Mae awtistiaeth yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio pobl â grŵp o symptomau niwro-ddatblygiadol cymhleth, o ddifrifoldeb amrywiol sy'n effeithio ar y modd y mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'r byd. Disgrifir awtistiaeth yn gyffredinol fel sbectrwm a gall gwmpasu ystod eang o ymddygiadau ac anghenion. Ymdriniwyd ag awtistiaeth o dan y bennod Anabledd Dysgu yn Asesiad Poblogaeth 2017; fodd bynnag, mewn ymateb i gyflwyno'r Côd Ymarfer Awtistiaeth yn 2021, mae pennod ar wahân ar Awtistiaeth yn cael ei datblygu.

Mae'r term 'pobl awtistig' yn hytrach na 'phobl ag awtistiaeth' yn adlewyrchu'r dewisiadau iaith a fynegwyd gan bobl awtistig. Mae'r term 'pobl' yn cyfeirio at blant, pobl ifanc ac oedolion.

Mae amcangyfrifon o nifer yr achosion o anhwylderau'r sbectrwm awtistiaeth yn awgrymu cyfraddau o tua 1% yn y boblogaeth gyffredinol. Byddai hyn yn awgrymu bod tua 4000 o bobl awtistig yn byw yng Ngorllewin Cymru. Fodd bynnag, mae llawer o ddadlau a'r awgrym yw nad yw pob unigolyn yn cael ei adnabod.

Mae gwasanaethau newydd ar gyfer diagnosis oedolion wedi'u sefydlu ledled Cymru ar adeg o ymwybyddiaeth gynyddol o'r sbectrwm o brofiadau awtistiaeth; fodd bynnag, tan yn ddiweddar nid oes unrhyw astudiaethau wedi archwilio nifer yr achosion o awtistiaeth ymhlith oedolion yng Nghymru.

Bydd cyfraddau diagnosis uwch a mwy o achosion o awtistiaeth yn golygu bod angen cymorth mwy arbenigol yn y gymuned.

Mae Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn effeithio ar 1 ym mhob 100 o bobl yn y boblogaeth (Baird et al, 2006). Dengys yr ymchwil fod cyfradd uchel o gydafiachedd rhwng anhwylderau niwro-ddatblygiadol (ND) e.e. Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD)/Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), a hefyd cyflyrau iechyd meddwl eraill. Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn dweud bod dynion dair gwaith yn fwy tebygol na menywod o gael diagnosis o awtistiaeth.

Ers yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth yn 2017, mae anghenion pobl awtistig wedi cael eu cydnabod fel gofyniad ar wahân i Anableddau Dysgu. Mae'r gydnabyddiaeth hon o anghenion pobl awtistig, boed yn blant neu'n oedolion, hefyd yn cael ei hadlewyrchu yng Nghôd Ymarfer Awtistiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r Côd Ymarfer yn nodi'r hyn y gall pobl awtistig, eu rhieni a'u gofalwyr ei ddisgwyl gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu addasu'r ffordd rydym yn trefnu cymdeithas i fod yn fwy ymwybodol o niwroamrywiaeth ac yn fwy derbyngar ohono.

Mae'r Côd Ymarfer yn cydnabod, er bod gan rai pobl awtistig anabledd dysgu neu salwch meddwl fel cyflwr cydafiachedd, na fydd angen cyngor, cymorth na chefnogaeth benodol ar lawer ohonynt, ond ar adegau eraill bydd dal angen iddynt gael y rhain.

Ym mis Mawrth 2016, yn rhan o'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar ei newydd wedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ariannu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) cenedlaethol newydd a gellir cael gwybodaeth yma: https://autismwales.org/cy/gwasanaeth-awtistiaeth-integredig/

Datblygwyd y gwasanaeth ledled Cymru ar ôl ymgynghori â phobl awtistig, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol a oedd wedi tynnu sylw at y diffyg cymorth sydd ar gael i bobl awtistig nad oeddent yn bodloni'r meini prawf ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.

Sefydlwyd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru (WWIAS) yn 2019 ac mae'n wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Gorllewin Cymru.

Mae'n cynnig asesiad diagnostig ar gyfer oedolion nad oes ganddynt broblem iechyd meddwl neu anabledd dysgu sylweddol ac ystod o gymorth i bobl awtistig, eu teuluoedd, gan gynnwys gofalwyr di-dâl a chyngor i weithwyr proffesiynol. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma: https://fis.carmarthenshire.gov.wales/child-disability-autism/autism/?lang=cy

Er mwyn darparu asesiad o'r gwasanaethau presennol i bennu'r bylchau a'r meysydd i'w gwella, ymgysylltwyd â phobl awtistig, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Yng Ngorllewin Cymru, mae grŵp strategol rhanbarthol o'r holl bartneriaid allweddol yn cyfarfod i oruchwylio'r gwaith o weithredu gwasanaethau ar gyfer pobl awtistig, gan gynnwys y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS). Mae'r grŵp strategol hwn yn cael ei gadeirio gan y Pennaeth Gwasanaeth sy'n gyfrifol am Awtistiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ym mhob awdurdod lleol mae 'Arweinydd Awtistiaeth', sef person cyswllt enwebedig sy'n gyfrifol am oruchwylio a chydlynu'r gweithgarwch yn ei ardal. Mae hyn yn cynnwys cydlynu grwpiau llywio a rhanddeiliaid lleol (gyda phobl awtistig a'u teuluoedd) yn ogystal â hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ymhlith staff.

Mae ein gweithgareddau ymgysylltu wedi bod yn gyfyngedig yn ystod pandemig COVID 19. Fodd bynnag, nodir isod yr ymagwedd y cytunwyd arni ar gyfer y dyfodol.

Mae ymgysylltu drwy'r grwpiau strategol wedi ein galluogi i fyfyrio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl awtistig yng Ngorllewin Cymru gan gynnwys yr effaith y cafodd pandemig COVID-19 ar eu llesiant a'u hanghenion gofal a chymorth.

Yn ogystal, cynhaliwyd cyfarfod rhithwir gyda 10 o rieni plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, gan gynnwys awtistiaeth.

Mae'r pandemig wedi effeithio ar y gofal a'r cymorth sydd ar gael i bobl awtistig oherwydd i lawer o wasanaethau cymorth gael eu gohirio. Yn ogystal, bydd yr ansicrwydd a'r newidiadau mynych i'r drefn a'r rheolau, mewn rhai achosion, wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a llesiant pobl. Mae hyn wedi rhoi mwy o bwysau ar aelodau o'r teulu a gofalwyr.

I bobl awtistig, mae ailddechrau ac ailintegreiddio i weithgareddau megis addysg yn dilyn cyfnodau hir o gyfyngiadau symud hefyd wedi cyflwyno heriau sylweddol.

Cyfeiriadau:

  1. [1] Brugha, T. S., McManus, S., Bankart, J., Scott, F., Purdon, S., Smith, J., Bebbington, P., Jenkins, R., & Meltzer, G. C. W. (2011). Epidemiology of autism spectrum disorders in adults in the community in England. Archives of General Psychiatry, 68(5), 459–465. https://doi.org/10.1001/archgenpsychiatry.2011.38
  2. [2] Brugha, T. S., Spiers, N., Bankart, J., Cooper, S. A., McManus, S., Scott, F. J., Smith, J., & Tyrer, F. (2016). Epidemiology of autism in adults across age groups and ability levels. British Journal of Psychiatry, 209(6), 498–503. https://doi. org/10.1192/bjp.bp.115.174649
  3. [3] Chiarotti, F., & Venerosi, A. (2020). Epidemiology of autism spectrum disorders: A review of worldwide prevalence estimates since 2014. Brain Sciences, 10(5), 274. https://doi. org/10.3390/brainsci10050274
  4. [4] Fombonne, E., MacFarlane, H., & Salem, A. C. (2021). Epidemiological surveys of ASD: Advances and remaining challenges. Journal of Autism and Developmental Disorders, 51, 4271–4290. https://doi.org/10.1007/s10803- 021-05005-9
  5. [5] Lyall, K., Croen, L., Daniels, J., Fallin, M. D., Ladd-Acosta, C., Lee, B. K., Park, B. Y., Snyder, N. W., Schendel, D., Volk, H., Windham, G. C., & Newschaffer, C. (2017). The changing epidemiology of autism spectrum disorders. Annual Review of Public Health, 38, 81–102. https:// www.annualreviews.org/doi/abs/10.1146/annurev-publ-health-031816-044318