Ymdrin yn ehangach â llesiant

Ymdrin yn ehangach â llesiant

Mae rhai o’r materion a’r sialensiau a nodwyd yn ein Hasesiad Poblogaeth yn golygu bod gofyn gweithredu y tu hwnt i gylch gorchwyl Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol. Ymysg yr enghreifftiau mae datblygu ffyrdd o’i gwneud yn haws i bobl mewn cymunedau gwledig gyrchu at y gofal a’r cymorth sydd ar gael. Yn yr achosion hyn byddwn yn gweithio gyda’r tri Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn y rhanbarth, sy’n gyfrifol am wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd drwy gryfhau’r cydweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus. O dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), mae’n ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gynhyrchu Cynlluniau Llesiant i’w hardaloedd, wedi’u seilio ar Asesiadau Llesiant, a byddwn yn ceisio sicrhau bod materion ehangach o’r fath yn cael sylw wrth i’r Cynlluniau Llesiant gael eu gweithredu.

Yn yr un modd, rydym wedi nodi ble bydd ein Cynllun Ardal yn help i fynd i’r afael â materion sy’n berthnasol i lesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a nodwyd yn ein Hasesiadau Llesiant a byddwn yn gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i alinio gweithgarwch fel y bo’r angen. Ymysg y meysydd lle mae themâu cynlluniau llesiant a’r Cynllun Ardal yn gorgyffwrdd y mae arferion iach, ymyrraeth gynnar, cysylltiadau cryf a phobl a lleoedd llewyrchus (Sir Gaerfyrddin), cydnerthedd y gymuned a chydnerthedd unigolion (Ceredigion); a byw a gweithio, cymunedau dyfeisgar a mynd i’r afael â natur wledig y sir (Sir Benfro).

Darperir cysylltiadau i'r Cynlluniau Lles a ddatblygir gan y tri BGC pan y gyhoeddir y cynlluniau.

Nesaf