Trosolwg a Negeseuon Allweddol
Mae cyfran uwch o bobl hŷn yng ngorllewin Cymru na chyfartaledd Cymru gyfan. Rhagwelir y bydd y gyfran uchel hon yn cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod wrth i’r disgwyliad oes cyfartalog yn y rhanbarth ddilyn y duedd genedlaethol ar i fyny (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2011).
Yn ddiau bydd y newid ym mhroffil y boblogaeth yn cael effaith ar iechyd, gan fod pobl hŷn yn fwy tebygol yn ystadegol o fod â chyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar fywyd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2011). Bydd y newidiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir, gan fod y galw am wasanaethau ysbyty a gwasanaethau cymunedol oddi wrth bobl 75 oed a hŷn at ei gilydd fwy na theirgwaith y galw oddi wrth bobl rhwng 30 a 40 (Parliamentary Select Committee on Public Service and Demographic Change, 2013).
Mae nifer o ‘ffactorau cyflymu’ yn ychwanegu at her darparu gwasanaethau effeithiol i bobl hŷn yng ngorllewin Cymru, o ardaloedd bach o amddifadedd sylweddol i ardaloedd mawr gwledig a nifer fawr o bobl hŷn yn ymfudo i rai ardaloedd. (Henry, 2012).
Yn 2013-14 gwariwyd £91 miliwn ar amcangyfrif yng ngorllewin Cymru ar wasanaethau yn benodol i bobl hŷn gan gynnwys Haen 1 – Gwasanaethau Cymunedol, Cyffredinol ac Ataliol, Haen 2 – Ymyrraeth Gynnar ac Ailalluogi a Haen 3 – Gwasanaethau Arbenigol a Hirdymor. Ar draws y Deyrnas Unedig disgwylir i wariant cyhoeddus sy’n gysylltiedig â phobl hŷn godi o 20.1% o’r Cynnyrch Domestig Gros yn 2007-08 i 26.7% yn 2057. (Pwyllgor Cydweithredol Canolbarth a Gorllewin Cymru, 2015).