Mae gan orllewin Cymru gyfran uwch o bobl hŷn na'r cyfartaledd ledled Cymru, gyda mewnfudo yn ffactor mawr sy'n cyflymu twf y boblogaeth hŷn. Mae gan Sir Benfro boblogaeth hŷn na Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, gyda chynnydd rhanbarthol rhagamcanol o 28% yn y rheiny sy'n 85 oed a throsodd erbyn 2030, gydag amrywiadau fel a ganlyn: Sir Gaerfyrddin=25%; Ceredigion=26% a Sir Benfro=33%.

Mae pobl yn byw'n hirach gyda materion cynyddol gymhleth, ac maent am aros yn eu cartrefi eu hunain mor annibynnol â phosibl am gyhyd â phosibl. Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar lesiant corfforol a meddyliol pobl hŷn. Mae hyn o ganlyniad i gyfnodau hir o ynysu cymdeithasol, diffyg mynediad at wasanaethau iechyd a gofal yn ogystal ag effaith uniongyrchol dal COVID-19.

Dylai trefniadau gofal a chymorth gael eu cynllunio gyda phobl hŷn, dylent fod yn hyblyg a dylent gynnwys amrywiaeth o atebion cymunedol, digidol a thechnolegol.

Mae niferoedd cynyddol o bobl hŷn ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r amcangyfrifon poblogaeth presennol am 2021 yn awgrymu bod pobl dros 65 oed sy’n byw yn rhanbarth Gorllewin Cymru yn cyfrif am ryw 24.1% o’r boblogaeth yn Sir Gâr, 26.2% yng Ngheredigion a 26.7% yn Sir Benfro. Disgwylir y bydd canran y boblogaeth sy’n 65 oed a throsodd yn codi i 29.53% yn Sir Gâr, 32.54% yng Ngheredigion a 33.4% yn Sir Benfro, erbyn 2043.

Gyda rhannau mawr o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro’n wledig ac yn arfordirol, mae’r rhanbarth yn denu niferoedd uchel o fewnfudwyr dros 65 oed. Mae bron 22% o boblogaeth Cymru bellach yn bobl o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gyda’r mwyafrif llethol yn ymddeol i fyw yno o Loegr (Bingham, 2014). Yn Sir Benfro y ceir y niferoedd mwyaf, gyda chyfradd mudo o 31%, ac 87% o’r rheiny dros 65 oed. Ceredigion sydd a'r ganran fwyaf o breswylwyr ag ail gartref yn y Deyrnas Unedig gyfan. Er y gellir esbonio hyn yn rhannol gan y boblogaeth fawr o fyfyrwyr, mae data’r cyfrifiad yn dangos bod gan 325 o bobl dros 65 oed yng Ngheredigion ail gyfeiriad y tu allan i’r sir. O’r un pwys, mae data’n dangos bod gan 1,182 o bensiynwyr ail gartrefi yng Ngheredigion: nid yw’r unigolion hyn wedi symud yn barhaol i’r ardal ond maent yn treulio cryn dipyn o’u hamser yno, ac efallai’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y cyfnodau hynny.

Dengys y data diweddaraf fod 7,409 o bobl wedi mudo i Sir Gâr rhwng Mehefin 2018 a Mehefin 2019, y mwyafrif ohonynt yn y grŵp oedran 25-44. Mae 5,318 wedi mudo i Geredigion, gyda’r mwyafrif ohonynt yn y grŵp oedran 16-24. Mudodd 4,779 i Sir Benfro, y mwyafrif ohonynt yn y grŵp oedran 25-44, er bod hyn yn cael ei ddilyn yn agos gan y grŵp oedran 45-64.

Pwysleisiodd adroddiad 2017 fod angen ymagwedd gyfannol at ofal a chymorth, a allai ymateb i lefelau eang ac amrywiol o angen, a chefnogi datblygiad gwytnwch ac annibyniaeth.

Mae'r holl bartneriaid yn y rhanbarth wedi parhau i symud tuag at fodel cyson o ofal ar gyfer pobl hŷn, yn seiliedig ar egwyddorion llesiant ac atal sydd wedi'u crynhoi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac wedi'u llywio'n lleol gan ystod o gynlluniau a strategaethau gan gynnwys cynlluniau Heneiddio'n Dda, Cynllun Tymor Canolig Integredig y Bwrdd Iechyd, "Gweledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Bobl Hŷn 2015-25" Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Datganiad o Fwriad rhanbarthol ar gyfer Integreiddio Gwasanaethau ar gyfer Pobl Hŷn sydd ag Anghenion Cymhleth yng Ngorllewin Cymru [17].

Mae'r holl bartneriaid yn y rhanbarth wedi parhau i symud tuag at fodel cyson o ofal ar gyfer pobl hŷn, yn seiliedig ar egwyddorion llesiant ac atal sydd wedi'u crynhoi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac wedi'u llywio'n lleol gan ystod o gynlluniau a strategaethau gan gynnwys cynlluniau Heneiddio'n Dda, Cynllun Tymor Canolig Integredig y Bwrdd Iechyd, 'Gweledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Bobl Hŷn 2015-25 Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Datganiad o Fwriad rhanbarthol ar gyfer Integreiddio Gwasanaethau ar gyfer Pobl Hŷn sydd ag Anghenion Cymhleth yng Ngorllewin Cymru (2014).

Mae'r ddarpariaeth ar draws y rhanbarth wedi'i seilio ar dair lefel o wasanaeth, sy'n cynnwys tri 'chynnig' i unigolion yn dibynnu ar eu hanghenion:

Cynnig 1: Cymorth i Helpu eich Hun

Darparu gwasanaethau i feithrin gwydnwch ac annibyniaeth unigolion hŷn, helpu pobl i helpu eu hunain ac atal yr angen am ofal parhaus.

Cynnig 2: Cymorth pan fydd ei angen arnoch

Darparu gofal a chefnogaeth i bobl fel y gallant adennill eu lefel flaenorol o annibyniaeth wedi salwch neu anaf. Yn cynnwys ail-alluogi ac adsefydlu gartref.

Cynnig 3: Cefnogaeth Barhaus

Yn cynnwys gwasanaethau i bobl sydd angen gofal neu gymorth mwy hirdymor. Fel arfer fe'i cyflwynir trwy asesiad integredig, gan ddarparu cymorth proffesiynol amlddisgyblaeth. Mae cynlluniau cymorth gofal yn seiliedig ar y cwestiwn 'Beth sy'n bwysig i chi?' gyda chynlluniau sy'n seiliedig ar ganlyniadau'n cael eu darparu yn unol â hynny.

Gofal trwy Gymorth Technoleg

Ar hyn o bryd mae amrywiaeth o raglenni gofal trwy gymorth technoleg yn cael eu defnyddio ar draws Gorllewin Cymru. Mae'r rhain yn amrywio o ddefnyddio tele-iechyd i fonitro a chefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig fel COPD a methiant y galon, i ddefnyddio teleofal i fonitro ac atal cwympiadau. Gall amrywiaeth o raglenni gofal trwy gymorth technoleg helpu pobl i reoli eu cyflyrau, cynyddu hyder a helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Mae ystod eang o wybodaeth a chyngor ar gael, er mwyn helpu pobl i gyflawni eu canlyniadau drwy eu cyfeirio at y cymorth sydd ar gael yn y gymuned.

Trydydd Sector

Mae ystod eang o wasanaethau'r trydydd sector ar gael, sy'n hyrwyddo annibyniaeth, ymgysylltu cymdeithasol a chynhwysiant.

Gofal a Chymorth yn y Cartref

Mae mynediad cyflym at ofal cartref i ddarparu gofal a chymorth pan fydd ei angen, neu yn ystod tymor hir.

Gofal Preswyl a Nyrsio

Mae sawl opsiwn gofal preswyl a nyrsio ar gael ar draws y rhanbarth, o ofal ychwanegol i nyrsio henoed bregus eu meddwl. Ar hyn o bryd mae cyfran sylweddol o'r bobl hŷn sy'n byw yn y lleoliad gofal preswyl yng Ngorllewin Cymru yn ariannu eu lleoliad eu hunain ond efallai y bydd angen cymorth ariannol arnynt yn ddiweddarach.

  • Mae llai o bobl yn dewis gofal preswyl hirdymor, gan greu mwy o alw am ofal yn y gymuned a mwy o angen am ddatblygu llety arall.
  • Tra'n cydnabod nad yw technoleg yn darparu atebion i bawb, gallai gwerthuso, safoni a datblygu gwasanaethau fel teleiechyd a theleofal ar draws y rhanbarth leihau'r galw cynyddol am ofal a chymorth lle bo hynny'n briodol.
  • Os yw'r tueddiadau presennol yn parhau, bydd 160,000 yn fwy o bobl yng Nghymru a Lloegr angen gofal lliniarol erbyn 2040 [16]. Yn ogystal â gwella'r ddarpariaeth liniarol a diwedd oes, byddai cynyddu'r gwaith o weithredu cynllunio gofal ymlaen llaw yn caniatáu i bobl wneud dewisiadau gwybodus cyn cyrraedd sefyllfa argyfyngus a llywio datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol.

Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd pobl hŷn. Dangosodd arolwg ledled y DU a gynhaliwyd ym mis Ebrill/Mai 2020 fod methu cael mynediad at wasanaethau cymorth cymdeithasol oherwydd COVID yn cyfrannu at ansawdd bywyd gwaeth a mwy o bryder ymysg oedolion hŷn a rhai â dementia [11]. Mae angen i wasanaethau cymorth cymdeithasol barhau i addasu i ddarparu gwasanaethau cymorth i'r rheiny y gallai COVID effeithio arnynt yn y dyfodol.

Mae COVID-19 wedi bod yn gyfrifol am farwolaeth miloedd o bobl hŷn yng Nghymru. Yn ystod ton gyntaf COVID-19, amcangyfrifwyd bod 47,243 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru a Lloegr, ac o'u plith roedd 41,608 dros 65 oed. Mae hyn yn cynnwys amcangyfrif o 1,757 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru [12]. Ym misoedd Mawrth ac Ebrill 2020 yn unig, amcangyfrifwyd bod 20,000 yn fwy o farwolaethau yn sector gofal Cymru a Lloegr nag a ddisgwylid fel arfer [13]. Ymhlith ffactorau eraill y pandemig ar y boblogaeth hŷn y mae'r effaith negyddol ar iechyd meddwl, ynghlwm wrth arwahanrwydd cymdeithasol oherwydd y cyfnod clo, ac o bosibl anghenion gofal cynyddol oherwydd yr effaith hirdymor ar iechyd y sawl sydd wedi goroesi COVID-19.

Cyfeiriadau:

  1. [11] Giebel C, Lord K, Cooper C, Shenton J, Cannon J, Pulford D, Shaw L, Gaughan A, Tetlow H, Butchard S, Limbert S, Callaghan S, Whittington R, Rogers C, Komuravelli A, Rajagopal M, Eley R, Watkins C, Downs M, Reilly S, Ward K, Corcoran R, Bennett K, Gabbay M. A UK survey of COVID-19 related social support closures and their effects on older people, people with dementia, and carers. Int J Geriatr Psychiatry, 2021 Mar;36(3):393-402. doi: 10.1002/gps.5434. Epub 2020 Sep 25. PMID: 32946619; PMCID: PMC7536967
  2. [12] Kontopantelis E, Mamas MA, Deanfield J, Asaria M, Doran T. Excess mortality in England and Wales during the first wave of the COVID-19 pandemic. J Epidemiol Community Health, 2021 Mar;75(3):213-223. doi: 10.1136/jech-2020-214764. Epub 2020 Oct 15. PMID: 33060194; PMCID: PMC7892396. 48
  3. [13] Burki T. England and Wales see 20,000 excess deaths in care homes. Lancet, 2020 May 23;395(10237):1602. doi: 10.1016/S0140-6736(20)31199-5. PMID: 32446403; PMCID: PMC7241982
  4. [16] Etkind SN, Bone AE, Gomes B, Lovell N, Evans CJ, Higginson IJ, Murtagh FEM. How many people will need palliative care in 2040? Past trends, future projections and implications for services. BMC Med. 2017 May 18;15(1):102. doi: 10.1186/s12916-017-0860-2. PMID: 28514961; PMCID: PMC5436458
  5. [17] https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/3345/older-people-vision.pdf