Gall nam ar y synhwyrau fod yn gyflwr sylweddol sy'n cyfyngu ar fywyd, ac mae'r heriau sy'n gysylltiedig â'r cyflwr yn debygol o dyfu dros y degawdau nesaf.
Mae pobl â nam ar y synhwyrau yn fwy tebygol o deimlo'n unig ac wedi'u hynysu. Canfu ymchwil gan yr RNID yn 2000 fod 66% o bobl fyddar a thrwm eu clyw yn teimlo'n ynysig oherwydd bod eu cyflwr yn eu heithrio o weithgareddau bob dydd.
Mae nam ar y synhwyrau yn rhywbeth sy'n torri ar draws gwasanaethau ledled y system gyfan; mae'n bwysig bod ymwybyddiaeth a gwasanaethau nam ar y synhwyrau yn rhan annatod o'r system ddarpariaeth gyfan.
Gall y cyfuniad o ddau nam ar y synhwyrau olygu y bydd person byddar yn cael anhawster, neu'n ei chael yn amhosibl, i ddefnyddio ac elwa'n llawn ar wasanaethau i bobl fyddar neu wasanaethau i bobl ddall. Felly, mae angen dull gweithredu gwahanol i ddiwallu anghenion pobl fyddar-ddall.
Ar wahân i'r anawsterau o ddydd i ddydd, mae gan bobl â nam ar y synhwyrau hefyd ganlyniadau iechyd gwaeth, cyfraddau tlodi uwch a chyflawniadau addysgol is na phobl sy'n rhydd o anabledd.
- Rhagwelir y bydd nam ar y golwg a nam ar y clyw yn cynyddu yng Ngorllewin Cymru dros y blynyddoedd nesaf
- Mae'r ffactorau sy'n cyflymu colli golwg yn cynnwys diabetes a gordewdra
- Mae nam ar y synhwyrau yn gysylltiedig â risg uwch o gael codymau ac mae ofn cael codwm yn cael effaith fawr ar allu pobl i aros yn annibynnol.