Rhagair

Ar ran Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru, mae’n bleser gennyf gyflwyno ein Cynllun Ardal cyntaf. Ynddo, rydym yn nodi sut y byddwn yn gweithio fel partneriaeth dros y pum mlynedd nesaf i barhau i drawsnewid ac integreiddio gofal a chymorth yn ein rhanbarth, a mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn ein Hasesiad Poblogaeth yn ddiweddar.

Rydym wedi llunio’r Cynllun yn fwriadol o amgylch egwyddorion atal ac un ‘llwybr gofal a chymorth’. Y nod yw helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol yn eu cymunedau ac, os oes angen gofal mwy ffurfiol arnynt, sicrhau bod asiantaethau’n gweithio gyda’i gilydd i helpu’r rhai sy’n gallu i ddychwelyd i’w cartref gyda chymorth priodol cyn gynted â phosibl. I’r bobl y mae angen gofal tymor hwy arnynt, eto, ein ffocws fydd eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial a byw bywydau cyflawn. Dyma’r amcanion a’r gwerthoedd sy’n sail i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Mae’r Cynllun yn nodi amcanion strategol clir y bydd y bwrdd yn dal partneriaid yn atebol amdanynt. Mae cynlluniau gweithredu manylach un ai wedi’u sefydlu neu’n cael eu datblygu i sicrhau bod camau ymarferol yn cael eu cymryd i gyflawni’r newid sy’n ofynnol ar lawr gwlad. Rydym wedi darparu dolenni at y rhain lle bynnag y mae hynny’n bosibl.

Mae cyflawni’r trawsnewid hwn o bwys i bawb ohonom. Un egwyddor sylfaenol i’r bartneriaeth yw bod y rhai y mae angen gofal a chymorth arnynt, a’u gofalwyr – yn ogystal â chymunedau ehangach – yn cael llais gwirioneddol yn llywio gwasanaethau, ac rydym am sicrhau bod pobl yn cyfrannu o ddifri wrth i’r cynlluniau gweithredu gael eu datblygu a’u rhoi ar waith.

Mae gweithwyr proffesiynol ymroddgar ar draws y sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol yn darparu gofal a chymorth o safon uchel i filoedd o bobl yng Ngorllewin Cymru bob dydd. Mae gwerthfawrogi ein staff presennol a’u helpu i ddatblygu sgiliau newydd, yn ogystal â denu pobl newydd i ymuno â’r sector, yn flaenoriaethau i’r bartneriaeth a byddwn yn gweithio ar lefel ranbarthol ac yn genedlaethol gyda chydweithwyr yn Gofal Cymdeithasol Cymru i gyflawni hyn.

Mae’r dirwedd yr ydym yn gweithredu ynddi yn newid yn barhaus. Bydd angen inni sicrhau bod yr amcanion yn ein Cynllun yn cyd-fynd â’r ymateb disgwyliedig gan Lywodraeth Cymru i’r Adolygiad Seneddol diweddar o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Yn yr un modd, bydd angen i’r Llywodraeth gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth iddo weithredu’i Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol. Rydym felly yn bwriadu adnewyddu’r Cynllun yn rheolaidd. Bydd diweddariadau ar gael yma ar ein Borthol Data sydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth enfawr o wybodaeth am ein poblogaeth a’r gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu ar draws Gorllewin Cymru. Bydd y data hwn yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd i’n helpu i fonitro effaith y Cynllun hwn a sicrhau ein bod yn cael y maen i’r wal.

Sue Darnbrook
Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru