Mae'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol yn dwyn ynghyd bartneriaid o lywodraeth leol, y GIG, y trydydd sector a'r sector annibynnol gyda defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Ein nod yw trawsnewid gwasanaethau gofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru. Mae ein rhanbarth yn cwmpasu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae'n ofynnol i ni lunio Asesiad o Anghenion y Boblogaeth o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac, yn 2017, cyhoeddwyd ein hasesiad cyntaf. Roedd hon yn ddogfen bwysig, gan mai dyma'r tro cyntaf i ni lunio asesiad o anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth fel hyn.

Ers hynny, mae canfyddiadau'r asesiad hwn wedi llywio ein gwaith cynllunio, buddsoddi a darparu gwasanaethau yng ngorllewin Cymru. Mae'n ofynnol yn awr i ni gyhoeddi ein hail asesiad. Dyma gyfle i ddiweddaru ac adnewyddu canfyddiadau ein hasesiad cyntaf ac i ystyried y cynnydd rydym wedi'i wneud.

Yn ganolog i'n dull gweithredu mae ymgysylltu a chydweithio â'r bobl sy'n byw yng Ngorllewin Cymru. Rydym wedi cydweithio'n agos â'n rhanddeiliaid, gan gynnwys ein Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, ein gweithgorau proffesiynol a rhanddeiliaid ac, yn bwysicaf oll, lle bynnag y gallwn, ein dinasyddion.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau manwl ar gyfer asesiadau poblogaeth ac mae ychydig o newidiadau pwysig ar gyfer y fersiwn hwn. Yn gyntaf, rhaid i ni roi sylw penodol i anghenion pobl awtistig a'r rheiny sy'n byw gyda Dementia.

Yn ail, rhaid i ni ystyried effaith COVID-19. Gwyddom fod hyn wedi effeithio ar bawb yn ein cymuned, ond yn enwedig y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni lunio Adroddiad ynghylch Sefydlogrwydd y Farchnad eleni. Mae hwn yn adroddiad ar wahân a fydd yn ystyried a oes gennym ddigon o wasanaethau yn y sector gofal ac i ba raddau y gallant ateb y galw yn y dyfodol.

Er bod yr asesiadau hyn yn ddarnau pwysig o waith, yn bwysicach mae ein gweithredoedd a fydd yn eu dilyn. Caiff y rhain eu datblygu a'u cynnwys yng Nghynllun Ardal Gorllewin Cymru y byddwn yn ei lunio erbyn mis Ebrill 2023, gan nodi ein huchelgeisiau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Rydym am i'n hasesiadau fod yn hygyrch i bobl yng Ngorllewin Cymru ac, ochr yn ochr â'n hadroddiadau manwl, byddwn yn eu cyhoeddi ar ein porth data ar-lein. Bydd hyn yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei hadnewyddu a'i diweddaru'n barhaus. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau nad yw ymgysylltu yn weithgaredd unwaith yn unig; yn hytrach, mae'n sgwrs barhaus a chydweithredol gyda'n dinasyddion.

Rydym mewn cyfnod digynsail a bydd effaith pandemig COVID-19 a digwyddiadau byd-eang eraill yn parhau i gyflwyno heriau sylweddol i ni yng Ngorllewin Cymru. Fodd bynnag, credwn y bydd ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth, a'r dull a ddefnyddiwyd gennym i’w gwblhau, yn ein galluogi i oresgyn yr heriau hyn gyda'n gilydd, i esblygu a pharhau i sicrhau canlyniadau rhagorol i bobl Gorllewin Cymru.

Judith Hardisty

 

 

Judith Hardisty

Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru

Fersiwn PDF