Mae dementia ym mhobl ieuangach na 65 yn cael ei ddisgrifio fel dementia dechrau cynnar, neu ddementia oed gweithio. Mae wedi ei amcangyfrif bod 1 ym mhob 1,000 person yng Nghymru gyda dementia dechrau cynnar. Mae’r ffigwr hwn fymryn yn uwch yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ac yn uwch eto yng Ngheredigion.
Gall symptomau dementia fod yn debyg beth bynnag fo oedran unigolyn, ond yn aml mae gan bobl iau anghenion gwahanol, ac felly mae angen cymorth gwahanol arnynt yn aml. Mae ystod eang o glefydau sy’n achosi dementia dechrau cynnar ac mae person iau’n llawer iawn mwy tebygol o fod â math prinnach o ddementia na pherson hŷn. Fodd bynnag, nid yw pobl iau na 65 oed fel arfer â’r un cyflyrau meddygol hirdymor sy’n cyd-fodoli ag a geir ymysg pobl hŷn. Er enghraifft, clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed. Fel arfer mae pobl iau yn fwy ffit yn gorfforol ac mae’n bosibl mai dementia yw’r unig gyflwr difrifol maent yn byw ag ef (Cymdeithas Clefyd Alzheimer, 2015). Mae’r siart ganlynol yn dangos niferoedd y bobl sydd â dementia dechrau cynnar yn Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Chymru.
Mae gan oedolion hŷn yn rhanbarth Gorllewin Cymru anghenion mwyfwy cymhleth. Yn ôl yr amcangyfrif mae 6,884 o bobl dros 65 oed â dementia yng Ngorllewin Cymru, 1,322 yng Ngheredigion, 2,358 yn Sir Benfro, a 3,204 yn Sir Gâr. Dengys amcanestyniadau y bydd 10,897 o bobl dros 65 oed â dementia yng Ngorllewin Cymru erbyn 2035, 1,993 yng Ngheredigion, 3,831 yn Sir Benfro, a 5,073 yn Sir Gâr.
Mae tystiolaeth ti awgrymu bod tua 7% o achosion dementia yng Nghymru yn ddementia dechrau cynnar, sy’n cael ei ategu gan amcangyfrifon eraill o 5%-9% o ddiagnoses dementia dechrau cynnar yn y DU.