Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn dod â phartneriaid o lywodraeth leol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), y trydydd sector a’r sector annibynnol ynghyd gyda defnyddwyr a gofalwyr, gyda’r nod o drawsnewid y gwasanaethau gofal a chymorth yn y rhanbarth.

Mae rhanbarth Gorllewin Cymru yn cwmpasu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae’n cynnwys ardaloedd cynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Rhanbarth wledig yw gan mwyaf a dyma’r ail mwyaf gwasgaredig ei boblogaeth yng Nghymru. Yn gorchuddio tua chwarter arwynebedd tir Cymru, yn 2016 amcangyfrifwyd bod poblogaeth y rhanbarth yn 384,000.

Caiff gwaith Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ei oruchwylio gan Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol. Mae aelodaeth bresennol y Bwrdd i’w gweld yma.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Bartneriaeth a’r hyn y mae’n ei wneud yma.

 

 

 

Asesiad Poblogaeth

Ym mis Mawrth 2017 cyhoeddasom ein Hasesiad Poblogaeth cyntaf. Cafodd yr asesiad hwn, a oedd yn ofynnol o dan Adran 14 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ei gyflawni ar y cyd gan y tri awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda mewnbwn gan ddefnyddwyr, gofalwyr a chydweithwyr yn y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae’n rhoi dadansoddiad manwl o’r anghenion gofal a chymorth, o anghenion cymorth gofalwyr yn y rhanbarth, o ystod a lefel y gwasanaethau sy’n ofynnol ac mae’n nodi i ba raddau y mae’r anghenion hynny’n cael eu diwallu ar hyn o bryd.

Roedd gofyn inni, ar gais Llywodraeth Cymru, edrych ar anghenion penodol y grwpiau poblogaeth canlynol:

  • Gofalwyr
  • Plant a Phobl Ifanc
  • Pobl ag Anableddau Corfforol
  • Pobl ag Anabledd Dysgu a phobl ag Awtistiaeth
  • Pobl â chyflwr Iechyd Meddwl
  • Pobl hŷn
  • Pobl â nam ar y synhwyrau
  • Pobl sy’n Camddefnyddio Sylweddau
  • Pobl sy’n profi Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Hefyd, ystyriwyd yr anghenion iechyd generig yn y gymuned.

Roedd ein Hasesiad Poblogaeth yn cynnwys sawl argymhelliad trosfwaol o ran sut y dylai gofal a chymorth gael eu darparu yn y dyfodol. Dyma’r argymhellion:

OR1 Dylem barhau i ganolbwyntio ar barchu urddas pobl a’u hamddiffyn rhag esgeulustod a chamdriniaeth
OR2 Dylai gwasanaethau fod ar gael yn Gymraeg i bawb y mae eu hangen arnynt
OR3 Atal – gohirio neu leihau’r angen am ofal a chymorth parhaus – dylai hynny fod yn sail i bopeth a wnawn ac mae angen inni helpu cymunedau i helpu’u hunain
OR4 Rhaid inni gydnabod cyfraniad gofalwyr a darparu cymorth priodol iddynt
OR5 Mae angen ymdrin â’r pontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion yn briodol i wneud yn siŵr fod oedolion ifanc yn dal i gael y cymorth y mae ei angen arnynt i fyw bywydau annibynnol a chyflawn
OR6 Rhaid inni gynnwys defnyddwyr, gofalwyr, darparwyr gwasanaethau a chymunedau ehangach wrth gynllunio a darparu gofal a chymorth
OR7 Dylem fod yn eofn a radical wrth newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu
OR8 Mae angen dull integredig o gomisiynu a chyflenwi gwasanaethau arnom a dylem gronni adnoddau lle mae’n bosibl i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r cyllidebau sydd ar gael, a chydgysylltu gwasanaethau ar y pwynt cyflenwi.

Yn Adran 2 ceir crynodeb o’r materion a nodwyd mewn perthynas â phob un o’r grwpiau poblogaeth, yn cynnwys y bylchau a nodwyd a’r meysydd gwella.

 

Y Cynllun Ardal

Mae’n ofynnol yn ôl Adran 14A o’r Ddeddf inni gynhyrchu Cynllun Ardal yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ymdrin â chanfyddiadau ac argymhellion ein Hasesiad Poblogaeth. Mae angen i’r Cynllun fanylu ar sut y byddwn yn ymdrin ag atal, Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, datblygu dulliau cyflenwi amgen a sut y byddwn yn darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. We have to produce an Area Plan every five years.

Mae Cynllun Ardal Gorllewin Cymru wedi cael ei gynhyrchu ar y cyd gan y tri Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phartneriaid eraill yn y rhanbarth. Bydd y dull cydweithredol hwn yn parhau wrth inni gyflawni ein cyd-amcanion, gan sicrhau ein bod yn gyson lle bo’n bosibl ar draws y rhanbarth ac yn datblygu gofal a chymorth integredig a chynaliadwy i bobl yng Ngorllewin Cymru.

Mae’r Cynllun yn ddogfen bwysig sy’n darparu fframwaith clir i’n partneriaid ar gyfer integreiddio a thrawsnewid gofal a chymorth. Mae’n ddatganiad cyhoeddus o’n bwriadau, y gwahoddir defnyddwyr, gofalwyr a chymunedau’n fwy cyffredinol i’n dal i gyfrif amdanynt. Mae’r Cynllun yn gryno yn fwriadol, fel ei fod yn hygyrch i’r ystod o bobl a sefydliadau sydd â diddordeb yn y ffordd y caiff gofal a chymorth eu darparu yn awr a sut yr ydym am newid hynny yn y dyfodol.

 

Y Cyd-destun Cenedlaethol

 

Er ei fod yn canolbwyntio ar anghenion gofal a chymorth pobl yng Ngorllewin Cymru, dylanwadir ar y Cynllun gan nifer o sbardunau cenedlaethol pwysig, sef:

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n darparu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gofal a chymorth ar sail yr egwyddorion canlynol:

  • Helpu pobl i sicrhau’u llesiant eu hunain
  • Gwneud pobl yn ganolog yn eu gofal a’u cymorth a rhoi llais iddynt o ran y cymorth a gânt
  • Cynnwys pobl wrth ddylunio a chyflenwi gwasanaethau
  • Datblygu gwasanaethau sy’n help i atal, gohirio neu leihau’r angen am ofal a chymorth
  • Hyrwyddo modelau cyflenwi di-elw
  • Asiantaethau’n cydweithio i ddarparu gofal a chymorth ac yn integreiddio gwasanaethau allweddol, yn cynnwys gwasanaethau i bobl hŷn ag anghenion cymhleth, plant ag anghenion cymhleth, pobl ag anabledd dysgu a gofalwyr, yn cynnwys gofalwyr ifanc

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n nodi’r dulliau o weithio ar gyfer cyrff cyhoeddus:

  • Hirdymor – Sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd
  • Atal – Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni’u hanghenion
  • Integreiddio – Ystyried sut gall amcanion llesiant cyrff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar eu hamcanion nhw, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill
  • Cydweithio – Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu'r corff i fodloni ei amcanion llesiant
  • Cynnwys – Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethau.

Mae’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, a gyflwynodd ei adroddiad ym mis Ionawr 2018 ac sy’n galw am un system gofal ddi-dor i Gymru, wedi’i threfnu o gwmpas yr unigolyn a’i deulu ac wedi’i seilio ar y ‘Nod Pedwarplyg’, sef y dylai staff iechyd a gofal, gwirfoddolwyr a dinasyddion gydweithio i gyflawni canlyniadau clir, gwell iechyd a lles, gweithlu sy’n derbyn gofal, a gwell gwerth am arian.

Ffyniant i Bawb, strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, sy’n nodi sut y caiff yr amcanion ar gyfer tymor presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu gwireddu, ac yn nodi sylfeini tymor hwy ar gyfer y dyfodol. Nodir pum maes blaenoriaeth, sy’n cynnwys:

  • Y blynyddoedd cynnar – cydnabod bod profiadau plentyndod yn chwarae rhan fawr yn llywio dyfodol yr unigolyn a’u bod yn dyngedfennol i’w gyfle i fynd ymlaen i fyw bywyd iach, llewyrchus a chyflawn
  • Gofal cymdeithasol – sy’n amlygu mor ganolog yw gofal tosturiol, gydag urddas, er mwyn cynnal cymunedau cryf a helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol ac iach yn hirach, gan bwysleisio pwysigrwydd economaidd y sector gofal
  • Iechyd meddwl – cydnabod y bydd un o bob pedwar person yng Nghymru yn profi salwch meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau ac mor bwysig yw cael y driniaeth iawn yn gynnar, a chodi ymwybyddiaeth er mwyn atal effeithiau niweidiol hirdymor

 

Mae’r strategaeth hefyd yn amlygu’r angen i asiantaethau weithio’n agosach, ar sail ranbarthol gyson, fel bod gwasanaethau’n parhau’n gryf ac yn alluog i ymateb yn y dyfodol.