Y ddarpariaeth gofal a chymorth bresennol
Rhoddodd Llywodraeth Cymru waith ar gontract i Hafan Cymru yn 2015 er mwyn codi ymwybyddiaeth yn holl ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru trwy’r prosiect SPECTRWM. Nod y prosiect hwn yw cynorthwyo plant trwy ddarparu sesiynau pwrpasol iddynt ynghylch perthnasoedd iach. Mae trafodaethau’n parhau ynghylch sut y gellir ehangu ar y contract hwn er mwyn ategu’r cyfarwyddyd ymhellach. Yn ogystal, mae darparwyr cymorth arbenigol pob sir yn darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid.
Caiff ymgyrchoedd cymunedol eu cydgysylltu yn ystod y flwyddyn er mwyn gwella dealltwriaeth y gymuned o gamdriniaeth a’r cymorth sydd ar gael. Mae Cydgysylltwyr Cam-drin Domestig, gwasanaethau arbenigol a phartneriaid hefyd yn manteisio ar gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth mewn lleoliadau cymunedol.
Mae Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol gorfodol wedi’i sefydlu, ac mae modiwlau hyfforddiant yn cael eu datblygu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod staff yn hyfforddi’n briodol ar gyfer y lefel maent yn ymwneud â’r achosion ac yn gallu targedu ymholiadau a gweithredu’n briodol lle gwelir camdriniaeth neu drais. Mae hyfforddiant hefyd wedi cael ei drefnu ar gyfer staff y bwrdd iechyd ym meysydd Cam-drin Domestig, Asesu Risg a’r Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg, a Cham-drin Domestig a’r Person Hŷn. Ceir ymholiadau ynghylch cam-drin domestig fel mater o drefn gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd. Mae staff adrannau damweiniau ac achosion brys yn cwblhau cwestiynau gyda chleifion er mwyn cynorthwyo i benderfynu a yw’r claf yn cael ei gam-drin.