ganddynt eu lle eu hunain.
  • Maent yn ei chael yn anodd cydbwyso gwaith ysgol, gwaith cartref a'u rôl o ofalu a gallant deimlo dan straen, yn ofidus ac yn bryderus yn yr ysgol, gan eu bod i ffwrdd o'r person sy'n dibynnu arnynt am ofal
  • Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt ar gyfer eu hiechyd meddwl a'u llesiant.

Effaith COVID-19:

Mae gofalu yn rhan mor bwysig o fywyd ac mae rôl gofalwyr di-dâl wedi dod yn gynyddol amlwg. Mae nifer sylweddol o ofalwyr di-dâl wedi ceisio cymorth gyda'u rôl o ofalu ac mewn arolwg ar-lein a ddosbarthwyd fel rhan o'r broses o ddatblygu'r Asesiad Poblogaeth, dywedodd llawer o ofalwyr:

  • Eu bod yn teimlo'n ynysig yn ystod y pandemig
  • Eu bod yn ochelgar o bobl yn dod i mewn i'w cartrefi oherwydd y risg o drosglwyddo'r feirws, gyda llawer yn dewis atal gofal cartref, gan roi mwy o straen ar eu llesiant a'u hiechyd meddwl
  • Eu bod yn profi pwysau ariannol, gan eu bod wedi gorfod cymryd mwy o amser i ffwrdd o'r gwaith i gefnogi'r person y maent yn gofalu amdano
  • Pryder am effaith andwyol cyswllt cymdeithasol cyfyngedig ar lesiant anwyliaid mewn ysbytai a chartrefi gofal, oherwydd cyfyngiadau llym ar ymweld
  • Collodd gofalwyr ifanc yr egwyl o ofalu a'r rhyngweithio cymdeithasol â chyfoedion yr oedd bod yn yr ysgol (a ataliwyd yn ystod y cyfyngiadau symud) fel arfer yn eu darparu
  • Gwell mynediad at gymorth oherwydd bod mwy o wasanaethau ar-lein ar gael mewn ymateb i'r pandemig.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Rhagwelir y bydd y boblogaeth o Bobl ag Anabledd Dysgu yng Ngorllewin Cymru yn aros yn gymharol sefydlog. Fodd bynnag, mae'r amcanestyniadau'n awgrymu y disgwylir i nifer y bobl sy'n cael diagnosis o anableddau dysgu difrifol neu ddwys a lluosog gynyddu 1.8% bob blwyddyn. Disgwylir i nifer y bobl hŷn ag anabledd dysgu gynyddu.

Yn aml, mae gan Bobl ag Anabledd Dysgu ddiagnosis ychwanegol a/neu gyflyrau sy'n cyd-fynd â'i gilydd megis: awtistiaeth; anableddau corfforol; nam ar y synhwyrau a chyfathrebu. Maent yn fwy tebygol o brofi iechyd corfforol a meddyliol gwaeth ac aml-forbidrwydd, sy'n aml yn gysylltiedig â deiet gwael, lefelau isel o weithgarwch corfforol, ysmygu, defnyddio alcohol ac anawsterau o ran cael gafael ar wasanaethau iechyd ataliol.

Drwy'r Bartneriaeth Gwella Bywydau Ranbarthol, mae Pobl ag Anabledd Dysgu wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu Siarter Gorllewin Cymru – rhestr syml o'r pethau y maent yn eu disgwyl, ac sydd eu hangen arnynt, i fyw bywydau boddhaus, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru; Cynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac amrywiaeth o sefydliadau cymunedol a'r trydydd sector.

Bylchau a meysydd i'w gwella

Dylid cynnwys y canlynol:

  • Gwella ymwybyddiaeth o anghenion Pobl ag Anabledd Dysgu a thrwy hyfforddi ac addysgu darparwyr gwasanaethau, gweithwyr gofal iechyd, teuluoedd a gofalwyr
  • Gwella ansawdd cyfathrebu a gwybodaeth ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu (hawdd ei ddarllen)
  • Ehangu mynediad i lety â chymorth mewn lleoliad o ddewis
  • Cryfhau mynediad at addysg, gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith cyflogedig mewn cymunedau lleol
  • Gwella prosesau ar gyfer rheoli pontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion a gwasanaethau iechyd arbenigol
  • Cefnogi hunan-eiriolaeth ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu
  • Cynyddu cynllunio ac adnoddau ar gyfer pobl ag Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog a'u gofalwyr.

Effaith COVID-19:

Mae COVID-19 wedi cael effaith benodol ar iechyd meddwl, llesiant, iechyd a theimlad o unigrwydd ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu a'u rhwydwaith gofal a chymorth. Bu effaith sylweddol ar y gwasanaethau a'r gofal sydd ar gael, megis cyfleoedd dydd a seibiannau byr sydd wedi effeithio'n sylweddol ar eu hiechyd a'u llesiant.

Bu'n ofynnol i lawer o Bobl ag Anabledd Dysgu warchod yn ystod y pandemig, gan gyfyngu ar eu cyfleoedd i gyfrannu at lawer o'r ymgynghoriadau a'r digwyddiadau cynllunio a oedd yn ymwneud â gwasanaethau Anableddau Dysgu, gan gynnwys datblygu'r Asesiad Poblogaeth.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Mae awtistiaeth yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio pobl â grŵp o symptomau niwro-ddatblygiadol cymhleth, o ddifrifoldeb amrywiol sy'n effeithio ar y modd y mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'r byd. Disgrifir awtistiaeth yn gyffredinol fel sbectrwm a gall gwmpasu ystod eang o ymddygiadau ac anghenion. Ymdriniwyd ag awtistiaeth o dan y bennod Anabledd Dysgu yn Asesiad Poblogaeth 2017; fodd bynnag, mewn ymateb i gyflwyno'r Côd Ymarfer Awtistiaeth yn 2021, mae pennod ar wahân ar Awtistiaeth yn cael ei datblygu.

Mae'r term 'pobl awtistig' yn hytrach na 'phobl ag awtistiaeth' yn adlewyrchu'r dewisiadau iaith a fynegwyd gan bobl awtistig. Mae'r term 'pobl' yn cyfeirio at blant, pobl ifanc ac oedolion.

Mae amcangyfrifon o nifer yr achosion o anhwylderau'r sbectrwm awtistiaeth yn awgrymu cyfraddau o tua 1% yn y boblogaeth gyffredinol. Byddai hyn yn awgrymu bod tua 4,000 o bobl awtistig yn byw yng Ngorllewin Cymru. Fodd bynnag, mae llawer o ddadlau a'r awgrym yw nad yw pob unigolyn yn cael ei adnabod (Brugha et al., 2011, 2016; Chiarotti & Venerosi, 2020; Fombonne et al., 2021; Lyall et al., 2017 - (Saesneg yn unig)).

Mae gwasanaethau newydd ar gyfer diagnosis oedolion wedi'u sefydlu ledled Cymru ar adeg o ymwybyddiaeth gynyddol o'r sbectrwm o brofiadau awtistiaeth; fodd bynnag, tan yn ddiweddar nid oes unrhyw astudiaethau wedi archwilio nifer yr achosion o awtistiaeth ymhlith oedolion yng Nghymru.

Bydd cyfraddau diagnosis uwch a mwy o achosion o awtistiaeth yn golygu bod angen cymorth mwy arbenigol yn y gymuned.

Nododd adborth o gyfarfodydd ymgysylltu ar draws y rhanbarth y canlynol:

Bylchau a meysydd i'w gwella:

  • Gwella amseroedd aros ar gyfer diagnosis a chyfraddau diagnosis ar gyfer plant ac oedolion
  • Gwella mynediad at wybodaeth a chyngor i bobl awtistig a'u teuluoedd, gan gynnwys y strategaeth awtistiaeth a'r gwasanaethau cymorth cysylltiedig sydd ar gael yng Ngorllewin Cymru
  • Gwella ymwybyddiaeth o Awtistiaeth a Chyflyrau'r Sbectrwm Awtistig ar draws iechyd, gwasanaethau gofal cymdeithasol, addysg a'r holl wasanaethau cyhoeddus
  • Mwy o bwyslais ar ymgysylltu â defnyddwyr a chyd-gynhyrchu wrth ddatblygu gwasanaethau
  • Gwella'r broses bontio ar gyfer Pobl Ifanc Awtistig pan fyddant yn gadael yr ysgol
  • Cynyddu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, profiad gwaith, cyfleoedd cyflogaeth a rhwydweithio i bobl awtistig.

Effaith COVID-19:

Mae'r pandemig wedi effeithio ar y gofal a'r cymorth sydd ar gael i bobl awtistig oherwydd i lawer o wasanaethau cymorth gael eu gohirio. Yn ogystal, bydd yr ansicrwydd a'r newidiadau mynych i'r drefn a'r rheolau, mewn rhai achosion, wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a llesiant pobl. Mae hyn wedi rhoi mwy o bwysau ar aelodau o'r teulu a gofalwyr.

I Bobl Awtistig, mae ailddechrau ac ailintegreiddio i weithgareddau megis addysg yn dilyn cyfnodau hir o gyfyngiadau symud hefyd wedi cyflwyno heriau sylweddol.


A special needs carer with a child.


Trosolwg a negeseuon allweddol

Mae dros 82,000 o blant a phobl ifanc yn y rhanbarth, tua 22% o'r boblogaeth gyfan. Er y bydd y boblogaeth plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yn parhau'n gymharol sefydlog, disgwylir i nifer y plant 10-15 oed yn y rhanbarth ostwng 8% erbyn 2031. Amcangyfrifir bod 6,105 o blant a phobl ifanc yn byw gyda chyflwr neu anabledd hirdymor.

Caiff plant a phobl ifanc eu hystyried o dan y tri grŵp canlynol:

  • Hyd at 18 oed
  • Hyd at 21 oed os ydynt wedi bod mewn gofal
  • Hyd at 25 oed os ydynt wedi bod mewn gofal ac yn dal i fod mewn addysg

Mae gan y rhanbarth nifer is o Blant sy'n Derbyn Gofal na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'r sgôr 9 pwynt wedi'i chapio (9 canlyniad gorau disgyblion Blwyddyn 11 o gymwysterau sydd ar gael yng Nghymru) yn 361.7, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru, sef 353.8.

Ar 14%, mae nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin Cymru ychydig yn is na chyfartaledd Cymru.

Bylchau a meysydd i'w gwella:

Dylid cynnwys y canlynol:

  • Integreiddio pellach â gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar
  • Cynnwys plant a phobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal a'r rheiny ag anghenion cymhleth megis anabledd, wrth gynllunio gwasanaethau.
  • Datblygu gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar ymhellach, gan adeiladu ar raglenni sefydledig megis Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, Teuluoedd yn Gyntaf a Thîm o Amgylch y Teulu a modelau cymorth sy'n ymwybodol o drawma
  • Ystyried pwysigrwydd llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol plant a rôl allweddol gwasanaethau cymunedol wrth gyflawni hyn
  • Gwella'r gwaith a wneir mewn partneriaeth i ddarparu dull 'Dim Drws Anghywir' o ymdrin â gwasanaethau fel bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt waeth ble maent yn dod i mewn i'r system.
  • Datblygu gwytnwch a llesiant mewn teuluoedd i alluogi plant a phobl ifanc i aros o fewn eu teuluoedd a/neu eu cymunedau cyhyd â'i bod yn ddiogel iddynt wneud hynny
  • Parhau i ddatblygu dull aml-asiantaeth ac unigol o gefnogi plant ag anghenion cymhleth
  • Datblygu proses ranbarthol o bontio plant a phobl ifanc i'r gwasanaethau oedolion lle bo hynny'n briodol.

Effaith COVID-19:

Effeithiwyd yn sylweddol ar Iechyd Meddwl a Llesiant Plant a Phobl Ifanc yn ystod y pandemig. Mae cau ysgolion, cyfnodau cwarantin, ofn mynd yn sâl a'r effaith ar berthnasau hŷn yn ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddirywiad yn eu hiechyd meddwl a'u llesiant.

Yn ogystal, roedd plant a phobl ifanc o ardaloedd o dlodi yn wynebu mwy o risg o Iechyd Meddwl a Llesiant gwael. Roedd y ffactorau oedd yn cyfrannu at hyn yn cynnwys pryder cynyddol am ansicrwydd ariannol rhieni, diffyg cymorth cymdeithasol, ansawdd tai a maeth gwael.

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant wedi cynnal cyswllt wyneb yn wyneb ar gyfer plant y nodwyd eu bod mewn perygl drwy gydol y pandemig. Fodd bynnag, mae absenoldebau gorfodol o'r ysgol ac amser gartref wedi peri heriau sylweddol o ran nodi ac ymateb i risg.

Mae'r rhanbarth wedi gweld cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n ceisio cymorth gydag anawsterau emosiynol ac iechyd meddwl cymhleth, gan gynnwys ymddygiadau sy'n herio.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Mae ein hiechyd meddwl yn effeithio ar y ffordd yr ydym ni'n meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu. Gall agwedd iach leihau dwyster a hyd afiechydon, tra gall iechyd meddwl gwael gael yr effaith i'r gwrthwyneb. Dangoswyd bod iselder a'i symptomau yn ffactorau risg mawr yn natblygiad clefyd coronaidd y galon a marwolaeth ar ôl cnawdnychiad myocardiaidd. Mae stigma ynghylch salwch meddwl yn gyffredin a gall gyfrannu at fod pobl o bosibl yn cuddio materion sy'n ymwneud â'u hiechyd meddwl yn hytrach na cheisio cymorth. Gellir lliniaru hyn drwy gynyddu gwybodaeth, addysg ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Yn ôl Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru:

  • Mae 1 o bob 4 oedolyn yn cael problemau neu salwch iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau.
  • Mae 1 o bob 6 oedolyn yn profi symptomau ar unrhyw un adeg.
  • Mae gan 1 o bob 10 plentyn rhwng 5 ac 16 oed broblem iechyd meddwl, ac mae gan lawer mwy broblemau ymddygiad.
  • Bydd tua 50% o'r bobl sy'n mynd ymlaen i gael problemau iechyd meddwl difrifol yn cael symptomau erbyn eu bod yn 14 oed, ac yn iau o lawer yn achos llawer ohonynt.

Mae cofrestr Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau Iechyd Meddwl Hywel Dda yn cofnodi tua 4,100 o gleifion yn 2019.

Drwy gynnal ystod o sesiynau ymgysylltu wedi'u hwyluso, roeddem yn gallu nodi:

Bylchau a meysydd i'w gwella

  • Gwella'r integreiddio a'r cyfathrebu rhwng gwasanaethau, fel bod cleifion sydd â phroblemau lluosog yn gallu cael mynediad at yr ystod o gymorth a gofal sydd eu hangen
  • Gwella prosesau ar gyfer y rheiny sy'n mynd trwy argyfwng, er mwyn lleihau achosion lle mae cleifion mewn argyfwng yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at wasanaethau
  • Hyrwyddo a chefnogi hunanreoli trwy addysgu pobl ar sut i reoli eu cyflyrau, byw'n fwy annibynnol a gwneud eu dewisiadau eu hunain.
  • Symud y pwyslais tuag at wasanaethau yn y gymuned
  • Cydnabod effaith COVID-19 a'r galw cynyddol o ganlyniad am wasanaethau iechyd meddwl.

Effaith COVID-19:

Mae COVID-19 wedi arwain at fwy o arwahanrwydd ac amharu ar fywyd arferol, a allai gael effeithiau byrdymor ar iechyd meddwl. Nid yw'n glir beth fyddai effeithiau hirdymor COVID ar iechyd meddwl a llesiant; fodd bynnag, yn y cyfnod yn union cyn y pandemig, adroddwyd bod 11.7% o bobl Cymru yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol, a oedd yn ôl y sôn wedi dringo i 28.1% ym mis Ebrill 2020.

Mae COVID-19 hefyd wedi cael effaith waeth ar y grwpiau hynny sydd eisoes yn profi canlyniadau iechyd meddwl gwael, gan gynnwys y rheiny o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, y rheiny ag anableddau corfforol neu ddysgu presennol a'r rheiny mewn ardaloedd o dlodi uchel.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn rhanbarth Gorllewin Cymru rhwng 18 a 64 oed yn cael gofal a chymorth ar gyfer angen penodol neu nodwedd warchodedig. Yn hytrach, cânt eu gwasanaethu gan wybodaeth iechyd y cyhoedd a rhaglenni cenedlaethol a lleol sydd wedi'u cynllunio i annog ffyrdd o fyw ac arferion iach. Nod y rhaglenni hyn yw lleihau ffactorau risg penodol i iechyd megis clefyd cardiofasgwlaidd, a gyflawnir yn aml gan strategaethau i leihau gordewdra ac ysmygu a gwella deiet.

Mae yna gyfran o bobl sydd ag amrywiaeth o anghenion penodol oherwydd anabledd corfforol neu gyflyrau iechyd cronig y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt i'w galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl.

Bylchau a meysydd i'w gwella

Nodwyd y canlynol trwy ymgysylltu:

  • Cynnwys pobl ag amrywiaeth o anableddau yn y cam o gynllunio a dylunio datblygiadau a llety newydd, er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd eu defnyddio ac yn hygyrch
  • Gwella'r broses o nodi, trin a rheoli cyflyrau y gellir eu hatal a chyflyrau cronig yn gynnar, gan gynnwys diabetes, clefyd y galon a salwch anadlol, er mwyn gwella llesiant hirdymor a lleihau cymhlethdodau
  • Gwella mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth
  • Cynyddu'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol, megis teleofal i drawsnewid gofal cartref a gwasanaethau byw â chymorth
  • Gwella mynediad at gyfleoedd byw â chymorth. Mae llawer o'r rheolau a'r rheoliadau presennol ynghylch cefnogi a helpu pobl ag anableddau yn rhy anhyblyg
  • Gwella mynediad at gymorth ariannol megis taliadau annibyniaeth personol, grant cyfleusterau i'r anabl, taliadau uniongyrchol, a'r dull o gyfathrebu hyn
  • Gwella'r broses o wella ac addasu cartrefi
  • Cynyddu hyblygrwydd darpariaeth camu i fyny a chamu i lawr i ymateb i anghenion sy'n newid
  • Gwella mynediad at drafnidiaeth.

Effaith COVID-19:

Mae COVID-19 wedi arwain at ynysu cymdeithasol eang, gydag effaith barhaol ar iechyd corfforol a meddyliol i'r bobl hynny a oedd yn gorfod gwarchod yn ystod y pandemig.

Cafodd pobl anhawster i gael gafael ar gymorth neu gwnaethant oedi cyn gofyn amdano yn ystod y cyfnod ac yn awr maent yn cyflwyno'n ddiweddarach, gyda materion iechyd llawer mwy cymhleth yn aml yn arwain at broblemau iechyd sy'n gwaethygu a salwch estynedig.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Mae nam ar y synhwyrau yn anochel wrth heneiddio. Gall nam ar y synhwyrau fod yn gyflwr sylweddol sy'n cyfyngu ar fywyd, ac mae'r heriau sy'n gysylltiedig â'r cyflwr yn debygol o dyfu dros y degawdau nesaf.

Mae pobl â nam ar y synhwyrau yn fwy tebygol o deimlo'n unig ac wedi'u hynysu. Canfu ymchwil gan yr RNID yn 2000 fod 66% o bobl fyddar a thrwm eu clyw yn teimlo'n ynysig oherwydd bod eu cyflwr yn eu heithrio o weithgareddau bob dydd.

Mae nam ar y synhwyrau yn rhywbeth sy'n torri ar draws gwasanaethau ledled y system gyfan; mae'n bwysig bod ymwybyddiaeth a gwasanaethau nam ar y synhwyrau yn rhan annatod o'r system ddarpariaeth gyfan.

Gall y cyfuniad o ddau nam ar y synhwyrau olygu y bydd person byddar yn cael anhawster, neu'n ei chael yn amhosibl, i ddefnyddio ac elwa'n llawn ar wasanaethau i bobl fyddar neu wasanaethau i bobl ddall. Felly, mae angen dull gweithredu gwahanol i ddiwallu anghenion pobl fyddar-ddall.

Ar wahân i'r anawsterau o ddydd i ddydd, mae gan bobl â nam ar y synhwyrau hefyd ganlyniadau iechyd gwaeth, cyfraddau tlodi uwch a chyflawniadau addysgol is na phobl sy'n rhydd o anabledd.

  • Rhagwelir y bydd nam ar y golwg a nam ar y clyw yn cynyddu yng Ngorllewin Cymru dros y blynyddoedd nesaf
  • Mae'r ffactorau sy'n cyflymu colli golwg yn cynnwys diabetes a gordewdra
  • Mae nam ar y synhwyrau yn gysylltiedig â risg uwch o gael codymau ac mae ofn cael codwm yn cael effaith fawr ar allu pobl i aros yn annibynnol.

Bylchau a meysydd i'w gwella

  • Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o nam ar y synhwyrau
  • Gwella'r safon weithredu hygyrch a datblygu proses i archwilio ei gweithrediad
  • Gwella'r ddarpariaeth o wybodaeth hygyrch e.e. llythrennau braille
  • Ymestyn darpariaeth y gwasanaeth dehongli y tu allan i 9-5 a chynyddu argaeledd dehonglwyr
  • Gwella systemau cofnodi megis System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) er mwyn gallu cofnodi mwy nag un nam

Effaith COVID-19:

Mae'r pandemig COVID wedi cyfrannu at anawsterau cyfathrebu i bobl â nam ar eu clyw a phobl â nam ar eu golwg. Mae mynediad at wybodaeth wedi bod yn anoddach ar gyfer pobl â nam ar eu golwg e.e. llai o fynediad at braille mewn meddygfeydd. Lle mae gwasanaethau wedi symud o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb i fideo, nid ydynt yn gweithio i bobl â nam ar eu golwg, sy'n ffafrio sgyrsiau ffôn.

Mae'r pandemig hefyd wedi arwain at heriau cyfathrebu i bobl â nam ar eu clyw e.e. gorchuddion wyneb yn gwneud darllen gwefusau yn amhosibl. Mae pobl sydd â nam ar y synhwyrau yn fwy tebygol o ddioddef o arwahanrwydd ac unigrwydd, sydd wedi'i waethygu gan y pandemig COVID.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi lansio eu cynllun newydd sef Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (cyffuriau ac alcohol) 2019 - 2022. Mae'r cynllun newydd yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod oes strategaeth 2008-2018 ac mae'n gyfeiriad allweddol ar gyfer yr Asesiad Poblogaeth.

Bylchau a meysydd i'w gwella

  • Gwella'r gwaith o atal a lleihau niwed
  • Sicrhau bod ysmygu'n llai cyffredin
  • Cynorthwyo unigolion i wella eu hiechyd a'u helpu i gynnal eu hadferiad
  • Cefnogi ac amddiffyn teuluoedd
  • Mynd i'r afael ag argaeledd sylweddau a diogelu unigolion a chymunedau
  • Datblygu partneriaethau cryfach, datblygu'r gweithlu a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau.
  • Datblygu darpariaeth llety mewn ymateb i anghenion gofal a chymorth

Effaith COVID-19:

Gallai'r pandemig COVID-19 fod wedi cael effaith sylweddol ar gamddefnyddio sylweddau; fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes data ar gael.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn broblem iechyd cyhoeddus fawr, yn fater cyfiawnder troseddol, ac yn torri hawliau dynol. Mae'n achosi niwed i unigolion a theuluoedd, ac mae ei effaith i'w theimlo ar draws cymunedau, cymdeithasau ac economïau cyfan a gall effeithio ar ddioddefwyr mewn sawl ffordd. Er enghraifft, gall trais rhywiol arwain at lu o ganlyniadau iechyd gan gynnwys niwed corfforol, atgenhedlol a seicolegol.

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ynghyd â'r canllawiau statudol ar gomisiynu, yn pennu'r amodau a'r disgwyliadau ar gyfer datblygiadau gwasanaeth yng Nghymru, gyda chynnydd yn cael ei adrodd yn flynyddol.

Bylchau a meysydd i'w gwella

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • Gwella addysg am berthnasoedd iach a chydraddoldeb rhywiol
  • Sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu hyfforddi i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr
  • Darparu mynediad cyfartal i wasanaethau o ansawdd uchel sydd ag adnoddau priodol, sydd wedi eu harwain gan anghenion, sydd wedi eu seilio ar gryfderau ac sy’n ymatebol i rywedd
  • Gwella mentrau sy'n canolbwyntio ar atal e.e. IRIS/Ask Me.

Effaith COVID-19:

Mae llenyddiaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu bod y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus yn sgil COVID-19 wedi effeithio ar lefelau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, gan gynnwys y cyfyngiadau symud, trefniadau gwarchod a rheoliadau pellter cymdeithasol (Snowdon et al., 2020). Er bod y darlun llawn o'r modd y mae'r pandemig wedi effeithio ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn dal i ddod i'r amlwg, mae'n ymddangos yn debygol y gallai graddfa a natur Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol fod wedi gwaethygu, gyda chynnydd mewn cysylltiadau llinell gymorth ar gyfer pob math o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a mwy o adroddiadau i'r gwasanaethau brys o gam-drin domestig mewn rhai ardaloedd (Hohl a Johnson, 2020). Mae llawer o strategaethau a rhaglenni atal wedi'u gohirio neu wedi cael eu gorfodi i addasu yn ystod y pandemig oherwydd y cyfyngiadau ar symud, ar ryngweithio wyneb yn wyneb ac ar ddigwyddiadau cyhoeddus. O ystyried y nifer cynyddol o adroddiadau am Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn ystod y pandemig, mae'n bwysicach nag erioed hyrwyddo'r gwaith o atal hyn trwy drawsnewid normau, agweddau a stereoteipiau sy'n derbyn ac yn normaleiddio trais.